Yr Ynfytyn

Nawr ac yn man mae’n werth gwneud chwiliad blog am dermau fel ‘cymru’, ‘cymraeg’, ‘caerdydd’ neu ‘eich lleoliad chi’ er mwyn dod o hyd i flogiau Cymraeg newydd. Fel arfer pan dwi’n gwneud hyn dwi’n darganfod fod Nic, Rhys neu Geraint wedi bod yno rhai misoedd o’ mlaen i.

Ond ddim tro yma, y diawled. Des i ar draws Yr Ynfytyn, rhyw fath o bapur newydd ffug ynghyd a lluniau hefyd. Newydd ddechrau mae e a does dim llawer o wybodaeth amdano yno. Mae’n cynnwys erthyglau dychanol, sych, sydd yn amlwg wedi eu hysbrydoli gan eitemau newyddion go iawn. Dwi’n meddwl falle nad blog yw’r ffurf gorau ar gyfer rhywbeth fel hwn ond mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae’n datblygu.

Postiwyd yn Rhithfro | 3 Sylw

Y Syniad Mawr Nesaf

Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu.

Mae hyn wedi golygu fod nifer o bobl wedi neidio ar yr un cwch a wedi meddwl am gychwyn gwefannau fel hyn ei hunain. Mewn gwirionedd, mae bron yn amhosib defnyddio syniad unigryw a’i efelychu mewn ffordd sydd ‘hyd yn oed yn fwy unigryw’. Dros y misoedd diwethaf yn y gwaith dwi wedi gweld pob math o syniadau gwirion yn dod mewn. Roedd rhai unigolion eisiau dechrau gwefan ‘yr un peth a Hotmail/Google/Flickr’, a daeth hanner dwsin o syniadau am wefannau ‘rhwydweithio cymdeithasol’; cynnig ffordd o gyfarfod a phobl o’r un diddordeb; ffeindio cariad; fforwm drafod ar rhyw bwnc arbennig.

Dau beth amlwg sy’n cysylltu’r syniadau yma i gyd – mae nhw eisiau dylunio ac adeiladu y wefan am y nesa peth i ddim a dy’n nhw ddim yn siwr iawn sut i wneud arian o’r wefan (neu fod ei cynllun busnes yn ‘gyfrinachol’ – fel arfer mae hyn yn golygu fyddan nhw’n gwneud pethau lan wrth iddyn nhw fynd ymlaen).

Y ffenomenon ddiweddaraf yw ‘gwerthu picsels’. Mae hwn yn con trick arbennig o dda, a ddechreuwyd gan Alex Tew. Prif fwriad y tric yma yw nid gwerthu hysbysebion, ond creu stori ddeniadol i’r cyfryngau – “dyma fi, fyfyriwr tlawd, yn gwneud ffortiwn ar y we heb godi bys”.

I fod yn deg, mae hwn yn ffordd hawdd o wneud arian sydd a hanes eitha hir, o gardota i fysgio ac i’r dulliau mwy dyfeisgar ar y we heddiw. Os gerddwch chi lawr Heol y Frenhines yng Nghaerdydd a gofyn i bawb sy’n pasio am 10 ceiniog i wneud ‘galwad ffôn bwysig’ mi fydd ganddoch chi nifer o bunnoedd erbyn i chi gyrraedd y castell.

Pwy fydd yn ymweld a gwefan y miliwn doler ar ôl i’r stori ddiflannu o’r cyfryngau? Neb – a felly dros y 5 mlynedd hir nesaf, ni fydd llawer o neb yn gweld yr hysbysebion. Mae rhan fwyaf o’r hysbysebwyr ar y safle yn ddigon cefnog i sbario ychydig ddoleri er mwyn dod yn ‘rhan o’r stori’, yn enwedig felly y cyfryngau torfol neu gwefannau gamblo. Wrth gwrs mae yna farchnad yn barod ar gyfer ‘prynu picsels’ – trefn mwy synhwyrol lle gall cwmnïau roi hysbysebion testun neu graffeg ar wefannau arall – gwefannau sydd o ddiddordeb i bobl ac yn cynyddu ei cynulleidfa yn raddol dros y blynyddoedd.

Mae’r uchod i gyd yn ffordd hir o ddod at ‘yr ongl Gymreig’ i’r ffasiwn rhyfedd yma, sef Million Pixel Wales a mi fydd Miliwn Picsel Cymru hefyd i gael cyn hir. Mae nifer o bobl eraill wedi trio efelychu’r syniad gwreiddiol felly fydd e’n ddiddorol gweld sut fydd sgam syniad unigryw yma yn datblygu.

Postiwyd yn Gwaith, Y We | 1 Sylw

Allan o ffocws

Mae nifer yn y byd blogio wedi cyfeirio at luniau arbennig Olivio Barberi lle mae’n defnyddio lens arbennig i greu’r argraff fod golygfa o’r awyr yn edrych fel model bach. Mae’r cefndir allan o ffocws yn creu dyfnder yn yr olygfa a thwyllo’r ymennydd i’w weld fel llun o rywbeth agos. Dwi’n amau fod nifer o driciau arall yn cael ei ddefnyddio hefyd – dinoethi’r llun ychydig er mwyn cael llun goleuach, fel byddai wrth oleuo model yn agos.

Fel Gareth, wnes i sylweddoli byddai’n bosib ail-greu yr effaith drwy feddalwedd graffeg. Dyma fy ddau ymgais i (mae’r lluniau wedi ei cymeryd o fan hyn.

Bae CaerdyddStadiwm y Mileniwm

Postiwyd yn Lluniau | 1 Sylw

Cwch ar dân…

Newydd gael llun ar ffôn gan fy mrawd, sydd lan yn ynysoedd y Shetland ar gyfer gŵyl Up Helly Aa. Mae’n edrych yn gynhesach fynna na mae e fan hyn yn y tŷ.
Up Helly Aa

Postiwyd yn Bywyd, Lluniau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cwch ar dân…

Sioni’r Sbwng

Mae Bwrdd yr Iaith wedi lansio ymgyrch bach heddiw o’r enw ‘Kids soak it up‘ (yr iaith hynny yw). Mae’r deunydd hyrwyddo yn defnyddio cymeriad bach rhyfedd – dwi ddim yn siwr beth yw ei enw ond dwi am ei enwi’n Sioni’r Sbwng.

A dyma fy ychwanegiad i i’r fenter (cliciwch am lun mwy)

Lladd Cathod

Postiwyd yn Hwyl, Iaith, Y We | 3 Sylw