Sbam Cymraeg

Wnes i sôn am sbam Cymraeg ymhell nôl yn 2005 ond mae natur a bwriad y sbam yn newid drwy’r amser.

Mae sbam ar flogiau a fforymau wedi bod yn boen erioed, ond dwi wedi sylwi ar gynnydd yn ddiweddar wrth i feddalwedd y sbamwyr ddod yn fwy clyfar lle maent yn gallu gorchfygu technoleg gwrth-sbam (dyw Captcha ddim trafferth y dyddiau hyn).

Ar flogiau WordPress dwi bob amser yn defnyddio ategyn Spam Karma. Yn anffodus nid yw wedi ei ddatblygu ers 2009 ond er hynny mae’n gwneud y job i mi ac yn dal pob neges sbam (yn wahanol iawn i rai ategynnau tebyg ar gyfer WordPress).

Heddiw fe wnaeth yr ategyn atal neges sbam ar y blog hwn – un gyda testun Cymraeg. Roedd yn edrych fel sylw go iawn, felly wnes i chwilio am baragraff a dod o hyd i sylw gan Rhys Wynne ar flog Y Twll yn 2010. Dyna ffynhonnell wreiddiol y testun felly ond roedd Google yn dangos fwy o ganlyniadau na hynny.

Mae’r sylw hefyd i’w weld ar wefan y Theatr Genedlaethol, ac ar wefan Oriel Mostyn.

Mae hyn yn adlewyrchu yn wael ar y gwefannau hyn ond mae’r broblem yn fwy na delwedd yn unig. Os nad yw sbam yn cael ei atal neu ei ddileu fe fydd hyn yn gwneud niwed i wefan drwy effeithio ar ganlyniadau chwilio drwy leihau ymddiriedaeth chwilotwyr yn y cynnwys.

Mae creu blog neu wahodd sylwadau ar dudalennau yn eitha sylfaenol y dyddiau yma ond mae angen i ddatblygwyr gwefannau feddwl am y sgîl-effeithiau os yw’r fath dudalennau yn cael eu sbamio ac os oes neb yn eu cymedroli.

Postiwyd yn Blogiau, Cymraeg, Technoleg | 4 Sylw

Cau Clirlun

Mae’r toriadau sy’n wynebu S4C yn golygu fod y sianel wedi penderfynu cau y sianel HD ‘Clirlun’ ar ddiwedd 2012 er mwyn arbed £1.5 miliwn y flwyddyn. Dyma esboniad prif weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae’r penderfyniad yn dod yn sgil y gostyngiad sylweddol yn ein cyllideb gyhoeddus. Does dim modd osgoi penderfyniadau o’r fath sy’n anochel oherwydd gostyngiad o 36% mewn termau real yn ein cyllideb. Mae’n bwysig ein bod yn buddsoddi mwyafrif y gyllideb sydd gennym mewn cynnwys er mwyn sicrhau gwerth am arian a chynnig yr arlwy gorau i’n gwylwyr.”

Er mod i’n deall fod rhaid i’r sianel wneud arbedion enbyd er mwyn addasu i’r gostyngiad mawr mewn cyllid, mae cael gwared o’r gwasanaeth HD yn gam gwag. Mae’n ddewis hawdd fydd yn cael effeithiau tymor-hir.

Dyma rhai rhesymau pan na ddylid cau sianel S4C Clirlun:

