Diolch i Arthur C. Clarke am danio fy nychymyg.
O fy nuw, mae’n llawn o sêr!
Rhwydwaith treftadaeth
Dros y flwyddyn diwetha’ rwy’ wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect Herian ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae’r ciosgs yn darparu gwybodaeth am hanes y lleoliad, yn dangos beth arall sydd i’w wneud yn yr ardal a llefydd i aros.
Rôl fach oedd gen i yn yr holl beth – rwy wedi bod yn helpu gosod pob ciosg yn y gwahanol leoliadau a’u cysylltu i’r we. Gan mai y cynghorau lleol sy’n darparu’r cysylltiad rhyngrwyd fel arfer, mae hynny wedi bod yn dipyn o sialens a dweud y lleia. O ran technoleg, mae’r ciosg wedi ei wneud o ddur gloyw a gwydr a mae cyfrifiadur bach twt wedi ei guddio tu fewn iddo. Mae’r cyfrifiadur yn rhedeg dim byd mwy clyfar na Windows XP a porwr arbennigol sy’n atal pobl (wel, plant) rhag ffidlan gyda’r peth. O leia dyna’r theori.
Roedd y teulu Griffiths o gyfres teledu’r Coal House yno yn eu dillad o’r cyfnod oedd yn helpu’r awyrgylch. Wnaethon nhw grybwyll y ffaith fod cyfres newydd o’r Coal House ar y gweill. Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Rhodri Glyn, araith fer gan gyfaddef nad oedd wedi gweld y Coal House a plîs allai’r BBC ddanfon “CDs” ato. Dechrau da.
Heblaw am y lansiad, y peth pwysig oedd y ‘cyfleon lluniau’ i bob un o’r partneriaid sy’ wedi cyfrannu i’r prosiect. Roedd y teulu yn amyneddgar iawn wrth dynnu lluniau am hanner awr ond mae nhw’n edrych fel petai nhw’n mwynhau y sylw. Wrth sefyll gyda nhw yn y ‘bwffe’ nes ymlaen mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi blino am siarad am eu profiad 5 mis yn ddiweddarach!
Rhywbeth Da ’08
O’n i’n ffan mawr o’r Utah Saints yn y 90au a mae nhw wedi ail-ryddhau mics newydd o Something Good yn ddiweddar. Dwi’ ddim yn ffan mawr o’r mics newydd ond mae yna fideo difyr i fynd gyda’r trac.
‘Sdim cysylltiad â Chymru fel y cyfryw (sori Wedi 7) dim ond fod cyfarwyddwr y fideo eisiau dewis rhywle ‘obscure‘ fel lleoliad ar gyfer dyfeisiad y ddawns ‘rhedeg‘, fel welwch chi:
Undeb Rygbi Cymru a’r Iaith
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer eu defnydd o’r Gymraeg. Mi fydd yn rhaid gweld os yw’r addewidion yn cael eu gwireddu ond maen nhw bell ar ei hôl hi.
Fe wnaeth cyd-weithiwr i mi cael trafodaethau gyda nhw 9 mlynedd yn ôl ynglyn a adeiladu gwefan fyddai wedi bod a cynllun dwyieithog (sydd yn ddi-bwynt braidd os nad yw cwsmer yn fodlon cyfieithu’r cynnwys). Os ydyn nhw am newid agwedd o ddifri nawr, efallai yr hoffen nhw roi cynnig i brynu urc.co.uk oddi wrthon ni? Mi fyddai’n arbed ni rhag cael ymholiadau di-ri am yr ‘United Reform Church’.
BBC Cymru 2.0
Newydd sylwi fod hafan BBC Cymru wedi newid a brand “BBC Cymru’r Byd” wedi diflannu. Mae’r hafan newydd yn efelychu arddull prif hafan y BBC ond heb y nodweddion gwe 2.0. Mae’n eitha glan a defnyddiol ar y cyfan.
Dau bwynt bach ieithyddol – lle mae’r ‘Dydd’ wedi mynd yn y dyddiadau – ‘Dydd Iau, Dydd Gwener ayyb’. Ac o’n i’n meddwl ein bod ni wedi cael gwared ar y gair ‘arbed’ (save) ers sbel a’i newid i rywbeth mwy synhwyrol fel ‘cadw’?