Trenau Arafa Cymru

Yn ôl eitem newyddion fach fan hyn mae ‘dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Lywodraeth y Cynulliad’ (lle? mae’n amhosib darganfod unrhywbeth ar gwefan grap y Cynulliad) yn dweud y byddai Trenau Arriva yn colli £70,000 (yn flynyddol, dwi’n tybio) os fyddai teithwyr yn trosglwyddo i’r cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de.

Wel bw hw. Os oedd Arriva yn llwyddo i gasglu’r tâl dyledus oddi ar bawb sy’n teithio mi fase’n nhw’n ennill y swm hynny yn ôl mewn ychydig o fisoedd. Ar hyn o bryd dwi’n cael lifft i’r gwaith yn y bore a chymryd y trên nol adre fel arfer. Felly tocyn sengl dwi’n cael, sydd yn £1.60 – er dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos dwi’n talu, pan nad yw’r peiriant tocynnau wedi torri neu’r tocynnwyr yn rhy ddiog.

Heddi ddaeth tocynnwr (benywaidd) rownd yn reit fuan ar ôl cychwyn o’r orsaf yn y Bae. Wnaeth hi ddim gofyn am weld fy nhocyn, dim ond gofyn fasen i’n “hoffi” prynu un. Fel person gonest, wnes i ofyn am docyn sengl i Landaf (o’r Bae wrth gwrs gan mai dyna lle roedd y trên yn cychwyn). Roedd gen i ddarn dwy-bunt yn barod felly dyma roi hynny iddi. Roedd rhywun yn trio sgwrsio ‘da fi felly wnes i ddim cymryd llawer o sylw o’r tocyn a’r newid mân ddaeth nôl cyn iddi droi a brysio lawr y trên er mwyn agor y drysau.

Mi wnes i adael y trên i groesi draw i blatfform 1 a gymres i olwg ar y tocyn. Roedd e wedi’i brintio yn anghywir a felly’n dweud ‘ADYR’ i ‘ANDAF’ (Radyr i Llandaf) a phris 90c. Edryches i ar y newid a disgwyl cyfri £1.10 (mewn darnau 20 a 10). Ond na, roedd gen i £1.90 o newid!

Os nad yw’r tocynnwyr yn gallu cyfri arian nac yn trafferthu i werthu tocynnau rhan fwyaf o’r amser, fydd hi’n Arrivederci ar Arriva mae arna’i ofn.

Postiwyd y cofnod hwn yn Bywyd, Newyddion. Llyfrnodwch y paraddolen.