Peidiwch gofyn sut ond dwi wedi cael gafael ar raglen sy’n cael ei ddefnyddio yn fewnol gan S4C. Dwi wedi ei roi ar y we i bawb gael ei weld.
Mae’r teclyn yn creu syniadau ar gyfer rhaglen, ar hap, gan ddefnyddio cronfa ddata helaeth. Os ydych chi’n gynhyrchydd, efallai bydd hwn yn gymorth i chi feddwl am raglenni rhad wrth i’r toriadau ddod i mewn flwyddyn nesa.
Braidd yn ‘hit and miss’ yw hi, ond nawr ac yn y man mae’n dangos awgrym ar gyfer rhaglen fyddai’n berffaith ar gyfer gwylwyr S4C.
Os ydych chi am awgrymu unrhyw welliannau neu ychwanegu unrhyw wybodaeth i’r gronfa ddata, dwedwch wrtha’i isod!
Gan Carl Morris 3 Medi 2010 - 11:05 am
Penigamp!
Gan Nic Dafis 3 Medi 2010 - 11:23 am
Ti’n fachan drwg, Dafydd Tomos.
Gan Tweets that mention Rhaglen creu rhaglenni « daflog -- Topsy.com 3 Medi 2010 - 11:31 am
[…] This post was mentioned on Twitter by Rhodri ap Dyfrig, Iwan Davies, Iwan Davies, garethpotter, Nic Dafis and others. Nic Dafis said: Mae dyfodol i sianel yn saff yn nwylo @dafyddt: http://da.fydd.org/blog/2010/09/03/rhaglen-creu-rhaglenni/ #pethaubychain […]
Gan Pethau Bychain – casgliad amser cinio | Pethau Bychain 3 Medi 2010 - 12:50 pm
[…] creu rhaglenni S4C gan Dafydd Tomos – “Peidiwch gofyn sut ond dwi wedi cael gafael ar raglen sy’n cael ei ddefnyddio yn […]
Gan Dewi 14 Tachwedd 2010 - 10:33 pm
Da wan, ond un peth diddorol arall fysa pa cwmni sydd wedi ei gynhyrchu. O na snam rhaid: Tinopolis, tinopolis, tinopolis! bydi Tinopolis TV ydy S4C nawr (neu o leiaf subsidary companies Tinopolis!).
Ella un rhaglen da fysa:
“How to Sleep Your Way into the Chief Executive Position at S4C”
Cast ____!