Podledu

Newydd fod yn gweithio ychydig ar wefan Podledu a ysgrifennu tudalen ar gyfer Radio Amgen – tra’n gwneud bach o ymchwil wnes i ddarganfod blog Graffiti Cymraeg sy’n cynnwys podlediad. Ddim cweit y podlediad Cymraeg cyntaf ond beth yw ychydig ddyddiadau rhwng ffrindiau?

Fel mae’r blog yn esbonio, er mai Cymraeg yw iaith y cyflwyniad, cerddoriaeth saesneg ‘podsaff’ sy’n cael ei chwarae yn y sioe ar hyn o bryd – ond dyma’r amrywiaeth iach sy’n bosib ei gael yn y cyfrwng yma.

Gobeithio bydd fwy i glywed gan Rhys yn fuan.

Postiwyd yn Blogiau, Cerddoriaeth | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Podledu

Arwyddion Cymraeg

Newydd gael sbam gan gwmni o Pontypŵl yn hysbysebu arwyddion dwyieithog. Mi fase nhw wedi gwneud fwy o argraff petai’r ebost a’r wefan yn ddwyieithog. Ond neges Saesneg ydoedd (nodwch y gwallau)

I would like to introduce you to our new business.
If you require Welsh and Englisg Bilingual Signage for your
business or organisation then you may find the sign you require on
our website or you can receice our FULL catalogue via e-mail.

Nawr os oedd cwmni ar gael oedd yn gallu cynhyrchu arwyddion dwyieithog o bob math, gan sicrhau safon uchel o gyfieithu mi fydde hyn yn beth da iawn, i osgoi y broblem Scymraeg. Mae’r enghreifftiau o arwyddion ar eu gwefan yn eitha da – er fod y gair CYMRAEG wedi ei blastro ar draws y fersiwn Cymraeg am ryw reswm – mae’r cyfieithiadau i’w gweld yn gywir er fod ambell i wall yno.

Ond lle mae’r wefan Gymraeg (heb sôn am y techneg ofnadwy o ddefnyddio ffeiliau graffeg i greu tudalennau)?

Postiwyd yn Cymraeg, Y We | 2 Sylw

Gwrando ar Grindell

Dwi am fynd nôl i 1993 gyda tri trac gan ‘swynwr y synthau’ (y Rick Wakeman Cymraeg)… ie, John Grindell. Wnaeth e ryddhau caset ar label Sain y flwyddyn honno o’r enw Celt (C2066a) sydd yn gampwaith o chwarae synth prog-rocaidd. Yndi mae’n gawslyd ac yn anffasiynol ond dyna pam dwi’n ei hoffi. Mae yna rywbeth arbennig am lais John hefyd sydd yn gyfuniad perffaith gyda’r synth.

Mae nodiadau defnyddiol ar y clawr felly sdim rhaid i fi wneud dim – mae’r gân gyntaf Dianc yn “gân yn sôn am y pwysau ar y Cymry sy wedi’i osod arnom gan y Saeson a’r Saesneg… mae’r straen weithiau’n mynd yn ormod.. ac mae’n hawdd meddwl am ddianc yn lle wynebu’r problemau”

Yr ail gân (yma nid ar y caset) yw Y Teithiwr ’93 (vocoder ahoi) – “cân ysgafn… yn sôn am ddyn sy’n gofyn i ferch ymuno â fo yn ei long ofod a theithio trwy’r bydysawd“. Ffar owt..

Y drydedd yw’r gân wych Yr Ynys sy’n para am 13 munud (ond dim ond 4 munud dwi wedi ei roi yma) – “mae’r gân gonsept hon yn dangos dyheadau’r cyfansoddwr am ddyddiad roc progresif y saithdegau”

      Dianc
[6.11MB]
      Y Teithiwr '93
[4.58MB]
      Yr Ynys
[5.59MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 3 Sylw

Dewis enw i blentyn

Dyma stori wir sy’n gwneud ei ffordd drwy gylch clecs athrawon Cymraeg Caerdydd.

Daeth teulu i fyw yng Nghaerdydd gyda’r cyfenw ‘Dan’ (wedi’i ynganu fel daan mae’n debyg). Does gen i ddim syniad o le ddaeth y teulu na dim am ei cefndir, ond dim ots. Nid siaradwyr Cymraeg ydynt ond fe wnaethon nhw benderfynu rhoi enw Cymraeg i’w plant a’i danfon i ysgolion Cymraeg.

Tra’n siopa mewn archfarchnad rhai blynyddoedd yn ôl, pan oeddent yn disgwyl eu plentyn cynta, fe wnaethon nhw weld arwydd Cymraeg ar y wal. Pan anwyd y baban, fe gofiodd y cwpl am yr arwydd gan ystyried ei fod yn enw perffaith i’r plentyn. A dyna sut y cafodd y ferch ei henwi’n Allanfa Dan.

Erbyn hyn mae’n debyg fod y rhieni wedi newid enw’r plentyn i osgoi embaras – ydyn, mae nhw wedi newid y cyfenw i Darn, sydd yn llawer mwy synhwyrol.

Postiwyd yn Bywyd, Hwyl | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Dewis enw i blentyn

Anrhydedd i Alan

Llongyfarchiadau i Alan Cox am gael Gwobr Cyflawniad Oes yn noson wobrwyo Cynhadledd Linux World a gynhaliwyd nos Fercher. Hoffwn rhoi gwobr ‘cyflawniad’ fy hun i Telsa am fyw gyda Alan dros y blynyddoedd 🙂

Postiwyd yn Newyddion, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Anrhydedd i Alan