Termau TG

Mae’r geiriadur hir-ddisgwyledig o Dermau Technoleg Gwybodaeth wedi ei gyhoeddi nawr ac ar gael ar wefan Canolfan Bedwyr.

Casglu yr hyn oedd allan ar y we yn barod oedd y bwriad dwi’n credu a penderfynu ar un term pan fo nifer yn cystadlu. Mae hyn wedi gweithio yn eitha da, er fod termau rhyfedd wedi ffeindio ei ffordd i mewn i’r rhestr. Mae yna gyfieithiad o webzine term oedd yn ffasiynol am 6 mis yn 1996, fel ‘gwegrawn’ a dim ond un man mae hynny yn ymddangos ar y we a dwi’n eitha siwr le gafodd ei greu hefyd.

‘Gwe-log’ yw weblog ond blog yw blog sydd yn ddigon teg achos pwy sy’n dweud weblog nawr? Ychydig o bethau anghyson hefyd, reit nesa at ei gilydd “file to convert” – ffeil i’w throsi, yna “file transfer protocol” – protocol trosi ffeiliau. Trosglwyddo nid trosi. Ond ar y cyfan, casgliad termau eitha synhwyrol.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Iaith, Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.