Golwg Newydd

Pan o’n i yn fy arddegau cynnar roeddwn i’n darllen cylchgrawn Golwg yn frwd, ond roeddwn i bob amser yn siomedig gyda ansawdd y dylunio. Roeddwn i’n cyhoeddi rhyw gylchronnau ffug, tanddaearol fy hunan gan ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi pen-desg (DTP) ar fy Acorn Risc PC.

Roeddwn i’n siwr y gallwn i wneud yn well na’r bobl oedd yn gweithio yn Golwg ar y pryd a felly es i ati i ail-ddylunio dau dudalen o Golwg a’i ddanfon iddyn nhw. Wnes i ddim clywed nôl.

Fe wnaeth dyluniad Golwg wella (ychydig) dros y blynyddoedd a wnes i sylweddoli mai hoffi’r dechnoleg ar gyfer dylunio cyfrifiadurol oeddwn i yn bennaf a dyna pam dwi wedi cydweithio gyda dylunwyr print/gwe ers dros ddegawd yn hytrach na esgus fod gen i ryw dalent artistig fy hunan.

Nawr fod gwefan Golwg 360 wedi lansio dwi unwaith eto yn teimlo’r siom yna o weld dylunio amaturaidd gan y cwmni o Lambed (er mai Tinopolis sy’n gyfrifol am y wefan). Dwi wedi twrio i god y wefan a mae’n eitha amlwg nad oes yna llawer o feddwl wedi mynd mewn i’r dylunio. Mae yna ddefnydd helaeth o dablau HTML a cymysgedd o CSS mewnlein ac allanol a dewis rhyfedd o steil a maint ffontiau. Does dim dychymyg o ran lliwiau a mae golwg reit salw ar y peth – nid beth sydd angen ar wefan lle mae rhaid cyflwyno llawer o wybodaeth mewn dull cryno ac effeithiol.

Golwg 360

Fe es i ati unwaith eto felly i addasu’r cynllun – newidiadau bach iawn dwi wedi gwneud fel newid arddull y ffontiau a twtio’r bylchau. Gan fod y dyluniad yn benthyg rhai syniadau o’r Guardian, pam ddim mynd amdani yn llwyr a benthyg y lliwiau ar gyfer y prif adrannau? Mi wnes i hefyd ddewis lluniau newydd o ansawdd gwell. Mae’n anodd iawn gwneud llawer a’r wefan fel mae hi oherwydd fod y cod HTML/CSS mor wael. I fi, mae’n edrych yn llawer mwy ‘darllenadwy’ fel hyn.

Felly, mae gen i ddau sgrîn-lun ‘cyn’ ac ‘ar ôl’. I weld rhain yn iawn gwnewch yn siwr eu bod nhw ar eu maint llawn – 100%. Dyma’r dyluniad gwreiddiol a dyma’r dyluniad newydd.

Beth yw eich barn chi?

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

4 Responses to "Golwg Newydd"