  1. HD yw’r fformat safonol ar gyfer pob darlledwr teledu o hyn ymlaen. Lansio mwy o sianeli HD fydd patrwm y dyfodol. Mae rhai gwledydd fel Sbaen am ddarlledu sianeli daearol mewn HD yn unig.
  2. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r sianel wedi sicrhau fod y rhan fwyaf o rhaglenni’r sianel yn cael eu cynhyrchu i safon HD. Fe wnaeth y cynhyrchwyr a S4C ei hunain fuddsoddiad mawr yn y dechnoleg. Y sefyllfa nawr yw fydd pawb yn dal i gynhyrchu rhaglenni HD ond fod dim modd gwylio’r sianel ar ei orau.
  3. Fe wnaeth S4C ymladd yn galed i gael slot ar Freeview HD yng Nghymru er mai gofod cyfyngedig iawn sydd i gael ar gyfer y sianeli yma (5 ar y mwya). Mae’n debygol y bydd Ofcom yn ail-wobrwyo y gofod yng Nghymru i Channel 4 HD. Unwaith iddo fynd ni fydd y gofod yma ar gael fyth eto i S4C.
  4. Ers 2009 mae ansawdd darlledu sianel arferol S4C (SD) wedi ei israddio yn ddirfawr. Fe wasgwyd y sianel i amlbleth heb ofod ddigonol. Mae’r sianel yn darlledu gyda cydraniad 544×576 yn hytrach na 720×576 er fod hyn yn groes i ofynion technegol Ofcom ar gyfer darlledwyr cyhoeddus. Clirlun yw’r unig ffordd o wylio rhaglenni S4C mewn ansawdd derbyniol.
  5. Un o amcanion S4C yn y dyfodol yw chwilio am gyfleoedd i gyd-cynhyrchu rhaglenni gyda darlledwyr eraill ym Mhrydain neu o gwmpas y byd. Fe allai S4C fod yn y sefyllfa chwithig lle mae rhaglen yn cael ei ddarlledu mewn HD ar sianel arall ond ddim ar S4C ei hunan.
  6. Nid yw darlledu ar y we neu ar loeren yn ateb digonol fel rwy’n esbonio isod.

Mae Ian Jones yn parhau wrth ddweud:

“Rydym yn gobeithio y bydd modd ystyried gwahanol opsiynau i ddefnyddio manylder uwch ar sawl platfform digidol yn y dyfodol.”

Addewid niwlog iawn yw hwn. Yn y gorffennol nid yw S4C wedi dangos unrhyw ymdrech i ddarparu cynnwys ar blatfformau digidol amgen fel YouTube, Netflix, Lovefilm ac ati. Mae’n bosib darparu rhaglenni safon HD ar y we ond mae’n ddyddiau cynnar iawn yn y maes hwn.

Os mai dim ond 5% o’r gynulleidfa sy’n gallu gwylio Clirlun, canran fechan iawn fyddai’n fodlon neu yn gallu gwylio Clirlun drwy gysylltiad rhyngrwyd. Nid oes gan y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru y cysylltiadau band-eang cyflym sy’n anghenrheidiol ar gyfer ffrydio darllediad HD. (er enghraifft mae cyfradd Freeview HD yn amrywio o 3 i 17Mbps)

Mae darlledwyr gyda adnoddau anferth fel y BBC yn darparu rhaglenni HD ar yr iPlayer. Ond nid fformat HD llawn ydi hwn, ond fersiwn cywasgedig iawn er mwyn iddo weithio ar gysylltiadau rhyngrwyd arferol. (cyfradd o 3.2Mbps). Fe roedd gwefan y BBC i lawr am dros awr heno – mae hyn yn dangos nad yw gwe-ddarlledu yn ddibynadwy i gymharu a darlledu dros yr awyr.

Mi fydd yna fwlch o rai blynyddoedd nes i gysylltiadau rhyngrwyd digon cyflym fod ar gael drwy Gymru gyfan i ddarparu gwasanaeth gwe-ddarlledu dibynnadwy. Yn ogystal a hyn mae nifer o ddarparwyr rhyngrwyd yn cyfyngu ar faint o ddata gellir ei lawrlwytho bob mis. Felly mi allai ffrydio fideo HD fod yn ddrud iawn. Ar ôl prynu’r offer, mae Freeview HD yn rhad ac am ddim.

Dyw rhoi Clirlun ar loeren ddim yn ateb chwaith (a nid yw’n llawer rhatach). Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael ar blatfformau agored – mae hynny’n golygu teledu daearol. Mae’r BBC wedi ymrwymo i fod yn ‘blatfform-niwtral’ a sicrhau y gynulleidfa ehangaf posib. Fel sianel sy’n derbyn rhan fwyaf o’i gyllid o’r BBC, fe ddylai S4C ddilyn yr un egwyddor.

