Yr Ynfytyn

Nawr ac yn man mae’n werth gwneud chwiliad blog am dermau fel ‘cymru’, ‘cymraeg’, ‘caerdydd’ neu ‘eich lleoliad chi’ er mwyn dod o hyd i flogiau Cymraeg newydd. Fel arfer pan dwi’n gwneud hyn dwi’n darganfod fod Nic, Rhys neu Geraint wedi bod yno rhai misoedd o’ mlaen i.

Ond ddim tro yma, y diawled. Des i ar draws Yr Ynfytyn, rhyw fath o bapur newydd ffug ynghyd a lluniau hefyd. Newydd ddechrau mae e a does dim llawer o wybodaeth amdano yno. Mae’n cynnwys erthyglau dychanol, sych, sydd yn amlwg wedi eu hysbrydoli gan eitemau newyddion go iawn. Dwi’n meddwl falle nad blog yw’r ffurf gorau ar gyfer rhywbeth fel hwn ond mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae’n datblygu.

Postiwyd y cofnod hwn yn Rhithfro. Llyfrnodwch y paraddolen.

3 Responses to "Yr Ynfytyn"