Teledu lleol

Mi fydd sianel deledu lleol newydd yn lansio ar gyfer Caerdydd mewn wythnos ar Hydref 15. Fe enillodd cwmni ‘Made in Cardiff’ y drwydded ddwy flynedd yn ôl a maent yn rhan o gwmni ehangach ‘Made Television’ sydd a thrwyddedau eraill ym Mryste, Leeds, Tyne and Wear a Middlesborough.

Dyma’r fideo promo sydd yn chwarae ar hyn o bryd ar sianel 23 ar Freeview a Sky 134

Prosiect Jeremy Hunt yw teledu lleol, o’i amser fel y Gweinidog Diwylliant yn San Steffan. Mae’r syniad yn deillio o’i brofiadau yn gweld sianeli lleol yn America, ers nad oes tystiolaeth y byddai’n gweithio yma. Yn yr UDA mae’r sianeli lleol yn gysylltiedig a un o’r prif rwydweithiau sy’n llenwi’r amserlen raglenni, gyda opt-owts lleol ar gyfer rhaglenni newyddion a nodwedd.

Mae £25m o’r cyllid ar gyfer lansio y sianeli lleol newydd yn dod o ffi drwydded y BBC, gyda gwerth £5m miliwn o gynnwys i’w roi gan y darlledwr. Mae’n ymddangos felly ei fod yn ceisio creu cystadleuaeth i newyddion lleol y BBC ond gan ddefnyddio ei arian a’i hadnoddau nhw.  Fase dim angen gwneud hyn os oedd cynnyrch rhanbarthol ITV dal i fod yn gryf ond mae nhw wedi ei hen lyncu fewn i un cwmni canolog, drwy gymorth y Ceidwadwyr, sydd nawr yn ceisio ail-greu yr hyn a gollwyd.

Fe roedd yna sianel deledu lleol i Gaerdydd o’r blaen yn y 90au ar y tonfeddi analog gan ddefnyddio trwydded cyfyngedig.

Pa mor llwyddiannus fydd y sianel ddigidol newydd? Mi fasech chi’n meddwl y byddai digon o boblogaeth yn ardal Caerdydd (dros filiwn) i gynnal gwasanaeth llewyrchus. Fodd bynnag, mae dros 8 miliwn o bobl yn Llundain Fawr – a mae eu sianel lleol nhw (sy’n cael ei ariannu gan y biliwnydd Evgeny Lebedev) newydd gael caniatád gan Ofcom i leihau eu oblygiadau ar gyfer deunydd lleol.

Dyw e ddim yn edrych yn addawol felly ond fe gawn ni weld.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cyfryngau, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.