Dr Hoo

Dim Hoo? Pwy yw Dr Hoo? Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn y gyfres fer sy’n cael ei ddangos ar y we gan Virgin Media. Cwestiwn arall yw ‘pwy fyddai’n gwylio’r fath beth’? Mae e’n wael, ac eto’n dda a… dwi wedi drysu. Mae’r prif gymeriad i fod yn Gymro llysieuol aml-bersonoliaeth, sydd efallai yn esbonio pam fod yr acen ym amrywio o Lerpwl i Rhyl ac i rhywle amhenodol yn y Cymoedd.

Mae’n saff i’w wylio yn y gwaith gyda llaw ond mae yna ychydig o olygfeydd ynddo wnaeth i fi ddechrau meddwl “dal ‘mlan, lle mae hwn yn mynd nesa'”?

Mae’r golygfeydd yn Dr Hoo yn llusgo’n ymlaen ychydig yn rhy hir. Mae’r bylchau hir o ddistawrwydd yn teimlo’n lletchwith, fel ffilm Ffrengig ond heb y golygfeydd eang o gefn gwlad. Er, mai yna ryw fath o stori yma a rhaid i ddychymyg y gwyliwr lenwi’r bylchau. Dwi dal ddim yn gallu penderfynu os yw hwn yn waith athrylithgar neu yn un o’r syniadau gwaetha am raglen deledu ers peth amser.

Postiwyd yn Ffuglen wyddonol, Fideo | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Dr Hoo

Eira 2009

Eira

Postiwyd yn Lluniau | 1 Sylw

Gofyn am gyfarwyddiadau

Wrth gerdded heibio’r Amgueddfa Genedlaethol heno fe glywes i ddyn yn gweiddi ar draws y ffordd o’i gar – “Hey!“. Gerddes i ‘mlan am ychydig (mae yna nytyrs o gwmpas) ond redodd e draw ata’i a gweiddi “Oi, mate!“. Ar ôl i fi droi rownd, gofynnodd ‘e os o’n i’n gwybod lle oedd y CIA. Wnes i ddyfalu (yn gywir) mai gofyn am gyfarwyddiadau teithio oedd ‘e a nid cwestiynu fy ngwybodaeth ddaearyddol o ganolfannau adloniant y brifddinas.

Yr unig beth oedd i’n gallu dweud oedd “Umm, yes, it’s in that direction“, a phwyntio fy mys yn fras i’r cyfeiriad lle roeddwn i’n eitha siwr fod y CIA yn bodoli. Mae hynny’n hollol pathetig.

Wnes i ddweud wrth y dyn mod i ddim yn hollol siwr sut i gyrraedd yna ond fydde’n well dilyn y ffordd i ganol y ddinas a holi eto. Ar ôl cerdded i ffwrdd wnes i ddechrau pendroni pa ffordd oedd angen iddo fynd ac wrth roedd e’n reit syml. Mynd i’r chwith yn y gyffordd a mynd tuag at Ffordd Casnewydd, a wedyn troi i’r dde cyn y bont, mynd lawr heibio’r orsaf drenau a troi i’r chwith ar y gyffordd nesaf. Can’t miss it. Wrth gwrs roedd e’n hawdd i weithio hynny allan pum munud wedyn.

Pam fod pobl mewn ceir o hyd yn gofyn i mi roi cyfarwyddiadau? Dwi ddim yn gyrru, dwi byth yn cofio enwau strydoedd a does gen i ddim llawer o ddealltwriaeth o sut i roi cyfarwyddiadau, hyd yn oed os oeddwn i’n gwybod y ffordd.

Mae yna fathodynnau ar gael sy’n dangos i gwsmeriaid fod rhywun yn gallu siarad Cymraeg – efallai fod hi’n syniad creu bathodyn i rybuddio gyrrwyr ceir – “Sori, ond fi’n iwsles yn rhoi cyfarwyddiadau, peidiwch a gofyn i fi byt”.

Postiwyd yn Bywyd | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gofyn am gyfarwyddiadau

Torri coeden

Sawl gweithiwr o’r cyngor sydd angen i dorri coeden? Ateb: 6. 1 i dorri’r goeden a 5 i sefyllian o gwmpas yn yfed mygiau o de:

Coeden yn y gamlas

Roedd hi’n foncyff trwchus iawn chwarae teg felly fe gymerodd hi dros 4 awr i’w dorri a 3 dyn yn cymeryd eu tro gyda’r llif gadwyn. Fe gwympodd y goeden lawr rhyw 18 mis yn ôl gan greu pont naturiol i’r wiwerod groesi o un ochr i’r llall. Mae’r goeden yn cael ei dynnu mas o’r afon sydd tu ôl i’r swyddfa, a dyna be rydyn ni wedi bod yn gwastraffu’n amser yn gwylio heddiw.

Postiwyd yn Cyffredinol | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Torri coeden

Brechdanau Cymraeg

Ers tro nawr ‘wi wedi gweld fan yn mynd o gwmpas Caerdydd gyda’r arwydd ‘Brechdanau Cymraeg’ ar ei ochr. Heddiw weles i’r gyrrwr yn tynnu mewn i brif adeilad Prifysgol Caerdydd, felly es i draw a gofyn iddo:

“Beth yw’r brechdanau Cymraeg ‘ma ‘te, mêt?”

“Sorry?”

“Brechdanau? Pwy yw’r cwmni?”

“Oh, breckdano, the sign on the van? Sorry, don’t speak Welsh. Yeah, it’s the boss’s idea to drum up some business, like”.

“Oh right, do you know it means ‘Welsh-speaking sarnies’?”

“Yeah, that’s it. Pretty special sandwiches, these are.”

“What do you mean?”

Fe gymrodd un o’r brechdanau o’r blwch yng nghefn y fan a’i gynnig i fi.

“There you go, do you wanna buy one?”

“Looks alright…”, wedes i ar ôl ryw olwg cloi ar y frechdan.

“Give ‘im a squeeze”, medde’r dyn.

Wasges i’r frechdan yn garcus. Daeth llais rhywle o ganol y frechdan.

“Shw mae! Rwy’n frechdan wedi ei wneud gyda tafell o fara gwenith cyflawn a’i lenwi gyda cig cyw iâr, tomato, letys a mayonnaise. Rwy’n cynnwys tri chan calori. Dwi’n flasus, bwytwch fi!”

“Great innit!”

“Yes, very clever!”, medde fi, “But isn’t it easier just to print labels?”

“Well it’s the high-tech way, the boss says. We got a grant to do it, see?”

Dwi ddim yn gwybod sut mae nhw wedi llwyddo i gael brechdan i siarad Cymraeg – er wrth gwrs rydyn ni gyd yn gyfarwydd a’r rhai sy’n siarad Saesneg a Ffrangeg.

Ie wir – brechdanau Cymraeg. Be’ nesa?

Postiwyd yn Cyffredinol | 3 Sylw