Rhyw ddydd…

Llongyfarchiadau i’r awdures Jan Morris ar ‘ail-briodi’ ei phartner mewn partneriaeth sifil yn ddiweddar. Wrth ddarllen y stori ar wefan newyddion BBC Cymru ges i syndod o ddarllen ei bod hi wedi cael “llawdriniaeth i newid ei rywioldeb“.

Pa fath o lawdriniaeth fyddai hynny ‘te? Ydi’n deg i ddweud nad yw newyddiadurwyr y BBC yn deall y gwahaniaeth rhwng rhyw a rhywioldeb?

Postiwyd yn Newyddion | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Rhyw ddydd…

Eryri o’r awyr

Copa’r Wyddfa ar Mapiau Google. Mae e hyd yn oed yn well yn Google Earth wrth hedfan o gwmpas y tirwedd 3D.


Dangos map yn fwy

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Eryri o’r awyr

Bywyd ar Mawrth?

Fe ddylai’r teitl gyfeirio at y blaned Mawrth wrth gwrs, am fod angen gwahaniaethu rhwng dyddiau’r wythnos, misoedd a’r planedau. Dyw BBC Cymru ddim wedi deall hyn eto, sy’n golygu fod nhw’n dangos pethau gwirion fel:

Mawrth 18 Mawrth 2008

Postiwyd yn Cymraeg, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Bywyd ar Mawrth?

O fy nuw, mae’n llawn o sêr!

Diolch i Arthur C. Clarke am danio fy nychymyg.

Postiwyd yn Ffuglen wyddonol | Sylwadau wedi eu Diffodd ar O fy nuw, mae’n llawn o sêr!

Rhwydwaith treftadaeth

Dros y flwyddyn diwetha’ rwy’ wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect Herian ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae’r ciosgs yn darparu gwybodaeth am hanes y lleoliad, yn dangos beth arall sydd i’w wneud yn yr ardal a llefydd i aros.

Rôl fach oedd gen i yn yr holl beth – rwy wedi bod yn helpu gosod pob ciosg yn y gwahanol leoliadau a’u cysylltu i’r we. Gan mai y cynghorau lleol sy’n darparu’r cysylltiad rhyngrwyd fel arfer, mae hynny wedi bod yn dipyn o sialens a dweud y lleia. O ran technoleg, mae’r ciosg wedi ei wneud o ddur gloyw a gwydr a mae cyfrifiadur bach twt wedi ei guddio tu fewn iddo. Mae’r cyfrifiadur yn rhedeg dim byd mwy clyfar na Windows XP a porwr arbennigol sy’n atal pobl (wel, plant) rhag ffidlan gyda’r peth. O leia dyna’r theori.

Roedd y teulu Griffiths o gyfres teledu’r Coal House yno yn eu dillad o’r cyfnod oedd yn helpu’r awyrgylch. Wnaethon nhw grybwyll y ffaith fod cyfres newydd o’r Coal House ar y gweill. Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Rhodri Glyn, araith fer gan gyfaddef nad oedd wedi gweld y Coal House a plîs allai’r BBC ddanfon “CDs” ato. Dechrau da.

Heblaw am y lansiad, y peth pwysig oedd y ‘cyfleon lluniau’ i bob un o’r partneriaid sy’ wedi cyfrannu i’r prosiect. Roedd y teulu yn amyneddgar iawn wrth dynnu lluniau am hanner awr ond mae nhw’n edrych fel petai nhw’n mwynhau y sylw. Wrth sefyll gyda nhw yn y ‘bwffe’ nes ymlaen mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi blino am siarad am eu profiad 5 mis yn ddiweddarach!

Postiwyd yn Gwaith, Hanes | 3 Sylw