Brwydr y ffonau clyfar

Mae gan y BBC stori heddiw am gynnydd sylweddol yng nghwerthiant ffonau HTC. Dwi wedi sylwi ar lawer o mwy o bobl yn defnyddio ffonau Android gan HTC, yn enwedig merched. Yn ein swyddfa ni, mae iPhone gan bedwar dyn, a’r HTC Desire gan dri menyw ag un dyn (ac un arall ar y ffordd).

Ar y trên hefyd dwi’n sylwi fwy o ferched yn defnyddio ffonau HTC. Oes patrwm yma? Dwi’n amau fod e rhywbeth i wneud a diwylliant ‘macho’ cwmni Apple. Mewn rhyw ffordd ryfedd mae nhw wedi cymryd drosodd o Microsoft fel ‘bwli’ y byd cyfrifiadurol. Mae personoliaeth y pennaeth Steve Jobs i’w wneud a hyn dwi’n siwr ond dwi’n credu fod y ffordd mae Apple yn marchnata hefyd yn apelio fwy at ddynion.

Wrth ryddhau cynnyrch newydd mae Apple yn creu ‘râs’ lle mae cyfrinachedd yn bwysig i ddechrau gyda leaks o wybodaeth tactegol. Mae hyn yn creu cystadleuaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf sy’n arwain at un diwrnod ‘mawr’ lle mae rhaid ymladd i fod y cynta yn y ciw i brynu’r teclyn newydd. Mae hyn yn apelio at gîcs a gîcs gwrywaidd yn sicr.

Heb fod yn rhy ystrydebol dwi’n credu fod merched yn hoffi cymharu wrth siopa a ddim mor frwd dros fod y cynta i’r felin, a bod yn early adopter. Mae yna ddigon o gîcs benywaidd hefyd a mae nhw hefyd yn edrych ar y specs a’r dechnoleg tu ôl i declyn, ond does sdim rhaid fod yn rhan o’r ‘râs’.

Dim ond damcaniaeth yw’r uchod, ond mi fyddai’n ddiddorol iawn gweld unrhyw ystadegau ar y defnydd o ffonau clyfar gan y ddau ryw.

Postiwyd y cofnod hwn yn Newyddion, Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.

3 Responses to "Brwydr y ffonau clyfar"