Slac Yn Dynn

Un o’r rhaglenni oedd yn gwneud hi’n cŵl i wylio S4C yn nechrau’r 90au oedd y gyfres ddrama Slac Yn Dynn a gynhyrchwyd gan Lluniau Lliw; yr awdur oedd Geraint Lewis dwi’n credu a roedd Gareth Potter yn actio’r brif gymeriad. Er fod y gyfres wedi ei ail-ddangos dwi ddim yn cofio llawer amdani nawr heblaw y gerddoriaeth dros y deitlau, wedi ei chyfansoddi a’i ganu gan Potter.

Ychydig dros funud yw’r trac yma ond mae’n siwr o ddod a atgofion nôl..

      Slac Yn Dynn
[1.49MB]

Postiwyd y cofnod hwn yn Cerddoriaeth, MP3, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.

2 Responses to "Slac Yn Dynn"