Mae’r teledu yn llawn o adroddiadau du yr wythnos yma ond dyma drac sy’n sôn am adroddiad du arall (mae rhif Childline ar y record). Anrheg i Nwdls (a phawb arall) – Adroddiad Du gan yr A5 a llais gwadd Rachel Carpenter. Mae hwn oddi ar y sengl 12″ (R-BEN 025, 1993). Ar y pryd roedd Rachel yn actio yn y rhaglen ddrama wych i blant – Yr Enwog Wmffre Hargwyn. Meic Povey oedd yn actio rhan Wmffre Hargwyn a fe oedd awdur y gyfres.
Gweld sbotiau
Am enghraifft o sut i wneud ymweliad gwefan mor anghyffyrddus a phosib, edrychwch ar wefan recordiau Soulwax. Yn ogystal a’r fwydlen ‘gwahanol’ fe aeth fy llygaid i’n rhyfedd iawn ar ôl edrych ar hwn am ychydig.
Termau TG
Mae’r geiriadur hir-ddisgwyledig o Dermau Technoleg Gwybodaeth wedi ei gyhoeddi nawr ac ar gael ar wefan Canolfan Bedwyr.
Casglu yr hyn oedd allan ar y we yn barod oedd y bwriad dwi’n credu a penderfynu ar un term pan fo nifer yn cystadlu. Mae hyn wedi gweithio yn eitha da, er fod termau rhyfedd wedi ffeindio ei ffordd i mewn i’r rhestr. Mae yna gyfieithiad o webzine term oedd yn ffasiynol am 6 mis yn 1996, fel ‘gwegrawn’ a dim ond un man mae hynny yn ymddangos ar y we a dwi’n eitha siwr le gafodd ei greu hefyd.
‘Gwe-log’ yw weblog ond blog yw blog sydd yn ddigon teg achos pwy sy’n dweud weblog nawr? Ychydig o bethau anghyson hefyd, reit nesa at ei gilydd “file to convert” – ffeil i’w throsi, yna “file transfer protocol” – protocol trosi ffeiliau. Trosglwyddo nid trosi. Ond ar y cyfan, casgliad termau eitha synhwyrol.
Rhwydwaith 21g
Mae BT wedi cyhoeddi mai De Cymru fydd y cynta ym Mhrydain i gael ei newid i’r rhwydwaith ffôn newydd fydd yn defnyddio technoleg llais dros IP a fydd felly yn trin llais fel unrhyw wybodaeth arall ar y rhwydwaith newydd. Fydd dim byd amlwg yn newid yn y dyddiau cynnar ond gobeithio mai un o’r camau cynta fydd codi’r cyfyngiad ar amleddau llais (wedi gyfyngu i tua 3.2KHz drwy’r hen system ffôn) a gwneud sgyrsiau ffôn ychydig mwy pleserus.
Tra mod i’n trafod BT, mae gwefan “BT Cymru” yn ofnadwy. Mae gwefan BT i gwsmeriaid wedi ei ddatblygu yn eitha da, gyda ymdrech (anllwyddianus weithiau) i roi wyneb Cymraeg ar y wefan os ydych chi’n dewis hynny.
Ond mae gwefan gorfforaethol BT PLC yn gwneud pob camgymeriad mae’n bosib gwneud. Baneri Jac yr Undeb a Chymru ar gyfer newid iaith yw’r faux pas cynta o nifer. Ar ôl newid iaith i Gymraeg mae mynd i dudalen arall yn mynd syth nôl i’r saesneg! A mae nhw wedi dyfeisio gair newydd – “Ffô’n”.
Ecsentrig
Yn fy arddegau o’n i’n hoff o wrando o gerddoriaeth (o’r radio neu dâp) yn y gwely, yn y tywyllwch, cyn syrthio i gysgu – dwi’n siwr fod yna fantais o dorri allan y synhwyrau eraill, mae’r gerddoriaeth yn treiddio yn ddyfnach i’r psyche rhywsut.
Dyma un o’r traciau sydd wedi llosgi i’r meddwl – y teitl trac oddi ar EP Ecsentrig gan A5 (R-BEN 19, 1992).