Os mai cynllun cyfrwys yw’r bwriad i ddiddymu Clirlun er mwyn i’r BBC gymeryd y baich o’r gost darlledu, mae’n glyfar. Yn anffodus dwi ddim yn ffyddiog mai hynny fydd yn digwydd. Mae angen i S4C arloesi o ran technoleg ac o ran cynnwys. Mi fyddai diddymu Clirlun yn gam i’r cyfeiriad anghywir.

Postiwyd yn Cyfryngau, Teledu | 4 Sylw

Teledu o’r archif

Mae dau benblwydd arwyddocaol ym myd darlledu Cymreig i ddod yn y flwyddyn nesaf. Mi fydd S4C yn 30 mlwydd oedd ym mis Tachwedd 2012 a fe fydd y BBC yn nodi 90 mlynedd o ddarlledu yng Nghymru ym mis Chwefror 2013.

Dwi’n gobeithio fydd y ddau garreg filltir yma yn cael y sylw haeddiannol. Yn 1993 fe ddarlledwyd nifer o raglenni yn Gymraeg a Saesneg oedd yn edrych nôl ar ddarlledu Cymreig a Chymraeg. Mae rhai clipiau o’r rhaglenni saesneg ar gael ar wefan y BBC.

Dwi wedi llwytho rhai o’r rhaglenni cyfan i chi fwynhau:

The Spirit of Cwmderi

Rhaglen yn Saesneg sy’n edrych ar hanes y ddrama gyfres Pobol y Cwm ers iddo gychwyn yn 1974.

Bocs o Jôcs

Stewart Jones yn cyflwyno uchafbwyntiau o raglenni comedi Cymreig y saithdegau a’r wythdegau.

Straeon y Saithdegau

Rhaglen yn edrych yn ôl ar y saithdegau yn Nghymru. Cymysgedd o storiau newyddion a grwpiau pop Cymraeg y dydd.

Postiwyd yn Cyfryngau, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Teledu o’r archif

Archif Sothach

Dwi wedi bod yn dechrau sganio fy hen gopïau o’r cylchgrawn cerddoriaeth Sothach (Soth! yn ddiweddarach). Diolch i Iwan Standley hefyd sydd wedi dechrau sganio ei gopïau ‘e.

Clawr SothachFe gyhoeddwyd Sothach o 1988 i 1996 gan Gwmni Cytgord ym Methesda. Dwi ddim yn cofio’n union beth ddigwyddodd ond fe ddaeth i ben yn ddisymwth heb gael rhifyn ‘ffarwel’. Roedd yn gylchgrawn pwysig i mi yn ystod y 90au er mwyn cael gwybodaeth am gerddoriaeth Cymraeg. Roedd e fod dod allan yn fisol ond doedd e byth ar amser a roedd e’n eitha tenau ar adegau.

Chwarae teg i’r golygyddion, roedden nhw’n fodlon cyhoeddi’r holl lythyrau yn cwyno (yn cynnwys rhai anaeddfed gen i) ond mae’n debyg eu bod nhw’n gwneud ymdrech go lew heb lawer o adnoddau.

Nawr mod i wedi dechrau, dwi’n gobeithio gwneud y gwaith sganio yn fwy rheolaidd. Megis dechrau felly, ond dyma Archif Sothach!

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Cyfryngau | 5 Sylw

Methiant Arriva

Mae Trenau Arriva Cymru wedi lansio gwefan newydd o’r diwedd, dwy flynedd ar ôl apwyntio cwmni i ail-ddatblygu’r wefan. Mae yna lawer o bethau allwn i ddweud am ddyluniad y wefan newydd ond wna’i ddim, dim ond i ddweud nad yw’n edrych fel gwaith dwy flynedd.

Dwi wedi gweithio ar ddatblygiad gwefannau i gwmnïau trên ers degawd nawr a felly mae gen i beth profiad a diddordeb yn y maes. Fe wnaethon ni ddatblygu tri gwefan i gwmni ‘Wales and Borders’ yn 2002 (mewn llai na dwy fis fel mae’n digwydd!), gwefannau cafodd eu llyncu wedyn i fewn i gwmni Arriva yn 2005, pan wnaethon nhw – yn eu doethineb – apwyntio asiantaeth o Lundain i ail-ddatblygu’r wefan – dyma’r fersiwn oedd yn bodoli o 2006 hyd heddiw. Dwi’n dal i weithio ar wefannau i rai o’r cwmnïau trenau mawr yn Lloegr. Mae ganddyn nhw fwy o arian yn sicr, ond mae yna hefyd ymdrech galed i wneud ei gwefannau yn ddefnyddiol ac o safon uchel.

Mae cwynion wedi bod dros y blynyddoedd am ddiffyg darpariaeth Gymraeg ar wefan Trenau Arriva, yn bennaf yr adrannau sy’n defnyddio neu dderbyn gwybodaeth oddi wrth systemau craidd y system rheilffordd ym Mhrydain (adran wybodaeth National Rail sy’n cyflenwi rhestr o orsafoedd, amserlenni ac ati).

Does dim dwywaith amdani – mae hi’n her anferth i gyfuno’r holl systemau hyn mewn i un gwefan – dyna sy’n cymeryd rhan fwyaf o’n amser ni, a dim ond mewn un iaith mae hynny. Er hyn, does dim ymdrech o gwbl wedi bod gan Arriva i geisio datrys hyn dros 9 mlynedd. Mae tudalen yn nodi Polisi Dwyieithog y cwmni yn nodi pa wasanaethau sydd ddim ar gael yn Gymraeg:

Nid yw’r gwasanaethau canlynol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg:

Gwasanaeth Prynu Tocynnau Ar-lein
Journey Check – gwasanaeth gwybodaeth fyw
Rainbow Boards – gwasanaeth gwybodaeth fyw
Cyfrifiannell Tocyn Tymor
Argraffu Amserlen Personol
Gwaith Peirianyddol
Bwrdd Ymadawiadau/Cyraeddiadau
Chwilio am Orsaf

Mae hyn yn gyfaddefiad reit warthus. Os ewch chi i adran ‘wybodaeth fyw’ y wefan, does dim hyd yn oed ymdrech i gyfieithu tudalennau fel Bwrdd Ymadawiadau. Hyd yn oed yn waeth, ar dudalennau Gwaith Peirianyddol a Newid Gwasanaethau, does dim gwybodaeth o gwbl na dim yn eich cyfeirio at y fersiwn Saesneg lle mae’r wybodaeth i’w weld.

Mae’n wir i ddweud fod yr holl wybodaeth ‘fyw’ yn cael ei gyflenwi gan un cwmni canolog sydd ddim yn gallu darparu testun Cymraeg. Er fod angen ateb tymor hir i hynny, mae yna rhai ffyrdd o gwmpas y broblem hyn hefyd.

Ar ein fersiwn dwyieithog o’r wefan yn 2002, fe wnaethon ni ymdrech i gyfieithu peth o’r wybodaeth. Er enghraifft, mae’n hawdd iawn i god y wefan amnewid testun o’r ffynhonnell; pethau fel ‘Good Service’, ‘Expected Departure’, ‘To’, ‘From’ ac yn y blaen. Mae’n hawdd cyfieithu enwau y gorsafoedd hefyd. Ymgais fach oedd hyn i weithio o gwmpas y system a roedd ymhell o fod yn foddhaol.

Mae gan Arriva ‘esgusion’ dros beidio cyflenwi peth o’r wybodaeth ar ei gwefan. Does ganddyn nhw ddim esgus o gwbl am rhai adrannau. Mae’r gwasanaeth archebu tocynnau yn cael eu gyflenwi gan the ‘thetrainline’ – does dim rheswm pam na allai Arriva fod wedi comisiynu’r cwmni i ymestyn ei systemau i gynnig fersiwn Cymraeg.

Mae’r gwasanaeth ‘argraffu amserlen’ yn cael ei gyflenwi gan gwmni Hafas o’r Almaen (mae’n system amlieithog yn barod, ond ddim Cymraeg). Mae’r cwmni hefyd yn cyflenwi amserlennau trên ar draws Ewrop (yn cynnwys gwledydd Prydain) ac yn gallu cynnig hynny mewn nifer o ieithoedd. Pam felly nad yw Arriva, sy’n rhan o gwmni Almaenig arall – Deutsche Bahn – yn gallu defnyddio’r dechnoleg sydd ar gael iddyn nhw?

Postiwyd yn Cymraeg, Gwaith, Y We | 1 Sylw