Nant Gwrtheyrn

Fe roedd rhaglen Open Country ar Radio 4 yn ymweld a Nant Gwrtheyrn yr wythnos yma. Rhaglen ddiddorol iawn a wnes i ddysgu tipyn nad oeddwn i’m gwybod am y Nant, fel y ffaith fod BP eisiau prynu’r safle yn wreiddiol er mwyn storio bareli olew yno!

Postiwyd yn Iaith, Radio | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Nant Gwrtheyrn

Nid 8 trac

Rhywbeth bach arall o’r archif nawr – trac gan Nid Madagascar, un o fandiau cynnar David Wrench. Mae’r trac yma wedi ei recordio oddi ar y radio, felly does gen i ddim llawer o fanylion amdano. O’n i’n arfer chwarae hwn yn aml circa 92/93, ac yn hoff iawn o’r steil ganu deadpan i gymharu a’r gerddoriaeth ddyrchafol. Dwi ddim yn gwybod beth yw enw cywir y gân – wnes i ei gofnodi fel “Trac 8” ar y pryd ond o wrando eto, “Tragwydd” sy’n gwneud fwy o synnwyr. Sdim ots, dyma’r trac:

      Nid Madagascar - Tragwydd
[3.66MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Nid 8 trac

Lluniau Clarice

Mae ‘Clarice’ wedi dechrau blog newydd Cymraeg/Saesneg gyda lluniau hyfryd iawn. Rhywbeth gwerth cadw golwg arni (drwy RSS wrth gwrs).

Postiwyd yn Blogiau, Rhithfro | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Lluniau Clarice

Gwrthdrawiad comed

Ar Orffennaf 4ydd (5:52 GMT i fod yn fanwl) fe fydd y chwiledydd gofod Deep Impact yn danfon gwrthych bychan i daro mewn i gomed Tempel 1. Fe fydd hyn yn creu cwmwl o ddeunydd wedi ei daflu allan o grombil y comed a fe fydd y chwiledydd yn gallu dadansoddi’r elfennau sydd o fewn y cwmwl. Dyma’r tro cynta i unrhyw offer o’r ddaear allu edrych ar beth sydd o dan wyneb comed gan eu bod wedi eu gorchuddio gyda haenen o ia ‘budr’.

Mae gan y BBC animeddiad o’r hyn fydd yn digwydd ddydd Llun a mae NASA wedi creu animeiddiad cyfrifiadurol arbennig iawn o’r gwrthdrawiad.

Diweddariad: Gorffennaf 5 – Fe roedd yr arbrawf yn un llwyddiannus iawn a dyma lun gwych o’r comed gyda’r deunydd yn dod allan o’r comed yn cael ei oleuo o’r cefn gan yr haul.

Comed Templ-1 o chwiledydd Deep Impact

Postiwyd yn Gwyddoniaeth, Y Gofod | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gwrthdrawiad comed

Byd Bobs

Nôl yn yr 80au hwyr roedd Huw ‘Bobs’ Pritchard yn ganwr unigryw o dan yr enw Byd Afiach. Fe fyddai’n bosib ei ddisgrifio fel “un dyn a gitâr” ond gyda’r traciau ryddhawyd ar dâp mae yna gymysgedd o arddulliau o ganeuon acwstig syml i bop arbrofol.

Yn nechrau’r 90au fe roedd Bobs yn un o gyflwynwyr Hwyrach ar Radio Cymru gyda’i sioe Wplabobihocdw, a roedd ganddo sioe ‘Y Bocs’ ar S4C hefyd. Fe ‘laddwyd’ y Bobs (a Hwyrach yn gyfangwbl) gan nad oedd ei ffraethineb yn ddigon addas i agenda fasnachol newydd Radio Cymru.

Wrth dwrio drwy hen dapiau wnes i ddarganfod recordiad o sioe olaf y Bobs, yn 1992 dwi’n credu. Ar y pryd wnes i ddim sylweddoli pwysigrwydd yr achlysur a felly dim ond yr awr olaf gafodd ei recordio, a wnes i dorri allan rhai o’r caneuon. Ond mae’n werth gwrando arno beth bynnag. Mae’r recordiad yn agor gyda Tomos, mab Huw yn canu cân i ni. Mwynhewch!

      Sioe olaf y Bobs
[15MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3, Radio | 2 Sylw