Cofio Dad

Bu farw fy nhad bythefnos yn ôl. Roedd ei iechyd wedi bod fregus ers rhai blynyddoedd ond daeth y diwedd yn sydyn. Aeth mewn i’r ysbyty ar y dydd Gwener, a’i drin am niwmonia. Yr wythnos wedyn, dathlodd ei ben-blwydd yn 77 mlwydd oed yn yr ysbyty. Nid oedd y driniaeth gwrthfioteg yn gweithio ac nid oedd unrhyw arwydd o wella. Gofynnodd Dad i’r teulu agos ddod i fewn ar y dydd Iau ac fe’i symudwyd i stafell breifat. Wedi i bawb gyrraedd mynnodd i ni gyd gymeryd wydraid o Gin a Tonic. Cymerodd lymaid a gwnaeth lwncdestun i’n dyfodol. Caeodd ei lygaid ac o fewn chwarter awr aeth i gysgu.

9 mlynedd yn ôl cafodd ddiagnosis o Ffibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint. Mae’r afiechyd creulon hwn yn golygu bod creithiau yn ffurfio o fewn yr ysgyfaint sy’n lleihau’r cyfaint o ocsigen sy’n cael ei basio i’r gwaed. Does dim achos amlwg i’r afiechyd hwn a does dim modd ei wella, er fod ymchwil yn parhau. Wedi’r diagnosis cychwynodd fy nhad gymryd tabledi Pirfenidone, cyffur arbrofol ar y pryd – bwriad hyn oedd arafu’r creithio yn yr ysgyfaint. Dros y blynyddoedd, cafodd adolygiadau iechyd cyson a sylw arbennig gan arbenigwyr a nyrsys o uned afiechydon yr ysgyfaint yn Ysbyty Llandochau.

Ar y ffarm yn ei welingtons

Ganwyd fy nhad yn 1947 a’i enw llawn oedd David Russell Thomas. Doedd e ddim yn or-hoff o’r ffaith mai enw Saesneg oedd ganddo ond dyna oedd y ffasiwn ar y pryd. Er hynny Cymraeg oedd ei famiaith a chafodd fagwraeth mewn cymuned Gymreig wledig a chlos yng Nghraig Cefn Parc a Phontlliw. Russell neu Russ oedd e i’w deulu a ffrindiau. Mae yna nifer o gyndeidiau yn y teulu wedi eu cofnodi ar dystysgrifau geni fel ‘David’ er mai Dafydd neu Dai byddai pobl yn eu galw nhw ar lafar. A dyna sut cefais i’r un enw.

Ar wyliau ym Mharis pan oedd yn fyfyriwr

Astudiodd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac yna MA mewn gwleidyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Essex. Treuliodd flwyddyn yn y Sudan gyda V.S.O. yn dysgu Saesneg mewn ysgol yn Shendi. Cyfarfu Mam yn 1970 ac fe briodon nhw yn 1972. Aeth i weithio fel gwas sifil yng Nghaerdydd yn dilyn ôl-traed ei ewythr a mentor, Handel Clement. Treuliodd gyfnod yn Llundain ac yn ddiweddarach gyda’r adran amaeth yng Nghaernarfon ac Aberystwyth. Nid oedd bob amser yn brofiad dymunol gweithio o dan sawl Ysgrifennydd Gwladol i Gymru yn yr 1980au a 1990au. Ond cafodd y pleser o weithio gyda Ron Davies o 1997 i 1998 cyn dod yn rhan o’r cyfnod cyffrous wrth sefydlu y Cynulliad yn 1999. Cymerodd ymddeoliad cynnar yn 2003 ac felly cafodd gyfnod hir a hapus o ymddeoliad, er nad oedd byth yn segur.

Pan gychwynodd y pandemig ym mis Mawrth/Ebrill 2020 rhybuddiwyd fy nhad gan ei ddoctoriaid byddai dal COVID yn hynod beryglus iddo. Arweiniodd hyn at gyfnod anodd lle roedd yn rhaid iddo gymeryd pob gofal ac osgoi unrhyw gysylltiad agos â phobl eraill. Nid oedd pobl yn cael dod i’r tŷ ac roedd yn rhaid trefnu siopa bwyd ar lein. Roedd datblygiad y brechlynnau wedi ennyn rhywfaint o hyder ond cymerodd dros ddwy flynedd i fy nhad dderbyn cael teulu agos nôl yn y tŷ, unwaith iddynt gymryd prawf COVID. Yn 2022 dathlodd fy rhieni eu priodas aur (yn yr ardd)

Dathlu priodas aur Mam a Dad

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Dad y boddhad mawr o ymweliadau cyson gan ei ŵyr Gwion, yn ei arddegau erbyn hyn. Roedd wrth ei fodd yn trafod gyda Gwion am ei ddiddordebau fel Ffiseg, y gofod a gemau fideo a dysgodd sut i chwarae gemau ar ei benwisg VR.

Un sgîl-effaith ffodus o’r cyfnodau o ‘warchae’ adref oedd y cyfle i fy nhad ymchwilio ac ysgrifennu. Roedd eisioes wedi casglu swmp o gwybodaeth am ei goeden deulu ac aeth ati i ysgrifennu hanes manwl am y teulu ar ei ochr ef ac ochr Mam. Ysgrifennodd hanes ei yrfa ac ei fywyd a gosododd hyn allan ar y cyfrifiadur gan gynnwys lluniau perthnasol o’i archif. Argraffwyd llyfrau allan o’r dogfennau hyn drwy gwmni ar y we, gyda chopi yr un yn mynd i’r teulu agos. Rhyw fis cyn ei farwolaeth, cwblhaodd y fersiwn diweddaraf o’i hunangofiant fyny at mis Mawrth 2024, trysor gwerthfawr i ni fel teulu.

Postiwyd yn Cyffredinol | 2 Sylw

Eisteddfod ar yr intyrnet

Mae’r we mor greiddiol i gymaint o’n profiadau heddiw fel ei fod yn hawdd anghofio am lawer o’r datblygiadau cynnar yn y 1990au. Ond diolch i glip archif ar wefan BBC Cymru Fyw, fe ysgogodd ychydig o atgofion.

25 mlynedd yn ôl, i’r wythnos os nad i’r diwrnod, roeddwn i yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele, lle roedd cysylltiad rhyngrwyd ar gael ar y Maes am y “tro cyntaf” (rhaid i rywun frolio am wneud y cyntaf o’r fath beth bynnag, sy’n sicrhau y cofnod mewn hanes).

Roeddwn i wedi lansio gwefan Curiad yn gynharach yn y flwyddyn ac fe ymddangosodd ar raglen Uned 5 ym Mehefin 1995:

Yn y cyfnod yna cefais i gefnogaeth a chymorth gan Rhys Jones a oedd wedi creu y gymuned rhith ‘Gwe-Awe’ sydd yn ymddangos yn y fideo uchod. Y datblygiad mwyaf defnyddiol oedd cael gofod parhaol i wefan Curiad ar ei weinydd ef, gyda’r cyfeiriad www.wales.com/curiad i ddechrau yna curiad.wales.com.

Yn y misoedd yn arwain at Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995, roedd Rhys wedi cychwyn cwmni Technoleg Gwe i ddatblygu gwefannau ac fe greodd wefan gyda gwybodaeth am yr Eisteddfod. Mae yna erthygl yn y Western Mail ar 19 Mai 1995 yn esbonio’r bwriad (diolch i’r Rhys Jones arall am y sgan).

 alt=

Mae canlyniad hyn i gyd i’w weld ar glip fideo o’r archif mewn stori gan BBC Cymru Fyw wythnos ddiwethaf lle mae Rhys yn esbonio’r dechnoleg gyffrous newydd. Rhyw fath o gaffi seiber oedd yno, ym mhabell Busnes/Technoleg y WDA, gyda sawl cyfrifiadur ar gael i “syrffio’r rhyngrwyd”.

Roeddwn i wedi ychwanegu gwybodaeth gigs a newyddion ar wefan Curiad yn y mis cyn y Steddfod, fel mae’r archif yn dangos. Yn ôl ebost gen i ar pryd, o’n i hefyd wedi bod yn creu mapiau o Gymru er mwyn datblygu gwefan ‘Cymru Rhithwir’ ond does gen i ddim syniad yn union be ddaeth ohono! (rhyw fath o Google Maps cyntefig rwy’n amau).

Yn ystod yr wythnos, fy swydd i oedd helpu pobl gyda defnyddio’r we, ateb cwestiynau ac ati. Wnes i gyfweliad byr ar Radio Cymru yn ceisio esbonio’r intyrnet bondigrybwyll i’r gwrandawyr, er does gen i ddim cof o be ddwedes i.

Datblygodd y ddarpariaeth y flwyddyn ganlynol gyda pabell ar wahan er mwyn creu fwy o gaffi seiber cyffyrddus gyda cadeiriau o flaen tua 8 neu 10 cyfrifiadur. Roeddwn i nôl eto yn 1996 a 1997 i ofalu am y ‘caffi’.

Roedd hyn i gyd cyn bodolaeth Google neu unrhyw beiriant chwilio’r we, felly roedd rhaid dilyn o ddolen i ddolen drwy’r we. Byddai’r dudalen cartref ‘Eisteddfod ar yr Internet’ felly yn cynnig dolenni i’r nifer fechan o wefannau Cymraeg oedd ar gael ar y pryd. Erbyn 1996 roedd y peiriant chwilio Altavista yn bodoli ac roedd cyfeiriadur Yahoo yn hynod o ddefnyddiol i’r We Gymraeg cynnar hefyd.

