Trenau Arafa Cymru

Yn ôl eitem newyddion fach fan hyn mae ‘dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Lywodraeth y Cynulliad’ (lle? mae’n amhosib darganfod unrhywbeth ar gwefan grap y Cynulliad) yn dweud y byddai Trenau Arriva yn colli £70,000 (yn flynyddol, dwi’n tybio) os fyddai teithwyr yn trosglwyddo i’r cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de.

Wel bw hw. Os oedd Arriva yn llwyddo i gasglu’r tâl dyledus oddi ar bawb sy’n teithio mi fase’n nhw’n ennill y swm hynny yn ôl mewn ychydig o fisoedd. Ar hyn o bryd dwi’n cael lifft i’r gwaith yn y bore a chymryd y trên nol adre fel arfer. Felly tocyn sengl dwi’n cael, sydd yn £1.60 – er dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos dwi’n talu, pan nad yw’r peiriant tocynnau wedi torri neu’r tocynnwyr yn rhy ddiog.

Heddi ddaeth tocynnwr (benywaidd) rownd yn reit fuan ar ôl cychwyn o’r orsaf yn y Bae. Wnaeth hi ddim gofyn am weld fy nhocyn, dim ond gofyn fasen i’n “hoffi” prynu un. Fel person gonest, wnes i ofyn am docyn sengl i Landaf (o’r Bae wrth gwrs gan mai dyna lle roedd y trên yn cychwyn). Roedd gen i ddarn dwy-bunt yn barod felly dyma roi hynny iddi. Roedd rhywun yn trio sgwrsio ‘da fi felly wnes i ddim cymryd llawer o sylw o’r tocyn a’r newid mân ddaeth nôl cyn iddi droi a brysio lawr y trên er mwyn agor y drysau.

Mi wnes i adael y trên i groesi draw i blatfform 1 a gymres i olwg ar y tocyn. Roedd e wedi’i brintio yn anghywir a felly’n dweud ‘ADYR’ i ‘ANDAF’ (Radyr i Llandaf) a phris 90c. Edryches i ar y newid a disgwyl cyfri £1.10 (mewn darnau 20 a 10). Ond na, roedd gen i £1.90 o newid!

Os nad yw’r tocynnwyr yn gallu cyfri arian nac yn trafferthu i werthu tocynnau rhan fwyaf o’r amser, fydd hi’n Arrivederci ar Arriva mae arna’i ofn.

Postiwyd yn Bywyd, Newyddion | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Trenau Arafa Cymru

Môn-Heli

Dwi ‘rioed di clywed am y grŵp Môn-Heli (dwi ddim yn gwrando ddigon ar Radio Cymru yn ystod y dydd mae’n rhaid), ond mae’n nhw’n edrych fel un o’r pethau rhyfedd hynny mae Cymru yn dal i gynhyrchu – parau canu ysgafn gwerinol, sydd yn dad a merch, dau frawd neu’n wr a wraig. Mae popeth am ei gwefan yn gweiddi ‘kitsh’, o lun y boi gyda’i Fender, llun y ci neu’r eitemau newyddion..

Nain Karen yn gant

…

Nain Karen wedi marw

O, reit.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Y We | 3 Sylw

ffatri born

Newydd ddarllen stori am ddyn yn cynhyrchu fideos porn mewn ty ym Mae Caerdydd. Wel wel, mae hyn tua canllath o’r swyddfa.. pwy fase’n meddwl? Dwi ddim cweit yn adnabod y disgrifiad “quiet, affluent area” chwaith.

Postiwyd yn Newyddion | Sylwadau wedi eu Diffodd ar ffatri born

Ieithoedd Gmail

Tra’n edrych ar bigion Nic welais i’r llyfrnod yn cyfeirio at y ffaith fod Gmail newydd lansio gyda 12 iaith newydd, ond ddim y Gymraeg eto.

Wel, mae’r cyfieithiad Cymraeg wedi ei wneud a’i wirio ers rhai wythnosau ond does dim dal ar pryd fe fydd hynny yn ymddangos. Mae’n debyg fod y gwaith ar Gmail wedi sefydlogi a felly ni ddylai llinynnau arall i’w cyfieithu am nawr.

Falle fydd hi’n hir yn cyrraedd ond dwi’n credu fydd safon y cyfieithiad yn llawer uwch nac oedd cyfieithiad chwiliad Google ei hunan yn y dechrau.

Postiwyd yn Cymraeg, Technoleg, Y We | 4 Sylw

Slac Yn Dynn

Un o’r rhaglenni oedd yn gwneud hi’n cŵl i wylio S4C yn nechrau’r 90au oedd y gyfres ddrama Slac Yn Dynn a gynhyrchwyd gan Lluniau Lliw; yr awdur oedd Geraint Lewis dwi’n credu a roedd Gareth Potter yn actio’r brif gymeriad. Er fod y gyfres wedi ei ail-ddangos dwi ddim yn cofio llawer amdani nawr heblaw y gerddoriaeth dros y deitlau, wedi ei chyfansoddi a’i ganu gan Potter.

Ychydig dros funud yw’r trac yma ond mae’n siwr o ddod a atgofion nôl..

      Slac Yn Dynn
[1.49MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3, Teledu | 2 Sylw