Be nesa? Rhan 1

Dwi wedi bod yn defnyddio cysylltiad ADSL gartre ers Ionawr 2002 a mae tipyn o newidiadau wedi digwydd ers hynny o ran y dechnoleg. Wnes i ddechrau gyda cysylltiad hynod o gyflym o 512Kb/s gan gwmni Eclipse cyn uwchraddio i 1Mb/s yn Hydref 2003 pan wellodd y dechnoleg. Y flwyddyn wedyn roedd gwasanaeth 2Mb ar gael ac yn 2006 roedd datblygiad pellach lle roedd hi’n bosib cael ‘fyny at 8Mb’, ond dim ond tua 5Mb dwi’n gael.

Beth sydd wedi digwydd ers 2006 ‘te? Un datblygiad yw LLU (Local Loop Unbundling). Mae’r polisi yma yn golygu fod BT yn gorfod agor eu cyfnewidfeydd fel y gall cwmnïau arall osod eu offer nhw ynddo. Oherwydd y gost o wneud hynny, ychydig iawn o gwmnïau sydd yn gallu gwneud hyn a mae nhw’n dueddol o ddewis mannau poblog. Mae 7 cwmni heblaw BT wedi gosod offer yn fy nghyfnewidfa lleol yng Nghaerdydd.

Dyw Eclipse fel darparwr ddim yn ddigon mawr i osod offer LLU ond mae nhw yn defnyddio cwmniau arall er mwyn arbed arian – Tiscali mae’n debyg. Felly dwi’n defnyddio’r dechnoleg yn anuniongyrchol. Oherwydd hyn mi fyddai’n bosib i mi uwchraddio y cyflymder ymhellach i dechnoleg ADSL2+ sy’n cynnig ‘fyny at 24Mb’.

Gan fod y dewis o ddarparwyr wedi ehangu gymaint wnes i ail-ystyried eleni be oeddwn i am wneud. Dyma’r dewis:

  • Aros gyda Eclipse a uwchraddio i 24Mb
  • Newid i ddarparwr ADSL arall sy’n cynnig ‘fyny at 24Mb’
  • Newid i Virgin Media sy’n cynnig ‘fyny at 20Mb’ gyda addewid o ‘fyny at 50Mb’ cyn bo hir

Mae Eclipse wedi bod yn ddarparwr reit dda, ond mae nhw wedi gwaethygu dros y blynyddoedd o ran gwasanaeth a chyfyngiadau ar y cysylltiad. Mae’r cynnig gan Virgin yn atyniadol ond does dim llinell cebl yn y tŷ yn barod, felly fe fyddai angen gosod llinell newydd. Dyw Virgin ddim yn cynnig cyfeiriad IP ‘statig’ chwaith sy’n bwysig i fy nghwaith er mwyn gallu gwneud cysylltiadau trwy waliau tân er enghraifft.

Felly wnes i benderfynu newid darparwr ADSL a wnes i fynd am gwmni Be sy’n ddarparwr LLU (yn rhan o O2) a mae ganddo enw reit dda ymysg gîcs. Un peth diddorol iawn mae nhw’n cynnig yw ‘upload plus’ sef ffordd o gael cyflymder uwch wrth lwytho fyny drwy ‘ddwyn’ ychydig o’r signal ar gyfer llwytho lawr. Mi fyddai hyn yn ddefnyddiol iawn i mi yn enwedig ar gyfer gweithio o gartre a danfon ffeiliau mawr lan y lein.

Dwi wedi cymryd y cam cyntaf sef gosod yr archeb gyda Be, a felly mi fyddai’n blogio ymhellach wrth i bethau ddatblygu.

Postiwyd y cofnod hwn yn Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.

2 Responses to "Be nesa? Rhan 1"