Mighty Boosh

Mae cyfres newydd o’r rhaglen gomedi gwych, The Mighty Boosh yn dechrau ar ddiwedd Gorffennaf. Mewn arbrawf, fe fydd y BBC yn gwe-ddarlledu y gyfres wythnos o flaen llaw.

Mi fydd e’n ddiddorol gweld pa mor effeithiol yw’r arbrawf – ar hyn o bryd nid y cyfrifiadur yw’r lle gorau i wylio a mwynhau rhaglen, yn enwedig os nad yw ansawdd a maint y llun yr un peth a’r teledu. Ond gyda technoleg yr iMP fe ddylai hyn wella dros y blynyddoedd nesa.

Postiwyd yn Teledu, Y We | 2 Sylw

Adroddiad Du

Mae’r teledu yn llawn o adroddiadau du yr wythnos yma ond dyma drac sy’n sôn am adroddiad du arall (mae rhif Childline ar y record). Anrheg i Nwdls (a phawb arall) – Adroddiad Du gan yr A5 a llais gwadd Rachel Carpenter. Mae hwn oddi ar y sengl 12″ (R-BEN 025, 1993). Ar y pryd roedd Rachel yn actio yn y rhaglen ddrama wych i blant – Yr Enwog Wmffre Hargwyn. Meic Povey oedd yn actio rhan Wmffre Hargwyn a fe oedd awdur y gyfres.

      A5 - Adroddiad Du (Paramedic Mics)
[6.64MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 4 Sylw

Gweld sbotiau

Am enghraifft o sut i wneud ymweliad gwefan mor anghyffyrddus a phosib, edrychwch ar wefan recordiau Soulwax. Yn ogystal a’r fwydlen ‘gwahanol’ fe aeth fy llygaid i’n rhyfedd iawn ar ôl edrych ar hwn am ychydig.

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gweld sbotiau

Termau TG

Mae’r geiriadur hir-ddisgwyledig o Dermau Technoleg Gwybodaeth wedi ei gyhoeddi nawr ac ar gael ar wefan Canolfan Bedwyr.

Casglu yr hyn oedd allan ar y we yn barod oedd y bwriad dwi’n credu a penderfynu ar un term pan fo nifer yn cystadlu. Mae hyn wedi gweithio yn eitha da, er fod termau rhyfedd wedi ffeindio ei ffordd i mewn i’r rhestr. Mae yna gyfieithiad o webzine term oedd yn ffasiynol am 6 mis yn 1996, fel ‘gwegrawn’ a dim ond un man mae hynny yn ymddangos ar y we a dwi’n eitha siwr le gafodd ei greu hefyd.

‘Gwe-log’ yw weblog ond blog yw blog sydd yn ddigon teg achos pwy sy’n dweud weblog nawr? Ychydig o bethau anghyson hefyd, reit nesa at ei gilydd “file to convert” – ffeil i’w throsi, yna “file transfer protocol” – protocol trosi ffeiliau. Trosglwyddo nid trosi. Ond ar y cyfan, casgliad termau eitha synhwyrol.

Postiwyd yn Cymraeg, Iaith, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Termau TG

Rhwydwaith 21g

Mae BT wedi cyhoeddi mai De Cymru fydd y cynta ym Mhrydain i gael ei newid i’r rhwydwaith ffôn newydd fydd yn defnyddio technoleg llais dros IP a fydd felly yn trin llais fel unrhyw wybodaeth arall ar y rhwydwaith newydd. Fydd dim byd amlwg yn newid yn y dyddiau cynnar ond gobeithio mai un o’r camau cynta fydd codi’r cyfyngiad ar amleddau llais (wedi gyfyngu i tua 3.2KHz drwy’r hen system ffôn) a gwneud sgyrsiau ffôn ychydig mwy pleserus.

Tra mod i’n trafod BT, mae gwefan “BT Cymru” yn ofnadwy. Mae gwefan BT i gwsmeriaid wedi ei ddatblygu yn eitha da, gyda ymdrech (anllwyddianus weithiau) i roi wyneb Cymraeg ar y wefan os ydych chi’n dewis hynny.

Ond mae gwefan gorfforaethol BT PLC yn gwneud pob camgymeriad mae’n bosib gwneud. Baneri Jac yr Undeb a Chymru ar gyfer newid iaith yw’r faux pas cynta o nifer. Ar ôl newid iaith i Gymraeg mae mynd i dudalen arall yn mynd syth nôl i’r saesneg! A mae nhw wedi dyfeisio gair newydd – “Ffô’n”.

Postiwyd yn Newyddion, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Rhwydwaith 21g