Techflog #4

Wna’i ganolbwyntio ar un peth yng nghofnod ola’r wythnos. Fe wnaethon ni lansio gwefan yn gynharach wythnos yma ond cael gwybod wedyn fod angen symud y blog o’r hen wefan.

Heddiw fe ges i gopi o’r ffeiliau ar gyfer rhedeg y blog WordPress. Y peth syfrdanol cynta oedd fod y gronfa ddata MySQL dros 1GB o faint! Fel cymhariaeth, dim ond 3MB yw maint cronfa y blog yma.

Fe ddaeth hi’n amlwg yn gyflym iawn beth oedd ar fai – roedd 100 o gofnodion yn y blog ond dros 400,000 o sylwadau! Ac ie, sbam oedden nhw gyd mwy neu lai. Mi fyddai wedi bod yn amhosib mynd drwy bob sylw i’w cymedroli felly roedd angen ffordd o ddileu sbam.

O edrych drwy’r sbam roedd yna rhai allweddeiriau amlwg. Wna’i ddim rhestru nhw fan hyn ond mae nhw gyd yn enwau brand enwog, yn feddyginiaethau a nwyddau ffasiwn. Un peth da yw bo nhw gyd wedi eu cymedroli, ac erioed wedi eu cyhoeddi ar y blog. Dim ond tri sylw oedd wedi cyhoeddi a roedd rheiny yn edrych yn fwy dilys.

Roedd yn gwneud synnwyr felly i ddileu yr holl sylwadau wedi eu cymedroli. Y broblem yw fod y gronfa ddata mewn fformat InnoDB, sy’n cadw cofnod trafodol (transaction) o bob gweithred a roedd hwnnw dal yn 1GB er fod maint y data lawr i 18MB. Does dim posib lleihau y log felly yr ateb oedd dympio’r tablau SQL, dileu a ail-greu y gronfa ddata a’i lwytho nôl fewn.

A dyna ni, mae’r blog mewn gwell siap – ond sut i atal y sbam unwaith eto? Roedd y fersiwn WordPress yn eitha hen felly y peth cyntaf oedd uwchraddio i’r fersiwn diweddaraf – mae hynny yn bwysig o ran diogelwch beth bynnag. Yr ail beth oedd gosod y sylwadau i gau ar ôl 60 diwrnod.

Y trydydd oedd gosod ategyn gwrth-sbam. Mae Akismet yn dod fel rhan o feddalwedd WP ond mae angen i flogiau masnachol dalu am y gwasanaeth. Dwi wastad wedi defnyddio Spam Karma sy’n gweithio’n dda ond ddim yn cael ei ddatblygu rhagor. Posibilrwydd arall yw Antispam Bee sy’n ategyn Almaenaidd a dwi am roi cynnig ar hwn cyn bo hir.

Postiwyd yn Gwaith, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Techflog #4

Techflog #3

Mae yna ryw fath o thema i gofnod heddiw sef meddalwedd agored a gwasanaethau am ddim. Does dim fath beth a meddalwedd ‘am ddim’ wrth gwrs – nid dyna ystyr y gair yn ‘free software’. Mae meddalwedd agored yn ddefnyddiol iawn i adeiladu gwefan neu wasanaeth defnyddiol yn rhwydd. Mae’r gost yn dod o addasu, cynnal a diweddaru.

Er mai adeiladu gwefannau pwrpasol yw ein arbenigedd, weithiau mae’n haws defnyddio meddalwedd oddi ar y silff ar gyfer blogiau syml, fforymau ac ati. Mae cadw’r meddalwedd yn gyfredol yn rhan o’n gwasanaeth lletya, a dyna o’n i’n wneud heddiw.

Mae ganddo ni tua hanner dwsin o flogiau WordPress mewn gwahanol lefydd a cwpl o rai mewnol felly wnes i wneud yn siwr fod y rheiny wedi eu diweddaru. Nid fersiwn WordPress ei hun yw’r drafferth gan fwyaf ond yr holl ategynnau sy’n cael eu defnyddio. Yn aml iawn dyna lle mae’r gwallau diogelwch hefyd, felly rhaid sicrhau bod y patshys yn cael eu gosod.

Yn fewnol rydyn ni’n defnyddio Docuwiki ar gyfer cofnodi pob math o wybodaeth ar ein systemau yn ogystal a canllawiau a dogfennaeth technegol. Roedd angen diweddaru hwnnw.

Fe ges i gyfarfod cyflym hefyd i drafod meddalwedd e-ddysgu Moodle. Dwi’n cynnal un gwefan o’r fath yn barod a mae cleient arall wedi holi am y meddalwedd. Dyna un arall lle mae yna ddatblygiad cyson a mae yna prif fersiwn newydd yn dod allan bob chwe mis. Felly mae yna fwy o gost na’i osod yn y lle cynta, mae angen meddwl am y diweddaru cyson a profi i wneud siwr nad oes dim byd yn torri.

