Be nesa? Rhan 1

Dwi wedi bod yn defnyddio cysylltiad ADSL gartre ers Ionawr 2002 a mae tipyn o newidiadau wedi digwydd ers hynny o ran y dechnoleg. Wnes i ddechrau gyda cysylltiad hynod o gyflym o 512Kb/s gan gwmni Eclipse cyn uwchraddio i 1Mb/s yn Hydref 2003 pan wellodd y dechnoleg. Y flwyddyn wedyn roedd gwasanaeth 2Mb ar gael ac yn 2006 roedd datblygiad pellach lle roedd hi’n bosib cael ‘fyny at 8Mb’, ond dim ond tua 5Mb dwi’n gael.

Beth sydd wedi digwydd ers 2006 ‘te? Un datblygiad yw LLU (Local Loop Unbundling). Mae’r polisi yma yn golygu fod BT yn gorfod agor eu cyfnewidfeydd fel y gall cwmnïau arall osod eu offer nhw ynddo. Oherwydd y gost o wneud hynny, ychydig iawn o gwmnïau sydd yn gallu gwneud hyn a mae nhw’n dueddol o ddewis mannau poblog. Mae 7 cwmni heblaw BT wedi gosod offer yn fy nghyfnewidfa lleol yng Nghaerdydd.

Dyw Eclipse fel darparwr ddim yn ddigon mawr i osod offer LLU ond mae nhw yn defnyddio cwmniau arall er mwyn arbed arian – Tiscali mae’n debyg. Felly dwi’n defnyddio’r dechnoleg yn anuniongyrchol. Oherwydd hyn mi fyddai’n bosib i mi uwchraddio y cyflymder ymhellach i dechnoleg ADSL2+ sy’n cynnig ‘fyny at 24Mb’.

Gan fod y dewis o ddarparwyr wedi ehangu gymaint wnes i ail-ystyried eleni be oeddwn i am wneud. Dyma’r dewis:

  • Aros gyda Eclipse a uwchraddio i 24Mb
  • Newid i ddarparwr ADSL arall sy’n cynnig ‘fyny at 24Mb’
  • Newid i Virgin Media sy’n cynnig ‘fyny at 20Mb’ gyda addewid o ‘fyny at 50Mb’ cyn bo hir

Mae Eclipse wedi bod yn ddarparwr reit dda, ond mae nhw wedi gwaethygu dros y blynyddoedd o ran gwasanaeth a chyfyngiadau ar y cysylltiad. Mae’r cynnig gan Virgin yn atyniadol ond does dim llinell cebl yn y tŷ yn barod, felly fe fyddai angen gosod llinell newydd. Dyw Virgin ddim yn cynnig cyfeiriad IP ‘statig’ chwaith sy’n bwysig i fy nghwaith er mwyn gallu gwneud cysylltiadau trwy waliau tân er enghraifft.

Felly wnes i benderfynu newid darparwr ADSL a wnes i fynd am gwmni Be sy’n ddarparwr LLU (yn rhan o O2) a mae ganddo enw reit dda ymysg gîcs. Un peth diddorol iawn mae nhw’n cynnig yw ‘upload plus’ sef ffordd o gael cyflymder uwch wrth lwytho fyny drwy ‘ddwyn’ ychydig o’r signal ar gyfer llwytho lawr. Mi fyddai hyn yn ddefnyddiol iawn i mi yn enwedig ar gyfer gweithio o gartre a danfon ffeiliau mawr lan y lein.

Dwi wedi cymryd y cam cyntaf sef gosod yr archeb gyda Be, a felly mi fyddai’n blogio ymhellach wrth i bethau ddatblygu.

Postiwyd yn Technoleg | 2 Sylw

Gwynedd Ni

Roedd lansiad gwefan newydd Gwynedd-Ni heddiw, oedd yn brosiect bach difyr i’n dylunwraig Nic.. 5 gwahanol gynllun i’w greu a’r plant yn helpu! Er hynny wnaeth y problemau arferol o ‘dylunio drwy bwyllgor’ ddim amharu ar y gwaith gorffennedig.

Postiwyd yn Gwaith, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gwynedd Ni

Comisiynydd plant

Fe aeth ein gwefan newydd hyfryd ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru yn fyw heddiw (wel ar y penwythnos i fod yn fanwl gywir).

Mae e’n llawn o wybodaeth ddefnyddio am waith y Comisiynydd, ac yn cynnwys gêm ddifyr i brofi faint rydych chi’n wybod am hawliau plant.

Postiwyd yn Gwaith | 2 Sylw

Cariad ac ati.

Fideo dyfeisgar newydd ar gyfer sengl gorau’r Pet Shop Boys ers… yr un dwetha’.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cariad ac ati.

Dydy’n anghyfreithiol

Mae Scymraeg yn hen, hen stori sydd yn cael ei ‘ail-ddarganfod’ nawr ac yn y man gan y cyfryngau, fel mae’r eitem yma yn dangos.

Mae rhan fwyaf o’r cam-gyfieithiadau yn deillio o ‘beiriant cyfieithu‘ a gafodd ei greu flynyddoedd lawer yn ôl gan gwmni di-glem o’r enw ‘Translation Experts‘. (beth am y trades description act ‘te?).

Mae’r peiriant yn cyfieithu “It is illegal to smoke in these premises” i “Dydy ‘n anghyfreithiol at fyga i mewn hyn premises”.

Mi fyddai’n hawdd datrys hyn i gyd os oedd peiriant cyfieithu gwallus y cwmni yn cael ei waredu o’r we yn llwyr (yn anffodus, mi fydd yn byw ymlaen mewn cynnyrch eraill dwi’n amau). Rhai wythnosau yn ôl wnes i ofyn i Fwrdd yr Iaith os oedd unrhyw beth allen nhw wneud. Mae angen rhyw ‘awdurdod’ (a does dim corff gyda awdurdod cyfreithiol wrth gwrs) ddangos i’r cwmni pa mor warthus yw ei meddalwedd nhw a cynnig cymorth iddyn nhw ddatblygu peiriant gwell.

Dwi wedi cael ymateb gan y Bwrdd yn dweud eu bod nhw yn bwriadu cysylltu gyda’r cwmni. Dwi ddim yn gwybod os fydd y cwmni yn derbyn y cyngor am eu bod nhw’n ymddangos fel cowbois i fi. (Fydde hi’n sbort petai nhw yn trio defnyddio ei meddalwedd eu hunain i drio cyfieithu y cofnod hwn – helo’r twpsod!)

Y ffaith mwy chwerthinllyd yn yr achos penodol yma yw fod cwmni Wilkinson wedi mynd ati i greu arwydd ‘Dim Smygu’ eu hunain tra fod arwyddon dwyieithog safonol wedi bod ar gael am ddim ar y we ers 3 blynedd.

Postiwyd yn Scymraeg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Dydy’n anghyfreithiol