Diwedd R-bennig?

Yn ôl eu gwefan, mae Recordiau R-bennig o Fôn wedi dod i ben ar ôl 15 mlynedd o ryddhau recordiau gwahanol ac unigryw. Fe ddes i ar draws y label gynta tua 1990 neu 1991 pan glywes i record A5Gadael/Colli Mynadd‘ yn cael ei chwarae ar sioe Nia Melville ar Radio Cymru. Ac o hynny ymlaen fe ddes i yn ffan pennaf o’r label a wnes i ymgais (aflwyddiannus) i gasglu unrhywbeth yr oedden nhw’n cyhoeddi.

Profiad rhyfedd oedd cysylltu gyda Johnny R, perchennog y label, yn y dyddiau cynnar. Fe wnes i ddanfon arian yn gofyn am gopi o rhyw record (7″ Amser y Mis efallai) ynghyd a llythyr gwirion (fel bachgen ychydig yn ‘wahanol’ yn fy arddegau gyda lot o bethau rhyfedd yn mynd ymlaen yn fy meddwl). Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach fe ges i’r pres yn ôl, dim record ond llythyr yn cynnwys rant hir - roedd Johnny yn fy nghyhuddo o fod yn ’sbei’ o gwmni Cytgord. (Paranoia Cefn Gwlad)

A Sbei fues i o hynny ymlaen wrth i mi lythyru gyda’r dyn hynod yma o Walchmai a danfon fy ymgeision pitw i gynhyrchu cerddoriaeth arbrofol efo dim byd mwy na samplyr 8-bit a chwaraewr casét.

Mwy o atgofion nes ymlaen efallai - dim ond gobeithio y byddwn ni’n clywed eto gan Mr. R (a nid jyst ar y blog yma!) yn y dyfodol.

4 Sylw i'r cofnod “Diwedd R-bennig?”

  1. Meddai Huw Waters:

    Siomedig yw clywed y newyddion yma.

  2. Meddai Johnny R:

    Ie a fi! wedi arbrofi gyda sawl sgam dros y years, pefrect exaple of ‘credu be ti’n darllen’ trwy’r genhedlaeth y we efallai!?? Ar ol 15 blynedd o rhyddhau ‘nwyddau’ o’n i angen ‘awyr iach’, nath R-bennig braidd yn di-gyfeiriad ar ol byw ym Mangor, yn rhyddhau sdwff d-gymraeg ayb, lot o ’soul searching’ am tri neu bedwar mis..wnes i rhedeg http://www.monmodern.com The Anglesey Museum Of Modern Art, bach o virtual arts galeri, ond ar ol edrych yn y drych mae’n debyg ‘wobl’ bach oedd claddu Johnny R/R-bennig..mi fyddai farw gyda Bnr ”R” siwr o fod. ‘Teisandeimlad’ yw fy latest prosiect, groovy madness tu hwnt..heb cymryd dim sylw o neb SRG aidd rili am yonks..blydi awful Mim Twm/Moniars Gwynfryn Cymunedol pants di cymryd dros y SRG mewn gwirionedd//grants for pants. Nes i sgwennu llyfr hefyd am R-Bennig, os unrhyw gwasg angen ‘good read’ neu digon cwl i cyhoeddi..the bit about Huw Stephens (inept crach kid) yn ffyni..and of course Y SPEI..great concept..er cof am SOTHACH..nes i hefyd rhedeg TV Sioe Gymraeg ar ffons symudol SIANEL MEINIR FFLUR am ychydig ‘upgrade’ o Radio-D, rwi hefyd d od trwy petha teulueol o’r uffern, part from that..let em eat cake!
    Mae SRG braidd yn ’saff’..it should be a rebelious outlet in minority lingo..not ROC Y BRO mewn dwylo aging athros fel Arfon Wyn/RC arse lickers Aled Glyn/Menna Mingar…ond eto…neb yn gwranda a nyttars fel fi!
    Mae genod y SRG yn uffernol..Meinir Gwilym ayb..wheres the SEX??

  3. Meddai Johnny R:

    Ffarwel Betsan Wetsan Bach,
    Mae’n debyg fod R-bennig yn gwir wedi gorffen fel ‘cwmni recordiau’ yn unig (hwre meddai Radio Cymru ac ati!). Mae’n ddebyg fod y byd ffilm yn gafael felly rwi’n cychwyn ar brosiect o’r enw ”PRAM DDIM” yn ffilmio’r clasur i’r sinema Gymraeg nes yn y blwyddyn, yn chwilio actorion rwan!
    Dwn i ddim os na i gadael yr enw ”R-bennig”, efallai rhy cysylleddig a’r cerddoriaeth yw hwnna? Os hoffwch cymryd rhan mewn y ffilm ffonia 07984 394068 a gadael neges, dwn i ddim os na cadw fy gyfeiriad ebost. Am enw newydd felly? Beth am ”SAIM”,”CELPAN”, ”HUW STEPHENS IS A VIRGIN”?, neu ”HOGYN GWYNFRYN IS NOT DONIOL BUT S4C THINK HE IS” ac ati??? Personally it takes some beating to come up with GWYNFRYN CYMUNEDOL..charity case acts? Bod hwyl..Johnny R

  4. Meddai myrf:

    oes na rhywun yn gallu deud wrthai os oes na wefan yn cynnwys can Johnny R am ‘Hogiau JMJ’ plis??- Clasur o gan sy’n gorfod mynd ar fy ipod!!

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.