Chwiliad newydd Google

Mae Google wedi lansio gwasanaeth er mwyn creu chwiliad addasedig. Mae wedi bod yn bosib ers tipyn i ddefnyddio Google i wneud chwiliad o fewn eich gwefan eich hun, ond mae hwn yn cynnig mwy o reolaeth dros ba allweddeiriau a safloedd i’w cynnwys neu eu blaenoriaethu.

Dwi ddim yn gweld llawer o fantais eto o ran chwiliadau Cymraeg. Os ydych chi’n chwilio am eiriau Cymraeg neu enwau sy’n ymddangos yn niwylliant Cymraeg yn unig, mi fyddwch chi’n debygol o gael canlyniadau boddhaol o brif wefan Google. Mi allai’r gwasanaeth yma helpu ychydig drwy gyfyngu i set o wefannau Cymraeg o’n dewis ni. Dwi wedi arbrofi drwy greu chwiliad isod, sydd yn chwilio’r We i gyd ond yn rhoi fwy o bwyslais ar rai gwefannau Cymraeg dwi wedi nodi. Y broblem gyda hyn yw fod angen cynnal a chadw y rhestr er mwyn ei gadw’n ddefnyddiol, er mai prif bwrpas technoleg yw gwneud pethau’n haws ac yn fwy otomatig.






Postiwyd y cofnod hwn yn Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Chwiliad newydd Google"