Croeso i wallau gweinydd Cymru

A peth arall… Dros y flwyddyn ddiwetha, mae gwefannau Croeso Cymru wedi cael ei ail-wampio yn raddol bach. Cwmni o Awstralia oedd yn gyfrifol am y brif wefan o Gorffennaf 2002 ymlaen ond nawr mae’r gwaith wedi mudo nôl i gwmni o Gymru. Mae hyn yn ‘beth da’.

Beth sydd ddim mor dda yw’r ffaith fod y wefan yn torri mor hawdd. Dyma ges i wrth chwilio am lety yng Ngheredigion:

Gwall Croeso Cymru

Braidd yn siomedig, yn enwedig gan fod datblygwyr cwmni Box o Gaerdydd yn arbennigwyr ar XML, yn ôl pob son.

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Croeso i wallau gweinydd Cymru

Ar ben fy hun

Dwi ar ben fy hun yn y swyddfa, tra fod pawb yn y dafarn (wel mae rhaid i rywun ateb y ffôn, dyna fe esgus). Dwi’n chwarae cerddoriaeth FrankMusik yn uchel. Perffaith! (ac ydi mae’r blog yma yn dipyn o twityr heddiw).

Postiwyd yn Gwaith | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Ar ben fy hun

Geiriau cyffredin

Yn ôl tudalen ar wefan Croeso Cymru:

About 65% of Snowdonians speak Welsh. So it helps to know a few common words, like ‘arddunol’ (beautiful), ‘syfrdanol’ (stunning), and ‘hyfryd’ (lovely)

Hy? Bues i’n byw yng Nghwynedd am 9 mlynedd.. chlywais i erioed y gair. Mae’n air da i farddoniaeth falle ond ydi e’n air cyffredin? Prydferth yw’r gair mae pobl yn ddefnyddio ar lafar.

Postiwyd yn Iaith | 1 Sylw

Popeth sy’n digwydd

Albym newydd gan David Byrne a Brian Eno – allwch chi feddwl am unrhywbeth gwell? Dwi’n dal i wrando ar hwn ond mae yna cwpl o draciau difyr mor belled.

Postiwyd yn Cerddoriaeth | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Popeth sy’n digwydd

Charles Byrd

Dwi wedi ychwanegu categori ‘Celf’ ar gyfer y cofnod hwn, a dwi ddim yn gwybod faint o ddefnydd gaiff e. Roedd arddangosfa o luniau Charles Byrd yn yr Eisteddfod.

Mae ei luniau o’r 50au yn reit ffantasïol ac yn gwneud i Gaerdydd edrych fel ryw bentre bach pert yn Ffrainc. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys ei ‘gerfluniau symudol’, fel mae’r llun isod yn dangos. Roedd y rhain wedi bod yn eistedd mewn atic am flynyddoedd a roedd y gwe pry cop yn dal yn hongian oddi arnyn nhw.

Cerflun Symudol 2

Cerflun Symudol 1

Cerflun Symudol 3

Postiwyd yn Celf, Lluniau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Charles Byrd