Ffilm Ffwoar

Ffilm Ffwoar

Ffwoar, drychwch ar ‘equipment’ honna. Na nid Keiley dwi’n feddwl ond yr Halinamatic Super-8 (o car boot sale Caergybi bai eni chans?). Mae hwn wedi’i gymryd o sesiwn luniau ar gyfer prosiect newydd Johnny R – Ffilm Ffwoar.

Oeddech chi’n gwybod fod Johnny R yn arfer bod yn ‘SA’ neu ecstra ar Hollyoaks? Na, does dim prawf gen i. Ond efallai fod hyn yn esbonio pam fod Johnny, tra nad yw’n weindio lan perchennog fforwm boblogaidd, yn ffansio ei hun fel cyfarwyddwr a wedi mentro i’r maes. Os ydych chi eisiau bod yn seren swpyr-eit ewch i’r wefan am fanylion – beth sy’ da chi golli heblaw eich urddas?

Postiwyd yn Ffilm, Y We | 4 Sylw

Cymru o’r Awyr

Mae gwefan Cymru o’r Awyr yn cynnwys clipiau fideo o nifer o ardaloedd yng Nghymru, wrth hedfan dros y tir mewn hofrennydd. Mae’r safle wedi bod ar gael ers ychydig o flynyddoedd ond mae llawer mwy o fideos wedi eu hychwanegu ers i mi ymweld ddiwethaf.

Dau feirniadaeth sgen i – mae’n boen gorfod dewis ansawdd/fformat y fideo bob tro a dwi ychydig yn siomedig gyda ansawdd y llun, yn enwedig am ei fod yn adnodd a allai fod yn gwneud defnydd gwych o gysylltiad band-llydan. Er hynny mae’r safle yn un digon diddorol, yn enwedig os nad ydych chi’n gyfarwydd a phob rhan o Gymru.

Postiwyd yn Fideo, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cymru o’r Awyr

Pum mlwyddiant Radio Amgen

Ar 24 Hydref 2001 fe gwe-ledwyd sioe gynta Radio Amgen (ar y cyfeiriad http://www.geocities.com/radio_amgen/ gyda llaw, chi ymchwilwyr o’r dyfodol) a fe symudwyd i’r parth radioamgen.com ym mis Mai 2002. Dyma eitem a ddarlledwyd heno ar Wedi 7 (o bob man) ynglyn a phenblwydd yr orsaf.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Y We | 2 Sylw

Traws sCambria

Diolch i Telsa am ddod a gwefan ofnadwy TrawsCambria i fy sylw. Mae prif dudalen y wefan yn dechrau yn y modd mwy anghywir drwy ddangos baner Lloegr a Chymru nesa at y “Deqis” iaith a dyw pethe ddim yn gwella o hynny mlaen. Wedyn mae un brawddeg fach sy’n esbonio eu bod yn gweithio ar “gyfeithu yr wefan i’r Gymraeg ac fe fudd ar gael yn fuan”.

Erbyn hyn mae cynllun TrawsCambria yn cael ei reoli gan y Cynulliad er mai’r cwmniau bys preifat sy’n rhedeg y gwasanaethau, felly mae’r wefan yn torri’r gyfraith ar hyn o bryd. Ond dyma be chi’n gael wrth rhoi rheolaeth o’ch wefan i bobl meddw.

Postiwyd yn Scymraeg, Y We | 4 Sylw

Kronva Thoor

Ydych chi’n credu bod nofio mewn cronfa ddŵr yn cŵl? Wel dyw e ddim, reit? Dyna’r neges sydd i’w glywed mewn trac newydd sydd wedi ei ryddhau gan Cymal 3. Dyna gyd.

      Cymal #3 - Kronva Thoor
[3.78MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw