I’r cyfeiriad anghywir

Mae fy nhad wedi bod yn cwyno ers misoedd fod gwefan WalesOnline yn dangos hen storïau ar y dudalen flaen, er ei fod yn gallu cyrraedd y newyddion diweddaraf drwy ddolenni ar y dudalen. Doeddwn i ddim wedi meddwl llawer am y peth nes i mi gael golwg ar ei gyfrifiadur heddiw.

Y peth cynta sy’n amlwg yw fod dad yn hoffi defnyddio rhestr o ffefrynnau yn y porwr yn hytrach na chwilio Google neu deipio yn y bar cyfeiriad. Felly mae ganddo restr o ffefrynnau wedi ei osod blynyddoedd yn ôl. Roedd ei ffefryn WalesOnline yn mynd i’r cyfeiriad http://icwales.icnetwork.co.uk/ ond dyma beth sydd i’w weld ar hwnnw:

WalesOnline (hen)

Mae’r dudalen yna wedi ei rewi mewn amser ers i’r fersiwn newydd o’r wefan lansio ym mis Ebrill 2013 – er fod yna linell “Updated” ar ben y dudalen sy’n rhoi dyddiad heddiw. Dyma’r wefan newydd:

WalesOnline (newydd)

Felly esgeulustod syml sydd yma o anghofio ail-gyfeirio darllenwyr i’r wefan newydd. Sgwn i faint o ymwelwyr sy’n glanio ar y dudalen yma ac yn crafu eu pen? Mae’r hen gyfeiriad yn ymddangos ar dudalen gynta Google drwy edrych am “wales online” neu “wales news”.

Dwi wedi gofyn i WalesOnline iddyn nhw ail-gyfeirio’r hen wefan (gyda cod 301 wrth gwrs). Y pethau bach sy’n cyfri wrth redeg gwefan.

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar I’r cyfeiriad anghywir

Wedi drysu.com

Mae gen i deimladau cymysg am gwmnïau sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg fel arf marchnata. Ar yr un llaw, mae’n beth da i weld cwmniau Cymreig yn dangos eu hunaniaeth yn enwedig os ydyn nhw’n gwmnïau sy’n gweithredu drwy wledydd Prydain neu ymhellach. Mae’n helpu gwrthbrofi y ddadl fod yr iaith yn gallu dieithro y di-Gymraeg neu’r unieithog.

Ar y llaw arall mae’n gallu edrych fel Cymreigeiddio er mwyn sioe yn unig – fel rhoi ‘Cymru’ mewn enw corff fel pebai hynny yn datrys popeth.  Beth yw’r pwynt i gwmni ddefnyddio’r Gymraeg yn eu marchnata os nad ydyn nhw’n cynnig gwasanaethau yn yr iaith?

Y cwmni diweddaraf i wneud hyn yw confused.com a’i mascot newydd Breian y robot. Dwi’n gweld Breian bob dydd am ei fod yn byw yn yr un adeilad lle mae fy swyddfa i. Mae Breian wedi ‘dysgu Cymraeg’ a nawr yn postio ambell i neges yn Gymraeg ar Twitter a YouTube.

Wrth gwrs, dyw meddalwedd Breian ddim yn berffaith a weithiau mae’n cyfieithu’n anghywir fel y gwelwch o’i gyfieithiad o ‘car park’:

Breian y Robot Car Parcio

Mae’r fideo hynny wedi ei gymeryd lawr erbyn hyn. Faint o Gymraeg sydd can confused.com felly? Dyw’r gwefannau ddim yn Gymraeg a dwi ddim wedi clywed eu bod yn cynnig gwasanaethau Cymraeg. Ai gimic yw Breian a’i gar parcio felly?

Postiwyd yn Cymraeg, Iaith | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Wedi drysu.com

Samplo Saunders

Mae araith radio Saunders Lewis ‘Tynged yr Iaith’ wedi cael ei ddefnyddio mewn amryw ffyrdd dros y blynyddoedd. Nid y geiriau a’r neges yn unig sy’n atyniadol – roedd gan Saunders lais ac acen eitha unigryw; llais hynafol, diwylliedig, sydd fel ryw adlais o hen dderwydd o gyn-hanes. Mae ansawdd y recordiad yn ychwanegu at y naws arall-fydol?

Felly mae’r araith yn berffaith ar gyfer ei samplo mewn cerddoriaeth. Mae rhai yn cael fwy o lwyddiant nac eraill.

Dyma un Y Bwgan

Ond does neb wedi gwneud defnydd gwell ohono na Ty Gwydr gyda ‘Rhyw Ddydd’

All rhywun feddwl am enghreifftiau arall?

