Mae’r Rhithfro yn fyw.. hwre. Dwi wedi ychwanegu darn ar y dde sy’n dangos dolen i un gwefan ar hap allan o’r rhai sydd wedi eu cofrestru yn y Rhithfro.
Geirfa/Vocab
Mae Bwrdd yr Iaith wedi ychwanegu teclyn Vocab BBC Cymru i’w gwefan heddiw. (yr un cynta yn allanol i wneud hynny?)
Mae angen ystyried ymhellach sut y mae hyn yn cael ei gynnwys o fewn gwefan yn y ffordd mwya effeithiol, yn enwedig lleoliad y panel mewn gwefannau sydd wedi eu dylunio’n barod. Oherwydd y dull mae Vocab yn defnyddio i brosesu’r dudalen mae e hefyd yn torri rhai nodweddion o fewn y wefan – adrannau deinamig sy’n pasio gwybodaeth drwy ffurflenni HTML neu sy’n dibynnu ar wybod y cyfeiriad (URL).
Felly mae yna cryn dipyn i’w ddysgu wrth ei ddefnyddio gyda gwefannau deinamig, cymleth ac efallai edrych ar ddulliau arall o osod y dechnoleg o fewn gwefan.
Rhegi
Tra’n syrffio Technorati, des i ar draws cofnod gan girl_virgo yn adrodd hanes ei ymchwil i’r enw Dinbych-y-Pysgod a’i darganfyddiad o wefan Insultmonger.
Dwi ddim wedi cysylltu i’r wefan am fod e’n trio gosod pob math o gachu ar eich cyfrifiadur ond nifer o’r cofnodion Cymraeg wedi ei sgyfieithu e.e. “Sugno fy nhi’n i cachwr” – wel mae na enw am hynny ond wnai ddim ei sgrifennu yma. Mae yna rai eraill eitha doniol fel “Bronnau fel bryniau Eryri” ond mae rhan fwyaf yn gyfieithiadau o slang Americanaidd.
Ta beth, dwi wedi gadael neges iddi i dynnu’i sylw at fodolaeth y Rhegiadur.
Taith i Pluto
Flwyddyn nesa, fe fydd NASA yn danfon chwiledydd ‘New Horizons‘ i blaned Pluto (dwi ddim yn hoff iawn o’r bathiad Cymraeg – Plwton, sy’n swnio fel gronyn bach fel electron neu broton). Dyma fydd y siawns cynta erioed i gael golwg iawn ar y blaned bell.
Mi fydd NASA yn cynnwys rhestr o enwau ar y llong, sydd yn ffordd dda o godi diddordeb yn y prosiect fydd yn cymryd 10 mlynedd hir i gyrraedd Pluto – ychwanegwch eich enw!