Techflog #4

Wna’i ganolbwyntio ar un peth yng nghofnod ola’r wythnos. Fe wnaethon ni lansio gwefan yn gynharach wythnos yma ond cael gwybod wedyn fod angen symud y blog o’r hen wefan.

Heddiw fe ges i gopi o’r ffeiliau ar gyfer rhedeg y blog WordPress. Y peth syfrdanol cynta oedd fod y gronfa ddata MySQL dros 1GB o faint! Fel cymhariaeth, dim ond 3MB yw maint cronfa y blog yma.

Fe ddaeth hi’n amlwg yn gyflym iawn beth oedd ar fai – roedd 100 o gofnodion yn y blog ond dros 400,000 o sylwadau! Ac ie, sbam oedden nhw gyd mwy neu lai. Mi fyddai wedi bod yn amhosib mynd drwy bob sylw i’w cymedroli felly roedd angen ffordd o ddileu sbam.

O edrych drwy’r sbam roedd yna rhai allweddeiriau amlwg. Wna’i ddim rhestru nhw fan hyn ond mae nhw gyd yn enwau brand enwog, yn feddyginiaethau a nwyddau ffasiwn. Un peth da yw bo nhw gyd wedi eu cymedroli, ac erioed wedi eu cyhoeddi ar y blog. Dim ond tri sylw oedd wedi cyhoeddi a roedd rheiny yn edrych yn fwy dilys.

Roedd yn gwneud synnwyr felly i ddileu yr holl sylwadau wedi eu cymedroli. Y broblem yw fod y gronfa ddata mewn fformat InnoDB, sy’n cadw cofnod trafodol (transaction) o bob gweithred a roedd hwnnw dal yn 1GB er fod maint y data lawr i 18MB. Does dim posib lleihau y log felly yr ateb oedd dympio’r tablau SQL, dileu a ail-greu y gronfa ddata a’i lwytho nôl fewn.

A dyna ni, mae’r blog mewn gwell siap – ond sut i atal y sbam unwaith eto? Roedd y fersiwn WordPress yn eitha hen felly y peth cyntaf oedd uwchraddio i’r fersiwn diweddaraf – mae hynny yn bwysig o ran diogelwch beth bynnag. Yr ail beth oedd gosod y sylwadau i gau ar ôl 60 diwrnod.

Y trydydd oedd gosod ategyn gwrth-sbam. Mae Akismet yn dod fel rhan o feddalwedd WP ond mae angen i flogiau masnachol dalu am y gwasanaeth. Dwi wastad wedi defnyddio Spam Karma sy’n gweithio’n dda ond ddim yn cael ei ddatblygu rhagor. Posibilrwydd arall yw Antispam Bee sy’n ategyn Almaenaidd a dwi am roi cynnig ar hwn cyn bo hir.

Postiwyd y cofnod hwn yn Gwaith, Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.