Taith i Pluto

Flwyddyn nesa, fe fydd NASA yn danfon chwiledydd ‘New Horizons‘ i blaned Pluto (dwi ddim yn hoff iawn o’r bathiad Cymraeg – Plwton, sy’n swnio fel gronyn bach fel electron neu broton). Dyma fydd y siawns cynta erioed i gael golwg iawn ar y blaned bell.

Mi fydd NASA yn cynnwys rhestr o enwau ar y llong, sydd yn ffordd dda o godi diddordeb yn y prosiect fydd yn cymryd 10 mlynedd hir i gyrraedd Pluto – ychwanegwch eich enw!

Postiwyd y cofnod hwn yn Y Gofod. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Taith i Pluto"