Archifau Categori: Bywyd

Mellt a tharanau

Cododd storm dda iawn neithiwr fel awgrym fod yr Haf yn dod yn araf bach. Wnes i ffilmio ychydig o’r storm gyda’r camera digidol bach a dyma rhai o’r mellt mwya trawiadol.

Postiwyd yn Bywyd, Fideo | 7 Sylw

Y Syniad Mawr Nesaf

Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu. Continue reading

Postiwyd yn Gwaith, Y We | 1 Sylw

Cwch ar dân…

Newydd gael llun ar ffôn gan fy mrawd, sydd lan yn ynysoedd y Shetland ar gyfer gŵyl Up Helly Aa. Mae’n edrych yn gynhesach fynna na mae e fan hyn yn y tŷ.

Postiwyd yn Bywyd, Lluniau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cwch ar dân…

Diwrnod yn y bae

Fe ges i ddiwrnod yn gwneud pethau twristaidd ym Mae Caerdydd cwpl o fisoedd yn ôl (mynd am drip ar y trên ar draws y Morglawdd ac yn y blaen) ond dim ond nawr dwi’n cael amser i flogio amdano. … Continue reading

Postiwyd yn Bywyd, Ffilm, Lluniau | 3 Sylw

Eira cynnar

Wrth gerdded adre heno drwy Sgwâr Mount Stuart gwelais i eira ar y llawr. Roedd hi wedi bod yn bwrw glaw drwy’r dydd ond doedd hi ddim yn ddigon oer i fwrw eira. Ar ôl troi y cornel fe welais … Continue reading

Postiwyd yn Bywyd, Lluniau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Eira cynnar