Gwefan Cyngor Caerdydd

Dwi newydd sylwi fod gan Gyngor Caerdydd wefan newydd o’r diwedd. Roedd yr hen un yn warthus a felly mae’n dda gweld unrhyw welliant. Mae’n werth gwneud adolygiad byr o sut hwyl mae nhw wedi cael arni, o safbwynt technolegol yn bennaf:

Dylunio – Dyw e ddim yn hynod drawiadol ond mae’n ddigon effeithiol yn ei bwrpas fel gwefan i rannu wybodaeth. Mae’n gweithio ymhob maint sgrîn ond mae nhw’n newid maint y lluniau yn ogystal a’r cynllun wrth newid maint y porydd sy’n gwneud y lluniau edrych yn eitha gwael ac amhroffesiynol.

O ran yr arddull (mewn CSS), mae’n edrych mai dim ond yn Internet Explorer mae’r cynllun wedi ei profi. Edrychwch ar y dudalen yma yn Firefox neu Safari er enghraifft. Mae yna wall yn Safari (diolch Huw) lle mae testun yr ‘allweddau mynediad’ (access keys) yn ymddangos (bach o CSS amheus gyda z-index os ydych chi wir eisiau gwybod) . O… a mae ei favicon nhw yn hynod o naff.

Dwyieithrwydd – Mae’r strwythur yn gwbl ddwyieithog er fod cryn dipyn o’r cynnwys ddim ar gael yn Gymraeg eto. Mae safon yr iaith yn dda iawn o’r hyn dwi wedi weld, fel yr hen wefan i ddweud y gwir. Un peth rhyfedd yw fod rhai adrannau ddim yn dangos pan nad yw’r cynnwys wedi ei gyfieithu a felly yn dangos tudalennau gwag, cymharer y newyddion Cymraeg a Saesneg.

Rhywbeth diddorol arall yw eu bod yn cynnig fersiynau Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg o’r wefan drwy wasanaeth Babelfish sydd, er ei fod yn ddefnyddiol, ddim yn adnabyddus am gywirdeb y cyfieithiad.

Llywio – Mae prif adrannau y wefan yn ddigon clir ac o fewn pob adran mae bwydlen ar y chwith gyda, ar y mwyaf, tri is-lefel. Yn anffodus, mae trefn y fwydlen yma yn symud yr adran gyfredol i’r brig hyd yn oed pan mae adrannau arall yno, sy’n hynod o ddryslyd wrth bori drwy’r adrannau. Er enghraifft, ymwelwch a’r dudalen yma yna dewiswch rhai o’r is-adrannau (Pecynnau’r Wasg | Areithiau | Bywgraffiadau | Ffeithiau a Ffigurau).

Arall – Mae yna wasanaeth eitha diddorol ‘Siarad gyda Asiant‘ sef sgwrs fyw ar y wefan. Mae yna rybudd “O ganlyniad i natur y dechnoleg hon, ni allwn warantu y bydd ein hymateb na’r sgwrs yn ramadegol gywir.”. Mewn geiriau arall, allwn ni ddim warantu y bydd ein staff yn gallu ymateb gywir ac yn ramadegol!

Crynodeb: Mae cyngor mwya’ Cymru wedi bod ar ei hôl hi gyda datblygiad ei gwefan ond mae nhw nawr nôl i’r un safon a rhai o’r cynghorau arall a ddim yn embaras bellach. Mae’n wefan sylfaenol a safonol ond does dim llawer o nodweddion sy’n ychwanegol i’r arfer – dim porthiant RSS ar gyfer y newyddion, swyddi er enghraifft. Felly 7.5/10 am yr ymdrech a gobeithio y byddant yn parhau i addasu’r wefan wrth gael sylwadau o’r defnyddwyr.

Postiwyd y cofnod hwn yn Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Gwefan Cyngor Caerdydd"