Wythnos Byw’n Iach

Mae Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach yn cael ei gynnal wythnos nesaf, yn cael ei drefnu gan grŵp o aelodau’r Cynulliad. Does dim fersiwn Gymraeg ond fel mae nhw’n dweud, dy’n nhw ddim yn rhan o’r Llywodraeth felly ‘sdim ots nag os?

Ond fel mae sylw gan yr Atal Genhedlaeth yn dangos, efallai nad yw hyn yn beth drwg – edrychwch ar y ffeil PDF yma. Er enghraifft, mae’r teitl “Ever felt there are things you should change to improve your health?” yn cael ei gyfieithu i “Byth ffeltio mae na pethau dylet chi newid I gwella eich iechyd?“. Creadigol iawn ond ddim cystal â fersiwn Tranexp – “Bob amser balfaledig mae bethau ddylasech chyfnewid at gwella ‘ch hiachâd?

Postiwyd yn Newyddion, Scymraeg, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Wythnos Byw’n Iach

Mellt a tharanau

Cododd storm dda iawn neithiwr fel awgrym fod yr Haf yn dod yn araf bach. Wnes i ffilmio ychydig o’r storm gyda’r camera digidol bach a dyma rhai o’r mellt mwya trawiadol.

Postiwyd yn Bywyd, Fideo | 7 Sylw

Cronfa Rhaglenni’r BBC

Yn ddiweddar fe wnaeth y BBC rhoi ei gatalog o raglenni ar lein. Mae’n adnodd gwych i gîcs teledu/radio fel fi neu unrhyw un sydd eisiau gwneud ymchwil mewn unrhyw faes. Chwilio am enwau yw’r cam amlwg cynta. Er enghraifft, beth am ymddangosiadau Dafydd Wigley ar y BBC o 1974 hyd heddiw?

Dyma’r rhestr o raglenni Cymraeg y BBC – ond mae yna fylchau yma am nad yw pob rhaglen Gymraeg wedi ei nodi o dan y genre yma.

Wrth feddwl am gyfresi i chwilio amdanynt, y rhai amlwg i mi oedd Yr Awr Fawr a Hafoc. Sdim llawer o wybodaeth am y cyfresi hynny ond mae gwybodaeth ddefnyddiol yn rhestr rhaglen y Bocs a gyflwynwyd gan Huw ‘Bobs’ Pritchard – mae gwybodaeth am y bandiau a’r caneuon wnaeth ymddangos, ynghyd a dau ddangosiad gan un ‘David Edwards (musician)‘.

Mae’n biti nad yw’r wybodaeth yn gyflawn – lle mae holl bennodau Heno Bydd Yr Adar Yn Canu? Er hynny.. fe fyddai’n twrio fan hyn am sbel.

Postiwyd yn Teledu, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cronfa Rhaglenni’r BBC

Disc a Dawn

Dyma glip bach o Disc a Dawn, y rhaglen cerddoriaeth bop cyntaf yn Gymraeg. Mae Ronnie Davies yn cyflwyno Meic Stevens yn canu ‘Y Brawd Houdini’. Mae Alan Freeman yn tros-leisio hwn felly mae’n siwr fod y clip yma o rhaglen ddogfen. Roedd y dyn camera ar asid, gyda llaw.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo | 3 Sylw

Gwefan Cyngor Caerdydd

Dwi newydd sylwi fod gan Gyngor Caerdydd wefan newydd o’r diwedd. Roedd yr hen un yn warthus a felly mae’n dda gweld unrhyw welliant. Mae’n werth gwneud adolygiad byr o sut hwyl mae nhw wedi cael arni, o safbwynt technolegol yn bennaf:

Dylunio – Dyw e ddim yn hynod drawiadol ond mae’n ddigon effeithiol yn ei bwrpas fel gwefan i rannu wybodaeth. Mae’n gweithio ymhob maint sgrîn ond mae nhw’n newid maint y lluniau yn ogystal a’r cynllun wrth newid maint y porydd sy’n gwneud y lluniau edrych yn eitha gwael ac amhroffesiynol.

O ran yr arddull (mewn CSS), mae’n edrych mai dim ond yn Internet Explorer mae’r cynllun wedi ei profi. Edrychwch ar y dudalen yma yn Firefox neu Safari er enghraifft. Mae yna wall yn Safari (diolch Huw) lle mae testun yr ‘allweddau mynediad’ (access keys) yn ymddangos (bach o CSS amheus gyda z-index os ydych chi wir eisiau gwybod) . O… a mae ei favicon nhw yn hynod o naff.

Dwyieithrwydd – Mae’r strwythur yn gwbl ddwyieithog er fod cryn dipyn o’r cynnwys ddim ar gael yn Gymraeg eto. Mae safon yr iaith yn dda iawn o’r hyn dwi wedi weld, fel yr hen wefan i ddweud y gwir. Un peth rhyfedd yw fod rhai adrannau ddim yn dangos pan nad yw’r cynnwys wedi ei gyfieithu a felly yn dangos tudalennau gwag, cymharer y newyddion Cymraeg a Saesneg.

Rhywbeth diddorol arall yw eu bod yn cynnig fersiynau Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg o’r wefan drwy wasanaeth Babelfish sydd, er ei fod yn ddefnyddiol, ddim yn adnabyddus am gywirdeb y cyfieithiad.

Llywio – Mae prif adrannau y wefan yn ddigon clir ac o fewn pob adran mae bwydlen ar y chwith gyda, ar y mwyaf, tri is-lefel. Yn anffodus, mae trefn y fwydlen yma yn symud yr adran gyfredol i’r brig hyd yn oed pan mae adrannau arall yno, sy’n hynod o ddryslyd wrth bori drwy’r adrannau. Er enghraifft, ymwelwch a’r dudalen yma yna dewiswch rhai o’r is-adrannau (Pecynnau’r Wasg | Areithiau | Bywgraffiadau | Ffeithiau a Ffigurau).

Arall – Mae yna wasanaeth eitha diddorol ‘Siarad gyda Asiant‘ sef sgwrs fyw ar y wefan. Mae yna rybudd “O ganlyniad i natur y dechnoleg hon, ni allwn warantu y bydd ein hymateb na’r sgwrs yn ramadegol gywir.”. Mewn geiriau arall, allwn ni ddim warantu y bydd ein staff yn gallu ymateb gywir ac yn ramadegol!

Crynodeb: Mae cyngor mwya’ Cymru wedi bod ar ei hôl hi gyda datblygiad ei gwefan ond mae nhw nawr nôl i’r un safon a rhai o’r cynghorau arall a ddim yn embaras bellach. Mae’n wefan sylfaenol a safonol ond does dim llawer o nodweddion sy’n ychwanegol i’r arfer – dim porthiant RSS ar gyfer y newyddion, swyddi er enghraifft. Felly 7.5/10 am yr ymdrech a gobeithio y byddant yn parhau i addasu’r wefan wrth gael sylwadau o’r defnyddwyr.

Postiwyd yn Y We | 1 Sylw