Trafferthion teithio

Oherwydd y gwynt a glaw di-derfyn yn ddiweddar, mae e wedi bod yn ddigon anodd teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus mewn rhannau o Gymru. Mae’r trênau o gwmpas Caerdydd wedi bod yn eitha annibynadwy – y diwrnod o’r blaen fe ganslwyd dau drên yn olynol, felly roedd rhaid cerdded lan Stryd Bute yn y glaw (ymarfer corff da falle ond ddim yn bleserus). Y dyddie yma, wrth gerdded drwy Caerdydd yn y tywyllwch gyda’r glaw yn tasgu oddi ar yr ymbarél, dwi’n hanner disgwyl tîm Torchwood i ruthro rownd y gornel ar drywydd ryw ddirgelwch arall.

Cyn i fy ffantasi gymryd drosodd, roedd pwynt i’r blogiad yma – sef nodi fod porthiant RSS Cymraeg gan y BBC o newyddion teithio Arriva Cymru. Alla’i ddim gweld hwn wedi ei hysbysebu unrhyw le, ddim yn y wefan Teithio na Travel News. Dangos y prif ddigwyddiadau mae hwn nid gwybodaeth am bob gorsaf ond mae’n fwy defnyddiol na ein hen ffrind, gwefan Arriva.

Postiwyd yn Bywyd, Y We | 2 Sylw

Ysgrifen ar y murmur

Flin am y teitl. Nodyn bach i roi dolen i flog newydd am dechnoleg iaith gan staff Canolfan Bedwyr, ‘na gyd.

Postiwyd yn Blogiau, Cymraeg, Iaith | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Ysgrifen ar y murmur

Ailgylchu baw defaid

Os ydych chi’n hwyr yn paratoi eich cardiau nadolig flwyddyn yma, beth am brynu rhai sydd wedi ei ailgylchu o faw defaid. Mae cwmni o Wynedd yn gwerthu cynnyrch (dim gwefan Gymraeg eto) sydd yn gwneud defnydd newydd o’r gwastraff yma. Yr unig beth sy’n poeni fi yw – onid yw baw defaid ac anifeiliaid eraill yn rhan o broses naturiol a hanfodol o roi gwrtaith yn ôl i’r pridd, yn enwedig ar dir mynydd?

Postiwyd yn Y We | 4 Sylw

Radio curiad

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda darlledu ar-lein. Fel cam cyntaf dwi wedi agor gorsaf radio 24/7 i gerddoriaeth Cymraeg. Mae gen i gasgliad o mp3s Cymraeg wedi ei llwytho lawr o wefannau bandiau, rhai clasuron a rhai diweddar iawn. Wedyn wnes i wneud ‘rhestr chwarae’ o rhain i gyd – 8 awr a hanner i gyd. Mae’r rhestr yma yn chwarae ar hap drwy’r amser. Dim DJs crap, dim siarad gwag, jyst cerddoriaeth amrywiol.

Os ydych chi’n gwrando ar hwn, a dechrau syrffedu ar yr un traciau yn dod lan o hyd, mi fydd rhaid i fi chwilio am fwy o ffeiliau i ychwanegu i’r llyfrgell. I wrando ar y ffrwd mae angen chwaraewr mp3 a agor y cyfeiriad yma – http://radio.curiad.org:8000/byw.m3u ynddo.

Dwi’n gwybod fod y meddalwedd yma yn gweithio: WinAMP, XMMS, Windows Media Player. Mae rhai yn well na’i gilydd am ddangos manylion y traciau sy’n chwarae ar hyn o bryd. Hoffwn i wybod os ydych chi’n llwyddo gwrando ar yr orsaf drwy unrhyw feddalwedd arall.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Radio, Rhithfro, Y We | 14 Sylw

Gwefannau pleidiau gwleidyddol Cymru

Fel mae Rhys wedi nodi yn barod, roedd erthygl yn y Western Mule ddoe yn adolygu gwefan newydd Plaid Cymru a’i gymharu gyda’r prif bleidiau arall yng Nghymru.

Mae’n adolygiad annheg, anwybodus a chamarweiniol. Dwi am fanylu ymhellach ac yn faith am y mater.
Continue reading →

Postiwyd yn Technoleg, Y We | 2 Sylw