Yn olaf am heddiw roedd trafodaeth am ddefnydd un gwefan o API Google Maps. Mae Google yn gosod cyfyngiad ar ddefnydd mapiau o ran nifer o alwadau i’r API. Mae’r wefan yn un lle mae mapiau yn nodwedd hanfodol a mae’r wefan yn prysuro. Er hyn dyw hi ddim wedi pasio’r cyfyngiad eto (25,000 dangosiad y diwrnod) ond roedd angen esbonio i’r cleient be fasen digwydd os oedd angen iddyn nhw brynu trwydded fasnachol. Efallai fod y frechdan yn flasus ond nid yw’r caws am ddim!

Postiwyd yn Gwaith, Technoleg | 2 Sylw

Techflog #2

Dyma’r ail ddiwrnod i gofnodi fy nghwaith. Be wnes i heddiw? Dwi ddim wir yn cofio, felly rhaid i fi edrych ar fy ebost i weld. Y peth gorau oedd nad oedd yn rhaid i mi ddelio gyda’r ddesg gymorth, felly roedd cyfle i wneud nifer o fân-bethau eraill.

Fe aeth gwefan newydd yn fyw yn gynharach yn yr wythnos ond roedd y cwsmer wedi anghofio fod ganddyn nhw flog fel rhan o’r hen wefan a roedden nhw eisiau ni gynnal hwnnw. Fe welais i mai blog WordPress oedd ganddyn nhw felly does dim problem i gymeryd hwn ymlaen.

Roedd yna bethau gweinyddol i wneud gyda tystysgrifau SSL – angen adnewyddu un ac angen gosod un arall yn barod ar gyfer symud gwefannau yn y misoedd nesaf.

Ers rhai misoedd dwi’n gweithio ar brosiect mawr i symud nifer o wefannau o un cwmni lletya i’r llall – rwy’n delio gyda hyn ar ran y cleient. Mae’n gyfle i ddiweddaru y platfform a pharatoi am y dyfodol a felly mae digon o waith yn gosod fyny, profi a dysgu pethau newydd. Heddiw roedd 4 rhith-weinydd arall wedi eu creu ar gyfer gwefan newydd sydd i’w lansio erbyn mis Medi.

Felly roedd angen gwneud yn siwr fod gen i fynediad i rheiny a ddaeth hi’n amlwg nad oedd y rheolau wal dân wedi eu gosod yn gywir, felly dyna’r peth cynta oedd angen cywiro. Mae’r gwaith yma yn eitha cymleth i esbonio felly mae’n bosib wneith e gofnod hirach rhywbryd. Ond dyna ni am ddiwrnod arall.

 

Postiwyd yn Gwaith, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Techflog #2

Techflog #1

Dyma ymgais ar gyfres o gofnodion am greu, datblygu a cynnal gwefannau o fy mhrofiad ddydd i ddydd. Wnai drio esbonio pethau yn syml ond weithiau wnai gofnodi mwy o fanylion technegol (os oes diddordeb). Dwi’n gweithio fel gweinyddwr systemau i Imaginet ond fel gyda pob cwmni bach dwi’n gwisgo sawl het – a mi fydd hyn yn dod yn amlwg.

At heddiw felly. Roedd darn mawr o waith i fynd yn fyw ar gyfer cwmni rheilffyrdd Southern. Mae ganddyn nhw system cardiau clyfar i deithio ar y trên. Cyn hyn roedd yn bosib prynu tocynnau tymor drwy adran o’r wefan a roedd hynny yn cael ei drosglwyddo i’r cerdyn wrth gyffwrdd y gât tocynnau yn yr orsaf. Y darn nesaf o waith oedd ychwanegu tocynnau ‘talu wrth fynd’ a mae’r gwaith wedi cymeryd misoedd i ddatblygu a phrofi.

Roedd yn rhaid cau y porth cardiau clyfar drwy’r dydd i wneud y newidiadau. Fe wnes i sgrifennu sgript fase’n gwneud hyn yn awtomatig am 6 y bore er mwyn rhoi neges i ddefnyddwyr y wefan. Yn anffodus roedd yn rhaid i gyd-weithiwr godi yn gynnar i wneud yn siwr fod popeth wedi gweithio! Mae’r porth cardiau yn gymharol syml am ei fod wedi ei adeiladu ar ben gwasanaeth gwe (web service) gan gwmni arall, sy’n darparu systemau cardiau clyfar i ran fwyaf o’r diwydiant teithio. Er mwyn cwblhau’r gwaith roedden nhw yn diweddaru eu systemau yn ystod y bore.

