Mae nifer yn y byd blogio wedi cyfeirio at luniau arbennig Olivio Barberi lle mae’n defnyddio lens arbennig i greu’r argraff fod golygfa o’r awyr yn edrych fel model bach. Mae’r cefndir allan o ffocws yn creu dyfnder yn yr olygfa a thwyllo’r ymennydd i’w weld fel llun o rywbeth agos. Dwi’n amau fod nifer o driciau arall yn cael ei ddefnyddio hefyd – dinoethi’r llun ychydig er mwyn cael llun goleuach, fel byddai wrth oleuo model yn agos.
Fel Gareth, wnes i sylweddoli byddai’n bosib ail-greu yr effaith drwy feddalwedd graffeg. Dyma fy ddau ymgais i (mae’r lluniau wedi ei cymeryd o fan hyn.
Gan Mei 9 Chwefror 2006 - 7:54 am
Dwi’n hoff iawn o’r ail un – o’n i’n meddwl mai model oedd o i ddechra!