Yn y dyddiau hynny yr unig gysylltiad posib i’r rhyngrwyd oedd drwy linell ffôn analog. Rwy’n ansicr os oedd hi’n bosib cael cysylltiad ISDN ar faes yr Eisteddfod yn 1995, heblaw efallai am Swyddfa’r Eisteddfod. Roedd yn bosib i’w gael erbyn y 1990au hwyr yn bendant.

Yn y byd analog, roedd y cysylltiad i’r rhyngrwyd drwy fodem (33.6 kbit/s ar y mwyaf) wedi ei gysylltu i weinydd Linux, oedd yn deialu fyny rhif ffôn lleol (i gyfrif rhyngrwyd gyda Demon Internet). Roedd y gweinydd hefyd yn ddirprwy i weddill y cyfrifiaduron ar y rhwydwaith leol. Felly byddai’r gweinydd yn gallu cadw gwefannau ar storfa leol, meddalwedd Squid mwy na thebyg, a byddai hyn yn arbed ail-drosglwyddo ceisiadau dros y cysylltiad modem araf.

Yr unig beth oedd angen gofalu amdano mewn gwirionedd oedd ail-gychwyn y cysylltiad rhyngrwyd os oedd y llinell ffôn yn gollwng. A byddai rhaid gofalu na fyddai plant yn edrych ar bethau rhy amheus ar y cyfrifiaduron (nid fod pethau amheus yn hawdd i’w canfod adeg hynny).

Does dim archif hyd y gwn i o’r wefan Eisteddfodol gyntaf yna, na Gwe-Awe. Mae’r cof yn dechrau pylu am lawer o’r manylion am y datblygiadau cynnar, er mod i gen i rhai negeseuon ebost o’r cyfnod sy’n rhoi rhywfaint o fanylion.

Felly mae’r ffaith ei fod wedi gofnodi gan eitemau newyddion/nodwedd ar deledu yn eitha defnyddiol – ond yn sicr mae yna fwy yn archif y darlledwyr.

Diweddariad 4 Awst: Bron i fi anghofio am yr erthygl a ymddangosodd yn y Western Mail ar 11 Awst 1995sgan ar Flickr

Postiwyd yn Cymraeg, Technoleg, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Eisteddfod ar yr intyrnet

Gwefannau archif BBC Cymru

Diweddariad 9/9/2019 – wedi cael neges gan y BBC mai trafferthion technegol oedd ar fai a fod y gwefannau wedi eu hadfer erbyn hyn.

Rwy newydd ddanfon yr ymholiad canlynol i’r BBC.


Pam fod holl hen wefannau BBC Cymru wedi diflannu? Dyma’r rhai oedd wedi nodi gyda “Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach” e.e. https://www.bbc.co.uk/cymru/cerddoriaeth neu https://www.bbc.co.uk/cymru/lleol.

Ar hyn o bryd nid yw’r gwefannau cyfatebol o fewn www.bbc.co.uk/wales wedi ei archifo.

Yn ôl cofnod blog “Labelling BBC Online’s archived websites” mae’n dweud

“Normally, we don’t delete content unless it presents a risk of causing harm or damage today …In general, once a piece of content is published on BBC Online, it should stay there, and we’re committed to making sure it remains available for generations to come.”

Ar y dudalen Archif BBC Cymru (sydd hefyd wedi diflannu) mae’n dweud “Yn ein barn ni, mae’r gwefannau hyn fel arfer yn cynnwys llawer o wybodaeth ynglŷn â’r rhaglen neu’r digwyddiad a allai fod o ddiddordeb yn y dyfodol. Nid ydym am ddileu tudalennau y gallai defnyddwyr fod wedi eu nodi fel ffefrynnau neu sydd wedi’u cysylltu â nhw mewn ffyrdd eraill.”

Rwy’n llwyr gytuno.

Mae yna lawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol tu hwn ar y gwefannau a does dim llawer o ots os oes rhai elfennau wedi torri e.e. fideos mewn hen fformat. Mae llawer o’r tudalennau yn ffynhonnell i ffeithiau ar Wicipedia. Mae’r gwefannau wedi ei archifo yn rhannol ar web.archive.org ond mae llawer o gysylltiadau allanol i’r hen wefannau a mae’r URLs yn dal i ddod fyny mewn chwiliadau ar beiriannau chwilio.

Mae rhestr llawn o’r gwefannau coll ar gael fan hyn:

Yn edrych ymlaen at eich ymateb.

