Be nesa? Rhan 2

Mi wnes i sôn yn rhan 1 mod i wedi archebu cysylltiad band llydan newydd gyda Be. Felly dyma ail ran yr antur.

Mae cwmni Be yn darparu caledwedd eu hunain sy’n cael ei fenthyg i’r cwsmer (mae’n rhaid ei ddanfon yn ôl os ydych chi’n canslo’r gwasanaeth). Ychydig yn od efallai, ond roedd y cwmni yn un o’r rhai cynta i ddarparu gwasanaeth ADSL2+ ac ar y pryd doedd dim llawer o galedwedd ar gael oedd yn cefnogi’r safon yna. Erbyn hyn mae yna ddigon, felly does dim angen defnyddio caledwedd y Be mewn gwirionedd.

Mewn llai na wythnos ar ôl archebu mi ges i becyn yn y post yn cynnwys yr holl offer oedd angen:

Offer Be

Mae’r pecyn yn cynnwys modem/llwybrydd Be Box, dau hidlydd ADSL, gwifren i gysylltu’r bocs a’r ffôn, gwifren ethernet i gysylltu a chyfrifiadur a CD yn cynnwys meddalwedd.

Fel ddwedes i does dim angen defnyddio y caledwedd yma ond mae’n gwerth cael pethau i’w weithio gyda’r offer yma gynta am mai dyma mae Be yn gefnogi’n ‘swyddogol’. Mae’n bosib cysylltu’ch cyfrifiadur i’r ‘Box’ drwy wifren Ethernet neu yn ddi-wifr.

I esbonio’r cefndir – mae dau llinell ffôn yn y tŷ (ar ddau rif ffôn gwahanol) ers dyddiau y perchennog gwreiddiol oedd yn rhedeg busnes o’r tŷ. Cyn 2002 roeddwn i’n ddefnyddio yr ail linell ar gyfer cysylltiad deialu-fyny fel mod i’n gallu cysylltu am oriau maith heb amharu ar y prif linell. Wedyn fe newidiwyd y lein yna i ADSL.

Dwi wedi gosod y bocs eu hunan nesa at y brif llinell ffôn, felly er mwyn hwylustod, wnes i ddefnyddio y cysylltiad di-wifr ar gyfrifiadur fyny llofft.

Offer Be

I ddechrau roedd angen cysylltu a’r bocs er mwyn gosod y manylion cysylltu. Er mwyn gwneud hynny roedd rhaid newid cyfeiriad IP y cyfrifiadur er mwyn bod yn yr un rhwydwaith a’r bocs. Mae gen i gysylltiad band llydan yn barod ar linell ffôn arall, wedi ei gysylltu drwy rwydwaith Ethernet, felly roedd hynny yn cymlethu pethe.

Yn y diwedd wnes i benderfynu cadw’r cysylltiad Ethernet fel yr oedd e a chysylltu yn uniongyrchol i focs Be yn ddi-wifr. Roedd hi’n bosib gallu gweld y ddau gysylltiad o’r un cyfrifiadur ond dim ond un sy’n cael blaenoriaeth (ar y cyfrifiadur penodol yma yn rhedeg Windows XP mae’n weddol hawdd i newid y blaenoriaeth).

Y peth nesa felly oedd rhoi fy manylion i fewn i’r bocs oedd yn broses weddol syml ac yna cysylltu! A dyna lle ddechreuodd y problemau.

I ddechrau fe ges i gysylltiad o tua 1Mb/4Mb. O ran cyflymder ‘fyny’ mae hynny’n wych ond dyw’r cyflymder lawr ddim llawer gwell na’r cysylltiad presennol o tua 5Mb. Yn yr oriau nesa fe wnaeth y cysylltiad i Be dorri llawer gwaith ac ar adegau roeddwn i’n un cael cyflymder o llai na 0.5Mb y ddau ffordd. Beth oedd o’i le? Cofiwch mai dyma’r tro cynta i’r linell ffôn yma gael ei ddefnyddio ar gyfer cysylltiad ADSL.

Ar ôl archwilio y prif soced ffôn, wnes i sylwi fod y ‘faceplate’ ddim cweit yn gafael yn sownd yn y brif soced. Fe wnes i dynnu’r peth i ffwrdd a tynhau’r sgriws i gyd a fe aeth popeth nôl i’w le yn dwt. Ar ôl hynny fe ges i gysylltiad o tua 7Mb. Eitha da ond ddim cweit y 10Mb yr oedd Be wedi amcangyfrif.

Ers hynny mae’r cysylltiad wedi parhau i fod yn ansefydlog a dyw e byth yn cadw 7Mb – mae’n disgyn lawr i 1Mb neu lai yn aml. Felly y cam nesaf oedd cysylltu a Be i weld os oes unrhyw broblem ar y lein. Mae nhw wrthi yn profi’r cysylltiad nawr ac yn y rhan nesa dwi’n gobeithio rhannu’r canlyniadau.

Postiwyd yn Technoleg | 2 Sylw

Y Fargen

Dyma ffilm fer o 2005 gan Rhodri ap Dyfrig a James Nee sydd yn delio a’r thema o golled. Er ei fod yn ffilm drist a tywyll ar yr olwg gynta dwi’n meddwl fod e’n gorffen yn obeithiol. Be ysgrifennwyd yn y llyfr ymwelwyr ar y diwedd? Mae e fyny i’r gwyliwr lenwi’r bwlch yna.

Rhowch glic-ddwbl ar y fideo i gael fideo sgrîn lawn.


