Wythnos Byw’n Iach

Mae Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach yn cael ei gynnal wythnos nesaf, yn cael ei drefnu gan grŵp o aelodau’r Cynulliad. Does dim fersiwn Gymraeg ond fel mae nhw’n dweud, dy’n nhw ddim yn rhan o’r Llywodraeth felly ‘sdim ots nag os?

Ond fel mae sylw gan yr Atal Genhedlaeth yn dangos, efallai nad yw hyn yn beth drwg – edrychwch ar y ffeil PDF yma. Er enghraifft, mae’r teitl “Ever felt there are things you should change to improve your health?” yn cael ei gyfieithu i “Byth ffeltio mae na pethau dylet chi newid I gwella eich iechyd?“. Creadigol iawn ond ddim cystal â fersiwn Tranexp – “Bob amser balfaledig mae bethau ddylasech chyfnewid at gwella ‘ch hiachâd?

Postiwyd y cofnod hwn yn Newyddion, Scymraeg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.