Postiwyd yn Cyfryngau, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gwefannau archif BBC Cymru

Effaith y Saeson

Mae yna lawer o sylw haeddiannol wedi ei roi yn ddiweddar i Le Kov, yr albwm pop Cernyweg gan Gwenno Saunders. Ond does dim byd newydd dan haul ac efallai nid pawb sy’n gyfarwydd a phrosiect ‘Effaith y Saeson‘ a wnaed gan John Grindell yn 1990. Mae’n cynnwys caneuon mewn Saesneg, Cymraeg, Gaeleg a’r Gernyweg yn arddull synthpop arferol Grindell ond yn fwy arbrofol na’r arfer drwy samplo llais i greu rythmau.

Nid oedd y caset ar gael yn dy siop Gymraeg leol, ond nôl yn y dydd wnes i ddanfon caset C90 at John a ches i gopi yn ôl, ynghyd a Mega Mics “Dawnsio ar y Sgwar” ar ochr B. Mae’r tâp yn swnio ychydig yn sigledig erbyn hyn – efallai oherwydd y trosglwyddiad gwreiddiol, neu oed y tâp.

Ces i ganiatad John i bostio’r caneuon fan hyn ond mi fydd hefyd yn edrych i drosglwyddo’r caneuon o’r tapiau meistr ei hun.

Mae’r caset yn dechrau gyda “Nid Digon Dawnsio ar Y Sgwâr” sy’n addasiad o ‘hit’ mawr John sef “Dawnsio ar y Sgwâr” (SAIN 124E, 1986)

Fy hoff ganeuon ar y tâp ydi “Deffra, Gaeleg a Choda dy Lais”, “Den am Puskes” (Y Pysgotwr) a “Teithio drwy Brydain”.

Dyma archif o’r caneuon i gyd. (82MB)

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Effaith y Saeson

Diogelwch gwefannau (rhan 3)

Yn dilyn ymlaen o gofnodion blaenorol am wefannau sy’n defnyddio technoleg SSL/TLS mae yna ddiweddariad pwysig arall yn y dyddiau diwethaf. I fenthyg ymadrodd rhywun arall, mae diogelwch ar gyfrifiaduron yn broses nid digwyddiad. Os ydych chi’n rhedeg unrhyw fath o wasanaeth cyhoeddus ar y we rhaid cadw fyny gyda’r dechnoleg a’r canllawiau diweddaraf.

Mae’r gwendid difrifol ddiweddaraf (o’r enw DROWN) yn defnyddio gwall ym mhrotocol SSL v2 er mwyn torri diogelwch ar brotocolau mwy modern TLS. Nawr, does dim rheswm yn y byd fod SSL v2 wedi ei droi ymlaen ar unrhyw wefan. Datblygwyd y ddau brotocol yn 1995 a 1996 a maen nhw’n llawn gwallau sy’n golygu nad ydyn nhw’n trosglwyddo gwybodaeth mewn modd cadarn a diogel. Doedd hyn ddim yn arfer bod yn broblem am nad yw porwyr modern yn defnyddio SSL v2 beth bynnag, ond mae wastad perygl o adael hen brotocol anniogel ‘yn y golwg’. A dyma lle mae techneg DROWN yn dod i’r fei.

Dwi ddim wedi galluogi v2 ar unrhyw system ers diwedd y 1990au. Ers cwpl o flynyddoedd dwi wedi troi v3 i ffwrdd hefyd – os ydych chi’n rhedeg unrhyw wefan e-fasnach ac yn cael arolwg PCI wedi ei wneud, hwn yw un o’r pethau cyntaf sy’n codi. Y dechnoleg fwyaf modern yw TLS 1.2 ond mae angen cefnogi TLS 1.0 ar hyn o bryd er mwyn gwasanaethu hen borwyr Internet Explorer 7-10 a hen fersiynau o Android ac iOS. O fewn cwpl o flynyddoedd, mi fydd TLS 1.0 yn cael ei ddiffodd hefyd.

Yn anffodus mae SSL v2/3 yn parhau i fod wedi eu galluogi yn ddiofyn ar nifer o systemau, yn enwedig gweinyddion Windows. Dyma rhai o’r gwefannau sy’n dal i’w ddefnyddio wrth i mi brofi heddiw:

  • plaid.cymru
  • traveline.cymru
  • agored.cymru
  • comisiynyddygymraeg.cymru
  • cynulliad.cymru
  • cardiff.gov.uk (newidiwyd tua 2016-03-19)
  • llgc.org.uk (newidiwyd 2016-03-04)
  • porth.ac.uk (newidiwyd 2016-03-04)

(ynghyd a nifer o wefannau prifysgolion sy’n rhy faith i’w rhestru)

Dwi wedi cysylltu gyda phawb ar y rhestr i rybuddio am y gwall.

Postiwyd yn Gwaith, Technoleg, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Diogelwch gwefannau (rhan 3)