Podledu

Newydd fod yn gweithio ychydig ar wefan Podledu a ysgrifennu tudalen ar gyfer Radio Amgen – tra’n gwneud bach o ymchwil wnes i ddarganfod blog Graffiti Cymraeg sy’n cynnwys podlediad. Ddim cweit y podlediad Cymraeg cyntaf ond beth yw ychydig ddyddiadau rhwng ffrindiau?

Fel mae’r blog yn esbonio, er mai Cymraeg yw iaith y cyflwyniad, cerddoriaeth saesneg ‘podsaff’ sy’n cael ei chwarae yn y sioe ar hyn o bryd – ond dyma’r amrywiaeth iach sy’n bosib ei gael yn y cyfrwng yma.

Gobeithio bydd fwy i glywed gan Rhys yn fuan.

Postiwyd y cofnod hwn yn Blogiau, Cerddoriaeth. Llyfrnodwch y paraddolen.