O’r Gad Mr Iwan

Yn 1991, fe ddedfrydwyd Alun Llwyd a Branwen Niclas i’r carchar am 12 mis ar ôl torri mewn i swyddfeydd y llywodraeth fel rhan o ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.

Er mwyn codi arian at CyI yn sgîl hyn (a fel esgus da i ddathlu sîn gerddoriaeth iach iawn ar y pryd), fe ryddhawyd CD O’r Gad (Ankst 020). Mae yna lot o stwff da ar hwn felly mi fydd rhaid dewis yn ofalus. Mae’r traciau yma i gyd wedi ei ryddhau ar albymau yr artistiaid eu hunain am wn i.

      Aros Mae - How!
[3.14MB]
      Bob Delyn a'r Ebillion - Ffair y Bala
[4.53MB]
      Geraint Jarman - Tracsiwt Gwyrdd
[4.33MB]
      Datblygu - Popeth yn Gymraeg
[3.82MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 3 Sylw

Pwyswch y botwm coch

Dyna’r frawddeg fyddwn ni’n clywed flwyddyn nesa ar S4C mae’n debyg, wedi i’r sianel arwyddo cytundeb gyda gwmni emuse o’ Iwerddon ar gyfer ei meddalwedd sy’n greu gwasanaethau ‘botwm coch’ i deledu. Mae’n rhyfedd ei fod wedi cymryd cyhyd i S4C ymuno gyda’r chwyldro – mi wnes i weithio ar beilot o wasanaeth rhyngweithiol i S4C yn 1999, lle fyddai canlyniadau’r cystadlu ar gael drwy’r botwm coch. A hyn i gyd i’w ddatblygu mewn dwy fis, gan ddechrau gyda ‘cwrs carlam’ (dau ddiwrnod!) mewn sut i raglennu MHEG, sef un o’r ieithoedd rhaglennu mwya’ diawledig a ddyfeisiwyd erioed.

Mi roedd hyn ychydig bach o flaen yr amser fel mae’n digwydd – roedd hyn cyn i unrhyw sianel deledu arall lansio unrhyw wasanaeth digidol a felly roedd hi’n ddyddiau cynnar i’r meddalwedd a’r diwydiant ei hun. Roedd angen cyfarpar allweddol gan Sony er mwyn gallu cyfuno’r gwasanaeth i fewn i blethiadu teledu digidol a dim ond un oedd ar gael drwy Brydain ar y pryd. Fe roedd hwnnw ym meddiant Channel 4 a roedden nhw’n brysur iawn yn trwsio’r namau i gyd er mwyn lansio’r gwasanaeth. Gan fod yr Eisteddfod yn prysur agosáu roedd hi’n amhosib gorffen y gwaith yn yr amser, ond fe adeiladwyd system arddangos yn unig gan ddefnyddio meddalwedd oedd yn dynwared bocs digidol.

Dwi’n edrych ymlaen felly i weld sut fath o wasanaeth fydd S4C yn ei ddatblygu – fe fyddai fersiwn digidol o ‘Teletestun’ yn beth defnyddiol i gael, fel man cychwyn.

Postiwyd yn Cyfryngau, Newyddion, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Pwyswch y botwm coch

Arglwydd y Dur

Rhai blynyddoedd yn ôl fe wnaeth ffrind i mi gynllunio gwefan a creu CD a fideo ar gyfer brenin y carioci Ivor Beynon – sy’n perfformio yng nghlybiau De Cymru dan yr enw ‘Lord of Steel’. (Wnaethon nhw gwmpo mas yn ddiweddar a sdim rhyfedd – am fod Ivor yn dipyn o ‘gymeriad’).

Antur ddiweddara’ Ivor oedd ceisio mynd ar sioe deledu yr X Factor, lle roedd yn llwyddiant ysgubol. Gymaint o lwyddiant yn wir fel mai dim ond 10 eiliad ohono ddangoswyd ohono yn y brif raglen. Ond fe ymddangosodd mewn eitem hirach ar y rhaglen Xtra Factor lle mae’n esbonio ei athroniaeth i ni, gan ddechrau gyda tarddiad enw ei alter ego:

Well, Ivor Beynon is a Welsh.. it’s Welsh. And Ivor, in English, is Lord and Beynon is Steel. So Ivor Beynon in English is the Lord of Steel.

Wel dyna esboniad hollol glir ynde. Dyma glip o’r dyn ei hun ar y rhaglen. (7.5MB, WMV)

Postiwyd yn Teledu | 3 Sylw

Cyfieithu’r Corrach

Bwrdd gwaith poblogaidd ar gyfer system weithredu Linux yw Gnome a mae fersiwn 2.12 newydd ei ryddhau. Mae Gnome yn cael ei ryddhau mewn nifer fawr o ieithoedd a diolch i waith caled tîm gnome-cy mae 92.69% o’r llinynnau wedi eu cyfieithu i Gymraeg.

Mae’r rhaglenni pwysicaf o fewn y system wedi eu cyfieithu sy’n gadael tua 5 rhaglen fach ar ôl i’w taclo yn y dyfodol.

Postiwyd yn Cymraeg, Technoleg | 1 Sylw

Cardiau Adnabod

Mae’r ymgyrch yn erbyn cardiau adnabod – NO2ID – wedi creu cân ac animeiddiad sydd yn ffordd eitha difyr o gael eu neges drosodd.

Postiwyd yn Gwyddoniaeth, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cardiau Adnabod