Gwefannau pleidiau gwleidyddol Cymru

Fel mae Rhys wedi nodi yn barod, roedd erthygl yn y Western Mule ddoe yn adolygu gwefan newydd Plaid Cymru a’i gymharu gyda’r prif bleidiau arall yng Nghymru.

Mae’n adolygiad annheg, anwybodus a chamarweiniol. Dwi am fanylu ymhellach ac yn faith am y mater.

Mae Mr Jon Ingram yn ‘weinyddwr gwe’ ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd a mae’r papur newydd wedi gofyn iddo adolygu’r gwefannau. Dwi ddim yn gwybod beth yw ei gymhwysterau ar y mater (ffrind i’r newyddiadurwr?) ond mae’n gyfrifol am wefan y brifysgol, wneith ddim ennill unrhyw wobrau am ddylunio.

Y Gwefannau dan sylw:
Ceidwadwyr Cymreig
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Plaid Cymru
Plaid Lafur Cymru (sydd ddim hyd yn oed yn gweithio ar hyn o bryd)

Cyllid ac arbenigedd
Y peth cyntaf rhaid crybwyll wrth gwrs yw cyllid. Mae pob plaid heblaw Plaid Cymru yn bleidiau sy’n gweithredu ar draws Prydain a felly mae mwy o arian ganddyn nhw i wario ar gysylltiadau cyhoeddus yn gyffredinol. Mae ganddynt staff llawn-amser sydd yn gweithio ar gyfathrebu electronig a felly yn gallu cyflogi arbennigwyr yn y maes yn fewnol – wrth gwrs mae’r staff yma yn gallu gwasanaethu Cymru yn ogystal a anghenion Llundain.

Mae gwefan y Ceidwadwyr Cymreig yn rhan o brif wefan y Ceidwadwyr felly does dim angen talu am wefan ar wahan – mae’r system reoli cynnwys yno’n barod a dyna gyd sydd angen gwneud yw ychwanegu’r cynnwys perthnasol. Mae gwefan Llafur Cymru yn un ar wahan ond yn defnyddio cynllun a thechnoleg eu prif wefan. Mae gwefan y Rhyddfrydwyr ar wahan hefyd ac yn hynach na’u prif wefan, sydd yn llawer gwell.

Buddsoddiad

Roedd hen wefan Plaid Cymru yn un ‘statig’, sef casgliad o dudalennau sefydlog. Mae’r wefan newydd yn buddsoddi mewn system reoli cynnwys (SRC) a fydd yn caniatau adeiladu nifer penagored o wefannau arall, ar gyfer ymgeiswyr, aelodau etholedig ac ymgyrchoedd y blaid.

Gan mai ychydig ddiwrnodau sydd ers lansio y wefan newydd dyw hyn ddim i’w weld eto – ond y fantais i’r blaid yn y tymor hir yw na fydd rhaid gwastraffu arian ar ofyn i’r darparwr ychwanegu unrhyw gynnwys newydd, mi all unrhyw wariant yn y dyfodol fynd ar ychwanegu fwy o nodweddion diddorol a defnyddiol.

Dylunio
Mae cyllid yn ffactor yn y gwaith dylunio hefyd. Fe all rhai prosiectau wario wythnosau a degau o filoedd o bunnoedd yn creu y gwaith dylunio, yn mynd trwy sawl fersiwn cyn dod i’r cynllun terfynol. Nid dyna a wnaed gyda gwefan PC ond creu cynllun fyddai’n syml ond yn effeithiol ac aml-bwrpas. Fe gynlluniwyd un strwythur cyson a 5 arddull CSS – un i’r brif wefan a 4 ar gyfer yr is-wefannau fydd yn bodoli yn y dyfodol agos.

