Traws sCambria

Diolch i Telsa am ddod a gwefan ofnadwy TrawsCambria i fy sylw. Mae prif dudalen y wefan yn dechrau yn y modd mwy anghywir drwy ddangos baner Lloegr a Chymru nesa at y “Deqis” iaith a dyw pethe ddim yn gwella o hynny mlaen. Wedyn mae un brawddeg fach sy’n esbonio eu bod yn gweithio ar “gyfeithu yr wefan i’r Gymraeg ac fe fudd ar gael yn fuan”.

Erbyn hyn mae cynllun TrawsCambria yn cael ei reoli gan y Cynulliad er mai’r cwmniau bys preifat sy’n rhedeg y gwasanaethau, felly mae’r wefan yn torri’r gyfraith ar hyn o bryd. Ond dyma be chi’n gael wrth rhoi rheolaeth o’ch wefan i bobl meddw.

Postiwyd yn Scymraeg, Y We | 4 Sylw

Kronva Thoor

Ydych chi’n credu bod nofio mewn cronfa ddŵr yn cŵl? Wel dyw e ddim, reit? Dyna’r neges sydd i’w glywed mewn trac newydd sydd wedi ei ryddhau gan Cymal 3. Dyna gyd.

      Cymal #3 - Kronva Thoor
[3.78MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw

Mae’n flin gen i Daf, alla’i ddim gwneud hynny..

Dyna un o’r pethe fase HAL wedi ddweud petai 2001: A Space Odyssey yn ffilm Gymraeg. Er ein bod ni yn 2006, dyw cyfrifiaduron dal ddim yn gallu rhesymu, heb son am siarad yr un fath a HAL. Gwneud i gyfrifiadur siarad yw un o’r technolegau anoddaf i’w ddatblygu ac er yr addewidion dros y blynyddoedd, does dal dim meddalwedd sy’n galluogi cyfrifiadur i leisio unrhyw destun yn berffaith mewn unrhyw iaith.

Mae datblygu system o’r fath ar gyfer Cymraeg heb lawer o adnoddau wedi bod yn waith hir, diflino. Dwi’n cofio Dr Briony Williams yn cyflwyno syntheseinydd llais Cymraeg yn 1995, a roedd hynny yn sgîl blynyddoedd o waith ymchwil.

Erbyn hyn mae’r Uned Technoleg Llais yng Nghanolfan Bedwyr wedi cyflwyno pecyn testun-i-lais ar gyfer Cymraeg. Mae fersiwn 1.0 ar gael yma i fod ond dyw’r ffeil zip ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Mae fersiwn 0.5 ar gael hefyd ond mae yna wallau ynddo a mae’n defnyddio hen samplau llais. Fel enghraifft o’r llais, dyma gloc sy’n siarad Cymraeg.

Postiwyd yn Cymraeg, Technoleg | 2 Sylw

Telyn y gwir

Diolch i Mei am roi fideo lan o berfformiad hynod Wilma Harries yn y Steddfod. Roedd hi yn un o ddau wnaeth roi cynnig ar Cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas – unawd agored ar y delyn deires. Mae hi’n chwarae dau ddarn traddodiadol – ‘Dafydd y Garreg Wen’ a ‘Cartref’ – mewn arddull ‘cerdd dannedd gosod’. Dim ond dau oedd yn y ras ond daeth neb yn gynta. Roedd Wilma yn drydydd.

Postiwyd yn Eisteddfod2006, Fideo | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Telyn y gwir

Chris a Claire

Syrpreis bach oedd gweld seleb diweddara Cymru yn cael ei gyfweld ar Wales Today yn ei acen Americanaidd rhywiol. Doniol sut mae Claire Summers yn dweud “tell the viewer” – dim ond fi oedd yn gwylio felly?

Roedd Chris Cope yn yr Eisteddfod heddi i siarad yn Maes D. Mae’r boi yma yn ‘pro’ nawr – sylwch sut mae’n cofio i ddweud ‘Autumn’ nid ‘Fall’. Dyma fideo i chi wnaeth ei golli.

Postiwyd yn Cymraeg, Eisteddfod2006, Fideo, Teledu | 2 Sylw