Y Fargen (ffilm fer gan James Nee a Rhodri ap Dyfrig) from Rhodri ap Dyfrig on Vimeo.

Postiwyd yn Ffilm, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Y Fargen

Radio Cymru a iPlayer

Mae’r BBC wedi cyhoeddi y bydd yr iPlayer yn dechrau cefnogi rhaglenni HD sydd yn newyddion da. Er fe fydd rhai o’r darparwyr rhyngrwyd yn dechrau cwyno eto y bydd hyn yn creu straen ar eu rhwydweithiau. Mewn gwirionedd y straen ar eu model busnes yw’r broblem a mae’n hawdd rhoi’r bai ar y BBC er fod YouTube yn gyfrifol am lawer mwy o’r ffrydiau fideo ar y rhwyd o fewn y deyrnas anunedig.

Mae yna dal waith i’w wneud ar yr iPlayer o ran darpariaeth Radio Cymru. Os ydw i eisiau gwrando ar Radio Cymru yn fyw ar-lein (nid mod i’n dymuno gwneud fel arfer), dwi’n cael y neges “To play please first install Real Player”. Beth? Dwi ddim eisiau dychwelyd i’r 1990au diolch yn fawr. Ydi Radio Cymru yn rhyw fath o ‘frawd bach’ sy’n cael ei esgeuluso o ran datblygiadau ynghlwm a’r iPlayer?

Postiwyd yn Radio, Y We | 1 Sylw

Be nesa? Rhan 1

Dwi wedi bod yn defnyddio cysylltiad ADSL gartre ers Ionawr 2002 a mae tipyn o newidiadau wedi digwydd ers hynny o ran y dechnoleg. Wnes i ddechrau gyda cysylltiad hynod o gyflym o 512Kb/s gan gwmni Eclipse cyn uwchraddio i 1Mb/s yn Hydref 2003 pan wellodd y dechnoleg. Y flwyddyn wedyn roedd gwasanaeth 2Mb ar gael ac yn 2006 roedd datblygiad pellach lle roedd hi’n bosib cael ‘fyny at 8Mb’, ond dim ond tua 5Mb dwi’n gael.

Beth sydd wedi digwydd ers 2006 ‘te? Un datblygiad yw LLU (Local Loop Unbundling). Mae’r polisi yma yn golygu fod BT yn gorfod agor eu cyfnewidfeydd fel y gall cwmnïau arall osod eu offer nhw ynddo. Oherwydd y gost o wneud hynny, ychydig iawn o gwmnïau sydd yn gallu gwneud hyn a mae nhw’n dueddol o ddewis mannau poblog. Mae 7 cwmni heblaw BT wedi gosod offer yn fy nghyfnewidfa lleol yng Nghaerdydd.

Dyw Eclipse fel darparwr ddim yn ddigon mawr i osod offer LLU ond mae nhw yn defnyddio cwmniau arall er mwyn arbed arian – Tiscali mae’n debyg. Felly dwi’n defnyddio’r dechnoleg yn anuniongyrchol. Oherwydd hyn mi fyddai’n bosib i mi uwchraddio y cyflymder ymhellach i dechnoleg ADSL2+ sy’n cynnig ‘fyny at 24Mb’.

Gan fod y dewis o ddarparwyr wedi ehangu gymaint wnes i ail-ystyried eleni be oeddwn i am wneud. Dyma’r dewis:

  • Aros gyda Eclipse a uwchraddio i 24Mb
  • Newid i ddarparwr ADSL arall sy’n cynnig ‘fyny at 24Mb’
  • Newid i Virgin Media sy’n cynnig ‘fyny at 20Mb’ gyda addewid o ‘fyny at 50Mb’ cyn bo hir

Mae Eclipse wedi bod yn ddarparwr reit dda, ond mae nhw wedi gwaethygu dros y blynyddoedd o ran gwasanaeth a chyfyngiadau ar y cysylltiad. Mae’r cynnig gan Virgin yn atyniadol ond does dim llinell cebl yn y tŷ yn barod, felly fe fyddai angen gosod llinell newydd. Dyw Virgin ddim yn cynnig cyfeiriad IP ‘statig’ chwaith sy’n bwysig i fy nghwaith er mwyn gallu gwneud cysylltiadau trwy waliau tân er enghraifft.

Felly wnes i benderfynu newid darparwr ADSL a wnes i fynd am gwmni Be sy’n ddarparwr LLU (yn rhan o O2) a mae ganddo enw reit dda ymysg gîcs. Un peth diddorol iawn mae nhw’n cynnig yw ‘upload plus’ sef ffordd o gael cyflymder uwch wrth lwytho fyny drwy ‘ddwyn’ ychydig o’r signal ar gyfer llwytho lawr. Mi fyddai hyn yn ddefnyddiol iawn i mi yn enwedig ar gyfer gweithio o gartre a danfon ffeiliau mawr lan y lein.

Dwi wedi cymryd y cam cyntaf sef gosod yr archeb gyda Be, a felly mi fyddai’n blogio ymhellach wrth i bethau ddatblygu.

Postiwyd yn Technoleg | 2 Sylw

Gwynedd Ni

Roedd lansiad gwefan newydd Gwynedd-Ni heddiw, oedd yn brosiect bach difyr i’n dylunwraig Nic.. 5 gwahanol gynllun i’w greu a’r plant yn helpu! Er hynny wnaeth y problemau arferol o ‘dylunio drwy bwyllgor’ ddim amharu ar y gwaith gorffennedig.

Postiwyd yn Gwaith, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gwynedd Ni