Casetiau

Dyma’r math o beth mae person trist fel fi yn ei hoffi – mae rhywun wedi mynd ati i gasglu lluniau o bob math a brand o gasetiau. Dwi’n gallu gweld fod nifer ar goll felly dwi am fynd ati i sganio.

[ trwy A Welsh View ]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Casetiau

O Mr Quango

Mae’r ddau drac canlynol yn dod o sesiwn ar raglen Ian Gill (Hwyrach, Radio Cymru) o haf 1994.

Mae’r cynta, Deluth Lv’s Naomi (ydi mae’r camsillafiad yn fwriadol) yn trafod perthynas rhwng dau ferch ac o ran hynny yn weddol unigryw yng ngherddoriaeth bop Cymraeg fasen i’n meddwl. Awdur y darn yma oedd Danw November, y ffeminist hoyw radical (lle mae hi nawr?). Mae’r gân hefyd ar Lovespoon Economy Vol. 1 (R-BEN 030).

Mae’r ail yn gân fach ddel ond dychanol gan ‘Jane’ (mi wnaeth ‘Y Quango‘ ryddhau nifer o draciau eraill a fydd rheiny yn cael eu llwytho fyny rhywbryd).

      Danw - Deluth Lv's Naomi
[3.93MB]
      Y Quango - O Mr Quango
[5.68MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw

Cysylltu’r dotiau

Wnes i wastio llawer gormod o amser ar y gêm fach yma heddi. Es i lefel 8 ond yn anffodus dyw e ddim yn cofio’r sgôr rhwng ymweliadau.

Postiwyd yn Hwyl | 1 Sylw

Crafu a chosi

Mae’r grŵp Y Brodyr yn rhyw fath o Kraftwerk i gerddoriaeth Cymraeg – mae nhw wedi gwneud popeth 10 mlynedd cyn pawb arall. Dyma drac Crafu a chosi yn y flwyddyn 2020 a recordiwyd ar gyfer sesiwn Radio Cymru nôl yn 1983. Mae’n dal i swnio’n ‘fodern’ 23 mlynedd yn ddiweddarach. Dwi ddim yn gwybod os gafodd y traciau yma ei ryddhau ar y pryd ond mae pethau fel hyn llawer rhy bwysig i hel llwch yn archifau’r BBC!

      Y Brodyr - Crafu a chosi yn y flwyddyn 2020
[4.95MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 3 Sylw

Soddin’ Sobin

Oce dwi’n obsesd gyda A5, ond dyma un arall o’r cannoedd o draciau tanddaearol ar label R-Bennig – ‘teyrnged’ i Sobin a’r Smaeliaid gyda sampls o’i cyngerdd ym Mhafiliwn Corwen. Mae hwn oddi ar y caset hir Marigolds Melyn (R-BEN 11, 1991).

      A5 - Corwen-A-Go-Go
[3.99MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw