Cau Clirlun

Mae’r toriadau sy’n wynebu S4C yn golygu fod y sianel wedi penderfynu cau y sianel HD ‘Clirlun’ ar ddiwedd 2012 er mwyn arbed £1.5 miliwn y flwyddyn. Dyma esboniad prif weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae’r penderfyniad yn dod yn sgil y gostyngiad sylweddol yn ein cyllideb gyhoeddus. Does dim modd osgoi penderfyniadau o’r fath sy’n anochel oherwydd gostyngiad o 36% mewn termau real yn ein cyllideb. Mae’n bwysig ein bod yn buddsoddi mwyafrif y gyllideb sydd gennym mewn cynnwys er mwyn sicrhau gwerth am arian a chynnig yr arlwy gorau i’n gwylwyr.”

Er mod i’n deall fod rhaid i’r sianel wneud arbedion enbyd er mwyn addasu i’r gostyngiad mawr mewn cyllid, mae cael gwared o’r gwasanaeth HD yn gam gwag. Mae’n ddewis hawdd fydd yn cael effeithiau tymor-hir.

Dyma rhai rhesymau pan na ddylid cau sianel S4C Clirlun:

  1. HD yw’r fformat safonol ar gyfer pob darlledwr teledu o hyn ymlaen. Lansio mwy o sianeli HD fydd patrwm y dyfodol. Mae rhai gwledydd fel Sbaen am ddarlledu sianeli daearol mewn HD yn unig.
  2. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r sianel wedi sicrhau fod y rhan fwyaf o rhaglenni’r sianel yn cael eu cynhyrchu i safon HD. Fe wnaeth y cynhyrchwyr a S4C ei hunain fuddsoddiad mawr yn y dechnoleg. Y sefyllfa nawr yw fydd pawb yn dal i gynhyrchu rhaglenni HD ond fod dim modd gwylio’r sianel ar ei orau.
  3. Fe wnaeth S4C ymladd yn galed i gael slot ar Freeview HD yng Nghymru er mai gofod cyfyngedig iawn sydd i gael ar gyfer y sianeli yma (5 ar y mwya). Mae’n debygol y bydd Ofcom yn ail-wobrwyo y gofod yng Nghymru i Channel 4 HD. Unwaith iddo fynd ni fydd y gofod yma ar gael fyth eto i S4C.
  4. Ers 2009 mae ansawdd darlledu sianel arferol S4C (SD) wedi ei israddio yn ddirfawr. Fe wasgwyd y sianel i amlbleth heb ofod ddigonol. Mae’r sianel yn darlledu gyda cydraniad 544×576 yn hytrach na 720×576 er fod hyn yn groes i ofynion technegol Ofcom ar gyfer darlledwyr cyhoeddus. Clirlun yw’r unig ffordd o wylio rhaglenni S4C mewn ansawdd derbyniol.
  5. Un o amcanion S4C yn y dyfodol yw chwilio am gyfleoedd i gyd-cynhyrchu rhaglenni gyda darlledwyr eraill ym Mhrydain neu o gwmpas y byd. Fe allai S4C fod yn y sefyllfa chwithig lle mae rhaglen yn cael ei ddarlledu mewn HD ar sianel arall ond ddim ar S4C ei hunan.
  6. Nid yw darlledu ar y we neu ar loeren yn ateb digonol fel rwy’n esbonio isod.

Mae Ian Jones yn parhau wrth ddweud:

“Rydym yn gobeithio y bydd modd ystyried gwahanol opsiynau i ddefnyddio manylder uwch ar sawl platfform digidol yn y dyfodol.”

Addewid niwlog iawn yw hwn. Yn y gorffennol nid yw S4C wedi dangos unrhyw ymdrech i ddarparu cynnwys ar blatfformau digidol amgen fel YouTube, Netflix, Lovefilm ac ati. Mae’n bosib darparu rhaglenni safon HD ar y we ond mae’n ddyddiau cynnar iawn yn y maes hwn.

Os mai dim ond 5% o’r gynulleidfa sy’n gallu gwylio Clirlun, canran fechan iawn fyddai’n fodlon neu yn gallu gwylio Clirlun drwy gysylltiad rhyngrwyd. Nid oes gan y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru y cysylltiadau band-eang cyflym sy’n anghenrheidiol ar gyfer ffrydio darllediad HD. (er enghraifft mae cyfradd Freeview HD yn amrywio o 3 i 17Mbps)

Mae darlledwyr gyda adnoddau anferth fel y BBC yn darparu rhaglenni HD ar yr iPlayer. Ond nid fformat HD llawn ydi hwn, ond fersiwn cywasgedig iawn er mwyn iddo weithio ar gysylltiadau rhyngrwyd arferol. (cyfradd o 3.2Mbps). Fe roedd gwefan y BBC i lawr am dros awr heno – mae hyn yn dangos nad yw gwe-ddarlledu yn ddibynadwy i gymharu a darlledu dros yr awyr.

Mi fydd yna fwlch o rai blynyddoedd nes i gysylltiadau rhyngrwyd digon cyflym fod ar gael drwy Gymru gyfan i ddarparu gwasanaeth gwe-ddarlledu dibynnadwy. Yn ogystal a hyn mae nifer o ddarparwyr rhyngrwyd yn cyfyngu ar faint o ddata gellir ei lawrlwytho bob mis. Felly mi allai ffrydio fideo HD fod yn ddrud iawn. Ar ôl prynu’r offer, mae Freeview HD yn rhad ac am ddim.

Dyw rhoi Clirlun ar loeren ddim yn ateb chwaith (a nid yw’n llawer rhatach). Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael ar blatfformau agored – mae hynny’n golygu teledu daearol. Mae’r BBC wedi ymrwymo i fod yn ‘blatfform-niwtral’ a sicrhau y gynulleidfa ehangaf posib. Fel sianel sy’n derbyn rhan fwyaf o’i gyllid o’r BBC, fe ddylai S4C ddilyn yr un egwyddor.

Os mai cynllun cyfrwys yw’r bwriad i ddiddymu Clirlun er mwyn i’r BBC gymeryd y baich o’r gost darlledu, mae’n glyfar. Yn anffodus dwi ddim yn ffyddiog mai hynny fydd yn digwydd. Mae angen i S4C arloesi o ran technoleg ac o ran cynnwys. Mi fyddai diddymu Clirlun yn gam i’r cyfeiriad anghywir.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cyfryngau, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.

4 Responses to "Cau Clirlun"