Sgwennu pop music, canu, good tunes

Dwi’n parhau miri Myrddin drwy edrych ar rhai arall o gyn-ddisgyblion enwog Bro Myrddin – Gorky’s Zygotic Mynci yn cael eu cyfweld ar Fideo 9 gan Daniel Glyn yn Awst 1992. (pwyntiau ychwanegol am sbotio MC Sleifar ar y fiolin).

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo, Teledu | 3 Sylw

Gwisg ysgol newy’

Wnaeth fy fideo ddoe ddim llawer o les i Matthew, sydd yn dal i frwydro yn erbyn y Dewin Ding, lan yn nhref Efrog.

Yn parhau y thema felly, dyma eitem arall o Sgŵp yn trafod gwisg ysgol newydd! Edrychwch mas am ymddangosiad rhywun adnabyddus (oedd hi’n brif ferch falle?) yn cymryd yr awennau ar y drafodaeth, fel y mae’n parhau i wneud.

Postiwyd yn Fideo, Teledu | 3 Sylw

Ailgylchu hen deledu

Dwi yn ailgylchu hen rhaglenni teledu eto, a mae gen i thema tro yma – ysgol Bro Myrddin. Daw’r clipiau cynta o raglen ‘Sgŵp’ o 1992. Roedd y rhaglen yn mynd i ysgol wahanol bob wythnos a rhoi’r cyfle i’r disgyblion gyflwyno pedwar stori o’i dewis nhw. Mae’r clip heddiw yn eitem ar y chwaraewr snwcer ifanc Matthew Stevens.

Postiwyd yn Fideo, Teledu | 1 Sylw

Sega sadwrn segur

Y Nadolig yma, mae chwaraewyr gêmau yn edrych ymlaen i chwarae ar gonsol newydd y ‘Wii’ gan Nintendo, sy’n cystadlu yn erbyn yr Xbox 360 (allan ers blwyddyn) a’r PS3 (allan ym mis Mawrth 2007, i fod).

Deng mlynedd yn ôl roedd brwydr tebyg rhwng cwmnïau Nintendo, Sony a Sega. Adeg Nadolig 1995, fe adolygwyd y Sega Saturn gan rhyw grwt ar Uned 5, sgwn i os y’ch chi’n ei nabod e?

Postiwyd yn Fideo, Technoleg, Teledu | 1 Sylw

Gwenwch ffrindiau newydd!

Mae erthygl ar Ping Wales yn sôn am wefan o’r enw ‘Motivating Mates’ gafodd ei greu gan unigolyn o Ferthyr Tudful. Mae’r wefan nawr wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg, felly beth am gymryd cipolwg arno?

O na, baneri bach jac yr undeb er mwyn dewis iaith! Y brif neges ar y dudalen cartref yw “Gwenwch ffrindiau newydd… mae’n chychwyn yma!”. Nid y chychwyn gorau i fersiwn Gymraeg falle? Mae’r wefan i’w weld yn hyrwyddo syniad diddorol ond i feddwl fod cwmni proffesiynol wedi ei gyfieithu mae’n bosib y byddai gwasanaeth prawf-ddarllen y cwmni wedi bod yn ddefnyddiol cyn lansio.

Postiwyd yn Scymraeg, Y We | 8 Sylw