Y Syniad Mawr Nesaf

Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu.

Mae hyn wedi golygu fod nifer o bobl wedi neidio ar yr un cwch a wedi meddwl am gychwyn gwefannau fel hyn ei hunain. Mewn gwirionedd, mae bron yn amhosib defnyddio syniad unigryw a’i efelychu mewn ffordd sydd ‘hyd yn oed yn fwy unigryw’. Dros y misoedd diwethaf yn y gwaith dwi wedi gweld pob math o syniadau gwirion yn dod mewn. Roedd rhai unigolion eisiau dechrau gwefan ‘yr un peth a Hotmail/Google/Flickr’, a daeth hanner dwsin o syniadau am wefannau ‘rhwydweithio cymdeithasol’; cynnig ffordd o gyfarfod a phobl o’r un diddordeb; ffeindio cariad; fforwm drafod ar rhyw bwnc arbennig.

Dau beth amlwg sy’n cysylltu’r syniadau yma i gyd – mae nhw eisiau dylunio ac adeiladu y wefan am y nesa peth i ddim a dy’n nhw ddim yn siwr iawn sut i wneud arian o’r wefan (neu fod ei cynllun busnes yn ‘gyfrinachol’ – fel arfer mae hyn yn golygu fyddan nhw’n gwneud pethau lan wrth iddyn nhw fynd ymlaen).

Y ffenomenon ddiweddaraf yw ‘gwerthu picsels’. Mae hwn yn con trick arbennig o dda, a ddechreuwyd gan Alex Tew. Prif fwriad y tric yma yw nid gwerthu hysbysebion, ond creu stori ddeniadol i’r cyfryngau – “dyma fi, fyfyriwr tlawd, yn gwneud ffortiwn ar y we heb godi bys”.

I fod yn deg, mae hwn yn ffordd hawdd o wneud arian sydd a hanes eitha hir, o gardota i fysgio ac i’r dulliau mwy dyfeisgar ar y we heddiw. Os gerddwch chi lawr Heol y Frenhines yng Nghaerdydd a gofyn i bawb sy’n pasio am 10 ceiniog i wneud ‘galwad ffôn bwysig’ mi fydd ganddoch chi nifer o bunnoedd erbyn i chi gyrraedd y castell.

Pwy fydd yn ymweld a gwefan y miliwn doler ar ôl i’r stori ddiflannu o’r cyfryngau? Neb – a felly dros y 5 mlynedd hir nesaf, ni fydd llawer o neb yn gweld yr hysbysebion. Mae rhan fwyaf o’r hysbysebwyr ar y safle yn ddigon cefnog i sbario ychydig ddoleri er mwyn dod yn ‘rhan o’r stori’, yn enwedig felly y cyfryngau torfol neu gwefannau gamblo. Wrth gwrs mae yna farchnad yn barod ar gyfer ‘prynu picsels’ – trefn mwy synhwyrol lle gall cwmnïau roi hysbysebion testun neu graffeg ar wefannau arall – gwefannau sydd o ddiddordeb i bobl ac yn cynyddu ei cynulleidfa yn raddol dros y blynyddoedd.

Mae’r uchod i gyd yn ffordd hir o ddod at ‘yr ongl Gymreig’ i’r ffasiwn rhyfedd yma, sef Million Pixel Wales a mi fydd Miliwn Picsel Cymru hefyd i gael cyn hir. Mae nifer o bobl eraill wedi trio efelychu’r syniad gwreiddiol felly fydd e’n ddiddorol gweld sut fydd sgam syniad unigryw yma yn datblygu.

Postiwyd y cofnod hwn yn Gwaith, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Y Syniad Mawr Nesaf"