Taith i Pluto

Flwyddyn nesa, fe fydd NASA yn danfon chwiledydd ‘New Horizons‘ i blaned Pluto (dwi ddim yn hoff iawn o’r bathiad Cymraeg – Plwton, sy’n swnio fel gronyn bach fel electron neu broton). Dyma fydd y siawns cynta erioed i gael golwg iawn ar y blaned bell.

Mi fydd NASA yn cynnwys rhestr o enwau ar y llong, sydd yn ffordd dda o godi diddordeb yn y prosiect fydd yn cymryd 10 mlynedd hir i gyrraedd Pluto – ychwanegwch eich enw!

Postiwyd yn Y Gofod | 1 Sylw

Rhestr y Rhithfro

Mae Aled o gwmni dylunio Smotyn wedi bod yn brysur yn creu gwefan ar gyfer rhestru gwefannau yn y Rhithfro. Wnaeth e ddim gweithio pan wnes i drio cofrestru yn gynharach ond mae’n edrych yn addawol iawn mor belled.

Postiwyd yn Cymraeg, Rhithfro | 1 Sylw

Cymraeg ar Radio 1

Yn ôl cyfaill di-Gymraeg mae yna rhaglen Gymraeg ar Radio 1 heno. Ac ar ôl tsecio, oes yn wir mae ‘na, am 3am rhag dychryn gormod o bobl. Rhaglen Oneclick yw hi.

…militant rapper MC Slaver…

[ Gol. Mae hwn yn rhan o raglenni cywaith Voices, a mae yna fwy o bethau diddorol ymlaen yn ystod yr wythnos ]

Postiwyd yn Cymraeg, Radio | 3 Sylw

Dyfnaint

Ges i benwythnos bach braf yn Nyfnaint mewn ty ar ochr aber yr afon Exe. Mae gen i set o luniau ar Flickr.

Postiwyd yn Bywyd, Lluniau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Dyfnaint

Plyms Danjerus

Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn cerddoriaeth yng nghyfrwng fy mamiaith cyn tua 1990 (am nad oeddwn i’n ffan mawr o roc, ar y pryd). Ond pan glywes i Eirin Peryglus.. waw synthpop Cymrâg!

Dyma ddau gân gan y grŵp hynny oedd yn sefyll allan ar y pryd (yn bennaf am fod Nia Melville yn eu chwarae o hyd) – Y Cyfarfod a Epilog yn A Fwyaf – mae yna bob math o bethau yn mynd ymlaen yn yr ail… synthpop gyda sampls, bach o decno blips, gitâr jangli a solo trwmped jazz. Roedd rhain ar EP 12″ gafodd ei ryddhau yn 1989 ar label Ofn (OFN 07B).

      Eirin Peryglus - Y Cyfarfod
[4.82MB]
      Eirin Peryglus - Epilog yn A Fwyaf
[7.04MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw