Archifau Categori: Bywyd
Cynnwrf yn Nhre Bute
Wrth adael y gwaith neithiwr fe welais i fod yr heddlu wedi ymgynnull i lawr y stryd. Roedd pedwar car heddlu yno a roedd tâp plastig wedi ei glymu ar draws y stryd. Mi roedd rhai o’r heddweision yn sgwrsio … Continue reading
Mellt a tharanau
Cododd storm dda iawn neithiwr fel awgrym fod yr Haf yn dod yn araf bach. Wnes i ffilmio ychydig o’r storm gyda’r camera digidol bach a dyma rhai o’r mellt mwya trawiadol.
Y Syniad Mawr Nesaf
Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu. Continue reading
Cwch ar dân…
Newydd gael llun ar ffôn gan fy mrawd, sydd lan yn ynysoedd y Shetland ar gyfer gŵyl Up Helly Aa. Mae’n edrych yn gynhesach fynna na mae e fan hyn yn y tŷ.
Diwrnod yn y bae
Fe ges i ddiwrnod yn gwneud pethau twristaidd ym Mae Caerdydd cwpl o fisoedd yn ôl (mynd am drip ar y trên ar draws y Morglawdd ac yn y blaen) ond dim ond nawr dwi’n cael amser i flogio amdano. … Continue reading