Mae gwefan y Ceidwadwyr Cymreig yn dda iawn o ran dylunio ond eto mae’n defnyddio yr un cynllun a’r brif wefan, a mae’r baneri graffeg yn cyfeirio at faterion Prydeinig nid rhai Cymreig. Mae dylunio y Rhyddfrydwyr yn un eitha gwael yn gyffredinol – mae’n defnyddio gormod o destun graffeg, sy’n golygu fod y wefan yn llai hygyrch ac yn llai hyblyg os oes angen ychwanegu neu ail-enwi adrannau. Dwi ddim yn gallu edrych ar wefan y Blaid Lafur ar hyn o bryd am ei fod lawr! O be dwi’n gofio mae’n defnyddio union yr un arddull a prif wefan Llafur (ac o bosib yn defnyddio yr un SRC).

Hygyrchedd a defnyddioldeb
Mae Mr Ingram wedi drysu braidd ynglyn a hyn. Gwefan PC yw’r unig un sydd yn gwbl hygyrch gan ddilyn canllawiau y W3C a mae’r lleill yn torri’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1999. Mae ‘defnyddioldeb’ yn fater gwahanol, ac yn dibynnu’n llwyr ar be sy’n ddefnyddiol i ymwelydd newydd i’r wefan – er enghraifft, pa mor hawdd yw hi i lywio drwy’r safle a dod o hyd i wybodaeth?

Canfod eich cynrychiolydd
Mae’n wir nad oes ffordd syml o weld pwy yw eich aelod drwy chwilio am enw tref, sir neu god post. Er mwyn gwneud unrhyw un o rhain fe fyddai angen adeiladu cronfa ddata eitha sylweddol er mwyn sicrhau fod eich chwiliad yn mapio i’r aelod(au) cywir. Yn wahanol i restrau o aelodau etholedig ym Mhrydain, nifer weddol fach sydd o aelodau PC wrth gwrs felly ar hyn o bryd does dim pwynt gwario arian ar gronfa ddata neu fap i chwilio amdanynt.

Pan fydd yr ymgeiswyr ar gyfer etholiad Mai 2007 yn cael ei cyhoeddi ar y wefan dwi’n siwr fydd yna ffordd syml o ddangos rhain mewn rhestr wedi ei drefnu yn ôl etholaeth.

Nodweddion arbennig
Dwi’n amau os yw Mr Ingram wedi edrych o gwbl ar wefan PC am rhain. Mae Llafur yn cael 3 pwynt am adran i aelodau, y Ceidwadwyr yn cael 7 pwynt am lle i fewngofnodi, fideos a blogiau a’r Rhyddfrydwyr yn cael 2 bwynt am RSS.

Reit ar dudalen flaen gwefan PC mae dolen i gofrestru am gylchlythyron ebost, dolenni i’r fideos yn y ganolfan gyfryngol a porthiant RSS union yr un fath a’r tri safle arall (ym mhorwyr Firefox a IE 7 mi fyddwch chi’n gweld botwm i ddangos y wybodaeth RSS yn eich porwr). Yn adran newyddion gwefan PC mae yna fotwm RSS hefyd.

Yn fy mhrofiad i, os yw defnyddwyr yn gwybod beth yw pwrpas RSS, mi fyddan nhw yn chwilio amdano. Fel arall, mi fydd y porwyr diweddara yn dechrau poblogeiddio defnydd o’r dechnoleg drwy’r gefnogaeth sydd yn rhan craidd o’r meddalwedd newydd.

Rhy cŵl i’r (brif)ysgol
Mae hon yn adran ryfedd iawn, sy’n adlewyrchu rhagfarnau unigolyn am y pleidiau yn hytrach na’r wefan. Fe wnaeth nifer o gyd-weithwyr i fi (sydd ddim yn gefnogwyr naturiol i PC) ofyn y cwestiwn amlwg – sut ydych chi’n creu meini-prawf di-duedd i fesur pa mor ‘cŵl’ yw gwefan?

Dyna ni ‘te. Flin am y llith, ond roedd rhaid rhoi rhywfaint o ymateb i un o’r erthyglau gwan hynny sydd yn hynod nodweddiadol o’r Western Mail.

Postiwyd y cofnod hwn yn Technoleg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

2 Responses to "Gwefannau pleidiau gwleidyddol Cymru"