Yna yn y prynhawn roedden ni yn ryddhau y diweddariad i’r wefan a’i brofi tu ôl y llenni. Roedd ychydig o broblemau i ddechrau ond nid o’n ochr ni. Fe wnaeth y cleient wedyn wneud eu profion nhw i sicrhau fod e’n barod i fynd yn fyw. Erbyn 7pm o’n i adre a fe ges i’r ebost i’w roi yn fyw a fe wnes i agor y porth eto.

Roedd hynny tua 10% o fy ngwaith heddiw. Be arall wnes i? Mae fy nghyd-weithiwr i ffwrdd ar wyliau (wedi bod yn Glastonbury) felly roeddwn i ar y ddesg gymorth, yn ateb neu ddidoli ticedi newydd, ateb ebost a cymryd galwadau ffôn. Ac ar ben hynny, mae angen cefnogi’r datblygwyr yn fewnol, drwy ryddhau diweddariadau i’r gwefannau profi a byw. A roedd gen i waith fy hun i wneud… ond dyna ddigon am heddiw.

Postiwyd yn Gwaith, Technoleg | 1 Sylw

S4C a’i cynlluniau aneglur

Fe ymddangosodd y ddau Jôs o S4C o flaen “Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol” yn y Cynulliad ddoe. Fe ddatgelodd y prif weithredwr, Ian Jones, fod y sianel yn gobeithio lansio sianel HD ar loeren erbyn 2016. A stwffiwch bawb arall sy’n gwylio ar Freeview.

Roedd sianel S4C Clirlun ar gael ar lwyfan Freeview rhwng Gorffennaf 2010 a Rhagfyr 2012. Mae’r BBC yn gwneud camgymeriad drwy ddweud mai ar Freesat oedd S4C Clirlun – doedd y sianel erioed ar gael ar loeren er roedd bwriad i’w lansio ar Freesat rhywbryd.

Yn ôl S4C, fe arbedwyd £1.5m drwy gau Clirlun ar Freeview ond fe fydd Clirlun ar Freesat yn costio tua £1m. Dyw hyn ddim yn arian mân felly – mae’r arian a arbedwyd o gau Clirlun yn amlwg wedi ei wario ar raglenni ond nawr fe fydd angen gwneud arbedion o £1m eto.

Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael i’r mwyafrif ag yn hygyrch. Dyw dewis un llwyfan darlledu dros y llall ddim yn ateb y gofynion hyn.

Gan fod yna gost uchel iawn o ddarlledu S4C yn HD ar unrhyw lwyfan, fasen i’n argymell y byddai’n llawer gwell gwario arian ar lwyfan sy’n fwy agored i bawb – y we – a uwchraddio Clic i ddarparu ffrydiau HD a lawrlwythiadau. Mae fersiwn newydd o Clic mewn ‘beta’ ar hyn o bryd ond does dim sôn am welliannau i’r llun SD heb sôn am ddarparu HD. Ond mae’n edrych yn bert, felly peidiwch poeni am safonau technegol.

Mae’r BBC wedi darlledu ffrydiau HD ar yr iPlayer ers 2009. Nid yw’n HD ‘llawn’ ond mae e yn 720p a gyda datblygiadau yn cywasgu fideo mae’r ansawdd yn uchel iawn.

Er mwyn gwylio ffrydiau HD iPlayer mae’r BBC yn argymhell cysylltiad o 3.5Mbps er dwi’n gwybod fod yn gweithio ar gysylltiadau tua 3Mbps. Mae’n wir i ddweud nad oes gan bawb yng Nghymru gysylltiad rhyngrwyd da ar y cyflymder hyn ond bwriad y llywodraeth yw i ddarparu band llydan cyflym i’r rhan fwyaf o Gymru erbyn 2016. Hyd yn oed heb hynny mae dal yn bosib i lwytho lawr rhaglenni HD o’r iPlayer i’w gwylio heb drafferth.

Mae yna hefyd fwlch mawr o ran darparu rhaglenni S4C (hen a newydd) ar lwyfannau fel iTunes, Netflix ac ati – llwyfannau digidol lle taw cynnwys HD yw’r norm (a mae trafodaeth pellach am hyn ar Ffrwti).

Mewn adeg lle mae eu cyllid yn gwbl ansicr, yn hytrach na gwario miliynau ar ddarlledu lloeren, fasen i’n awgrymu yn garedig y byddai llawer gwell defnydd o gyllid S4C i fuddsoddi o ddifrif mewn gwasanaethau arlein fel Clic neu bartneriaethau gyda darparwyr digidol eraill.

Postiwyd yn Teledu, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar S4C a’i cynlluniau aneglur