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Iaith | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Samplo Saunders

Gwirebau y We Gymraeg

Mewn ymateb i gwestiwn gan Nwdls ar Twitter, dyma fy nghynigion i am wirebau y we Gymraeg.
1. Dyw postio lluniau o arwyddion Scymraeg byth yn mynd yn hen.

2. Mae unrhywbeth newydd o gwbl sy’n cael ei lansio yn cael ei ddisgrifio fel “y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg”

3. Os yw unrhywun yn cyhoeddi barn dadleuol, mae’n llawer haws beirniadu teipos neu safon yr iaith yn lle cynnig ymateb rhesymol.

4. Does neb yn darllen Golwg 360 a meddwl “dyna ddiddorol, o’n i ddim yn gwybod hynny o’r blaen”.

5. Er mai dim ond 0.00007% o boblogaeth y byd yw’r Cymry Cymraeg, ni’n synnu o hyd fod yna bobl eraill yn y byd sy’n malio dim am y Gymraeg a’i ddiwylliant.

6. Mae pawb yn hoffi lladd ar S4C, ond yn troi’n amddiffynnol os welwn ni Sais yn gwneud yr un fath.

7. Uchelgais unrhyw Gymro ar Twitter yw cael eich ail-drydar gan Dafydd Elis-Thomas (os nad yw hynny’n digwydd, fe wnaiff unrhyw actor o Bobol y Cwm y tro).

8. Yr hiraf y mae dadl am yr iaith yn parhau, y mwya tebygol yw hi y bydd rhywun yn crybwyll Saunders Lewis (neu Gwynfor Evans).

9. Mae pob trafodaeth yn tueddu tuag at begynnau, rhwng gogledd/de, dwyrain/gorllewin, trefol/cefn gwlad, iaith gyntaf/ail iaith, gwerinol/diwylliedig, heriol/sefydliadol, technolegol/traddodiadol.

10. Mae gwefannau Cymraeg yn cael eu lansio gyda heip mawr, cyn marw’n dawel ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl i’r arian cyhoeddus redeg allan.

Postiwyd yn Y We | 2 Sylw

Ydi’r camera yn caru Carwyn?

Ers 2009 mae gan Llywodraeth Cymru sianel ar YouTube sy’n cyhoeddi pigion achlysurol am waith y llywodraeth a datganiadau gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Dyw e ddim yn arbennig o boblogaidd a pwy all feio pobl am hynny?

Ddoe, ddiwrnod yn gynnar, fe gyhoeddwyd cyfarchiad Dydd Gŵyl Dewi gan Carwyn Jones, yn saesneg yn unig. Dwi’n siwr y bydd fersiwn Cymraeg yn dilyn, unrhyw flwyddyn nawr. Ond nid dyna pwynt y cofnod hwn – fy nghwestiwn i yw pam fod cysylltiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru mor ddiawledig o amaturaidd? Mae’n debyg fod y fideo yma wedi ei gynhyrchu gan ac ar gyfer ‘Croeso Cymru’ sy’n rhan o’r llywodraeth ers diddymu Bwrdd Croeso Cymru.

Anghofiwn am y cynnwys am nawr. Dyma fy sylwadau ar agweddau technegol y fideo:

  • Mae’r fideo yn y safon isaf posib ar YouTube (240p)
  • Mae’r gymhareb agwedd yn anghywir felly mae’r llun wedi ei gywasgu (efallai mewn ymgais i leihau bloneg y prif weinidog)
  • Mae’r sain ar y sianel chwith yn unig ac yn ddistaw.
  • Ydi Carwyn yn eistedd mewn cwpwrdd? Sdim angen ffurfioldeb desg ond nag oes cefndir fwy addas ar gael? Beth am olygfa i sefydlu’r lleoliad cyn yr olygfa agos? Beth am sioe o gennin pedr neu faner Dewi Sant?
  • Mae’r goleuo yn wael a ddim yn ffafriol iawn i bryd a gwedd Carwyn.
  • Efallai fod colur yn mynd dros ben llestri ond feddyliodd neb am gribo’r gwallt ‘na?

Mae sgript y cyfarchiad yn weddol er ychydig yn sych ac yn cael ei ddarllen yn dda fel mae Carwyn Jones yn arfer ei wneud. Ond mae amaturiaeth y cynhyrchiad yn embaras. Fel dywedodd Dewi Sant – gwnewch y pethau bychain.

Does dim angen mynd yn rhy wlatgarol ac Americanaidd ond fe fyddai meddwl am y pethau bychain yn y fideo uchod wedi gallu gwneud cymaint fwy i gyflwyno Cymru i’r byd gyda delwedd modern a hyderus.

Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus i bawb.

Postiwyd yn Fideo, Gwleidyddiaeth | 1 Sylw