Dyyyyyyma Johnny…

Fel wnes i grybwyll o’r blaen, mae Recordiau R-bennig wedi dod i ben, ond mae Johnny R am barhau ei anturiaethau creadigol mewn cyfrwng arall – ffilmiau. Yn ôl y wefan, y bwriad yw cynhyrchu ffilm o’r enw “Pram Ddim”. Efallai fod hyn yn wir, neu efallai ei fod yn arsylwad dychanol ar y tueddiad sydd gan cyn-berchnogion label neu gerddorion i fynd i’r diwydiant ffilmiau/teledu sydd wrth gwrs yn ddiwydiant llawer mwy rhywiol (a sdim angen slafio yn y stiwdio ar ran bandiau amatur anniolchgar).

Ta waeth, yn arbennig ar gyfer darllenwyr Daflog rwy’n cyflwyno arbrawf cynta R-bennig yn y maes, cafodd ei ysbrydoli gan rhywbeth wnes i jyst wneud lan, sef cyfarfod cyffredinol y ‘John Grindell Appreciation Society’ lle mae pawb yn dod i ddawnsio “ar y Sgwâr” (Mount Stuart) mewn wigs melyn llachar. Dyma’r fideo:

Postiwyd yn Ffilm, Fideo | 4 Sylw

Cynnwrf yn Nhre Bute

Wrth adael y gwaith neithiwr fe welais i fod yr heddlu wedi ymgynnull i lawr y stryd. Roedd pedwar car heddlu yno a roedd tâp plastig wedi ei glymu ar draws y stryd. Mi roedd rhai o’r heddweision yn sgwrsio gyda grŵp o ddynion ifanc ac yn cymryd nodiadau. R’on i’n disgwyl gweld rhyw stori ar y newyddion ‘falle ond doedd dim byd.

Er fod yr heddlu dal yno y bore ‘ma doedd gan neb ddim syniad be oedd wedi digwydd. Erbyn hyn mae ychydig bach o’r manylion wedi ei gyhoeddi yn yr Echo. Y tro diwethaf i’r stryd fod yn y newyddion, roedd am resymau gwahanol iawn.

Postiwyd yn Bywyd | 1 Sylw

Tich a Chile

Mae’n flwyddyn ers i Tich Gwilym farw mewn tân yng Nghaerdydd. Yn ogystal a bod yn gitarydd roc roedd gan Tich ddiddordeb mawr yng ngherddoriaeth De America. Roedd ganddo fand oedd yn chwarae cerddoriaeth o Chile ond dwi ddim yn gwybod llawer amdanynt. Dwi’n credu mai “Los Ionisos” oedd yr enw diweddar ond dwi wedi darganfod clipiau fideo ohonynt o dan yr enw “Los Guapos” (efallai fod fy sillafiad yn anghywir!).

Dyma ddau fideo o’i fand yn chwarae ar raglen y Sesiwn Fawr ar S4C yn 2000. Eto, dwi ddim yn siwr os ydw i’n sillafu teitlau’r caneuon yma’n iawn – doedd y Sesiwn Fawr ddim yn credu mewn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y caneuon ar y sgrîn.

Itsi Matsai | Gau Chada

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo | 1 Sylw

Mynd am bicnic

Pa Huw Stephens ydych chi’n nabod? Y cyflwynydd teledu, neu’r DJ radio? Neu efallai y crwtyn bach ar deledu yn perfformio triciau hud? Ond roedd ganddo dric arall fyny’i lewys…

Dyma fideo gan y band Pic Nic pan oedd Huw yn 16, oddi ar EP o’r un enw a gynhyrchwyd gan R-bennig. (hawlfraint fideos tsiep S4C, 1997)

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo | 2 Sylw

Mam, dw’isio in-tyr-net!

Mwy o ‘hen newyddion’ am y rhyngrwyd, o Ebrill 1995. Mae’r clip yn hunan-esboniadwy. Mi ddyle fod y plant yma yn y coleg (neu newydd adael) erbyn hyn, rhywun yn eu nabod?

Postiwyd yn Fideo, Teledu, Y We | 8 Sylw