Rhaglen creu rhaglenni

Peidiwch gofyn sut ond dwi wedi cael gafael ar raglen sy’n cael ei ddefnyddio yn fewnol gan S4C. Dwi wedi ei roi ar y we i bawb gael ei weld.

Mae’r teclyn yn creu syniadau ar gyfer rhaglen, ar hap, gan ddefnyddio cronfa ddata helaeth. Os ydych chi’n gynhyrchydd, efallai bydd hwn yn gymorth i chi feddwl am raglenni rhad wrth i’r toriadau ddod i mewn flwyddyn nesa.

Braidd yn ‘hit and miss’ yw hi, ond nawr ac yn y man mae’n dangos awgrym ar gyfer rhaglen fyddai’n berffaith ar gyfer gwylwyr S4C.

Os ydych chi am awgrymu unrhyw welliannau neu ychwanegu unrhyw wybodaeth i’r gronfa ddata, dwedwch wrtha’i isod!

Ewch ati i greu rhaglenni!

Postiwyd y cofnod hwn yn Cyfryngau, Teledu wedi ei dagio . Llyfrnodwch y paraddolen.

5 Responses to "Rhaglen creu rhaglenni"