Archifau Categori: Cyffredinol
Lle mae pethau’n mynd os nad ydw i’n gallu meddwl am gategori addas.
Isdeitlau gorfodol S4C
Mae S4C wedi datgan eu bod am ddangos isdeitlau gorfodol (h.y. wedi llosgi ar y sgrîn) wythnos nesaf fel ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth isdeitlo. Mae hyn yn dilyn syniad dwl Tweli Griffiths ym mis Rhagfyr o roi isdeitlau … Continue reading
Torri coeden
Sawl gweithiwr o’r cyngor sydd angen i dorri coeden? Ateb: 6. 1 i dorri’r goeden a 5 i sefyllian o gwmpas yn yfed mygiau o de: Roedd hi’n foncyff trwchus iawn chwarae teg felly fe gymerodd hi dros 4 awr … Continue reading
Brechdanau Cymraeg
Ers tro nawr ‘wi wedi gweld fan yn mynd o gwmpas Caerdydd gyda’r arwydd ‘Brechdanau Cymraeg’ ar ei ochr. Heddiw weles i’r gyrrwr yn tynnu mewn i brif adeilad Prifysgol Caerdydd, felly es i draw a gofyn iddo: “Beth yw’r … Continue reading
Llun y pennawd
Dwi wedi newid llun ar ben y dudalen o’r hen un diflas, hydrefol i dirlun mwy addawol. Dyw’r olygfa ddim yn bodoli mewn gwirionedd – mae’n lun cyfansawdd ffotosiop (neu Adobe® Photoshop®). Tynnwyd y lluniau gwreiddiol o ffenest fy swyddfa … Continue reading
Pedwar Peth
Dwi ddim yn wir hoffi llenwi’r rhestrau ‘ma, ond gan fod Nic wedi fy pasio hwn mlaen i fi, wnai rhoi gynnig arni. Pedwar swydd dw i wedi’u cael Ffilmio gwaith ffordd yr M4 yn Llansawel (wel, profiad gwaith oedd … Continue reading